Gwasanaeth Casglu Cynnyrch Hylendid Amsugnol (CHA)
Bob 2 Wythnos
Drwy gasglu gwastraff na ellir ei ailgylchu (bagiau du) bob 3 wythnos, deallwn y bydd angen cymorth ar rai aelwydydd i gael gwared ar gewynnau tafladwy a chynnyrch anymataliaeth, a elwir hefyd yn Gynnyrch Hylendid Amsugnol neu CHA. Felly, rydym wedi cyflwyno gwasanaeth casglu ychwanegol i ddelio â’r math hwn o wastraff.
Beth sy’n cael ei dderbyn gan y gwasanaeth casglu CHA?
- Cewynnau tafladwy
- Pob math a maint
- Pants dysgu a ‘Pull-ups’
- Cewynnau nofio
- Gwastraff newid cewynnau megis weips, sachau cewynnau a gwlân cotwm
- Cynnyrch anymataliaeth
- Padiau, pants a chydau o bob math a maint
- Cathetrau gwag, tiwbiau a bagiau stoma/colostomi
- Padiau cadair tafladwy a leinwyr, padelli gwely a phadiau gwely tafladwy
Cysylltwch â ni os nad yw’r math o gynnyrch anymataliaeth yr ydych yn ei ddefnyddio wedi’i restru uchod.
Beth NA FYDD yn cael ei dderbyn gan y gwasanaeth casglu CHA?
- Gwastraff glanweithiol (tywelion glanweithiol/tamponau) – rhowch y rhain yn y bagiau gwastraff na ellir ei ailgylchu
- Gwastraff clinigol heintus, nodwyddau, offer miniog a chwistrellau - Gwastraff meddygol neu glinigol: siaradwch â’ch Bwrdd Iechyd Lleol, tîm nyrsys ardal neu ffoniwch gwasanaeth 111 y GIG
- Gwastraff anifeiliaid
- Deunydd gwely anifeiliaid – gellir rhoi symiau bach yn y bagiau gwastraff na ellir ei ailgylchu neu gall fod yn addas i’w gompostio gartref
- Castiau plaster
- Plastrau, swabiau meddygol a rhwymynnau – rhowch y rhain yn y bagiau gwastraff na ellir ei ailgylchu
- Blancedi a dillad wedi’u baeddu – rhowch y rhain mewn biniau gwastraff na ellir ei ailgylchu
Sut mae’n gweithio
- Unwaith yr ydym wedi derbyn eich ffurflen gais, byddwn yn cysylltu â chi gyda manylion pellach am y gwasanaeth
- Os yw eich cais yn llwyddiannus, bydd pecyn gwybodaeth a chyflenwad o fagiau CHA yn cael ei anfon atoch. Nodwch gall gymryd hyd at 3 wythnos cyn fod y pecyn gwybodaeth a chyflenwad o fagiau CHA cychwynol gael eu dosbarthu.
- Dylid clymu pob bag CHA yn dynn a dylid sicrhau bod yr holl gynnyrch wedi’i gynnwys yn gyfan gwbl o fewn y bag cyn ei gyflwyno ar ymyl y pafin neu’r man casglu y cytunwyd arno
- Bydd y bagiau CHA yn cael eu casglu bob 2 wythnos a byddwn yn rhoi gwybod i chi pryd fydd y diwrnod casglu, gan ddarparu calendr casglu gwastraff CHA
- Os na fydd gwastraff wedi’i gyflwyno ar 3 chasgliad yn olynol, byddwn yn tybio nad oes angen y gwasanaeth arnoch mwyach. Os oes angen i chi ailddechrau’r gwasanaeth, ffoniwch 01545 570881
Sut ydw i’n gwneud cais?
Mae’n rhaid llenwi ffurflen gais i dderbyn y Gwasanaeth Casglu CHA. Mae’r ffurflen gais ar gael wrth glicio’r botwm isod:
Gwneud cais ar gyfer gwasanaeth CHA
Cwestiynau Cyffredin am y gwasanaeth CHA
Beth am gewynnau y gellir eu golchi?
Rydym yn annog defnyddio cewynnau y gellir eu golchi yn hytrach na chewynnau tafladwy. Gweler ein gwefan am wybodaeth ynglŷn â’r Ymgyrch Cewynnau Go Iawn.
Pwy sy’n gymwys ar gyfer y Gwasanaeth Casglu CHA?
Unrhyw ddefnyddiwr CHA sy’n byw yn barhaol yn y cyfeiriad a nodir ar y ffurflen gais. Os oes angen y gwasanaeth hwn ar fwy nag un person yn y cyfeiriad a nodir, rhowch enw’r ddau ynghyd â’u gofynion. Nid oes angen cyflwyno dwy ffurflen gais ar wahân.
A wnewch chi gasglu cewynnau babanod a phlant o bob oed?
Rydym yn deall bod babanod yn datblygu ar oedrannau gwahanol ac felly nid oes cyfyngiad oedran ar gyfer babanod/plant sy’n gwisgo cewynnau.
A allaf i gael cynhwysydd i gadw’r bagiau CHA?
Cyfrifoldeb y preswylydd yw storio’r bagiau rhwng pob casgliad.
Os byddaf yn defnyddio fy nghyflenwad o fagiau CHA i gyd, a allaf ddefnyddio unrhyw fag plastig?
Na. Dim ond bagiau CHA a ddosberthir gan y Cyngor a fydd yn cael eu casglu gan y Gwasanaeth Casglu CHA.
Sut ydw i’n gwneud cais am ragor o fagiau?
Byddwch yn derbyn cyflenwad cychwynnol o fagiau CHA ynghyd â thag gwyn i wneud cais am ragor o fagiau. Os oes angen rhagor o fagiau CHA arnoch ac nad oes tag gwyn gennych, cysylltwch â ni. Byddwn yn trefnu bod cyflenwad arall o fagiau CHA yn cael eu dosbarthu i chi.
Beth sy’n digwydd os byddaf yn rhoi’r deunydd anghywir yn y bag CHA?
Os bydd deunyddiau heblaw’r eitemau a dderbynnir yn cael eu cyflwyno yn y bagiau CHA ni fyddant yn cael eu casglu. Gall cartrefi sy’n rhoi’r deunyddiau anghywir yn y bagiau CHA yn gyson yn cael eu tynnu o’r gwasanaeth casglu.
A allaf roi cewynnau tafladwy a chynnyrch anymataliaeth gyda’r gwastraff sy’n mynd i’r bagiau du?
Cewch, ar ôl clymu’r gwastraff mewn dau fag.
Mae fy ŵyr/wyres yn dod i aros gyda mi; a fyddaf yn gallu derbyn y casgliad?
Na, gan nad hwn yw cyfeiriad parhaol y plentyn. Fodd bynnag, os yw cyfeiriad parhaol y plentyn wedi’i gofrestru i dderbyn y gwasanaeth yng Ngheredigion, gallwn argymell bod y cewynnau yn cael eu hanfon yn ôl i gyfeiriad parhaol y plentyn er mwyn eu casglu.
Rwy’n fam-gu/tad-cu/perthynas sy’n darparu gofal plant am ddim tra bod rhieni’r plentyn yn y gwaith. A fyddaf yn gallu derbyn y gwasanaeth?
Na, gan nad hwn yw cyfeiriad parhaol y plentyn. Fodd bynnag, os yw cyfeiriad parhaol y plentyn wedi’i gofrestru i dderbyn y gwasanaeth yng Ngheredigion, gallwn argymell bod y cewynnau yn cael eu hanfon yn ôl i gyfeiriad parhaol y plentyn er mwyn eu casglu.
Beth fydd yn digwydd i’r CHA a gesglir yn rhan o’r gwasanaeth?
Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru yn rhan o brosiect sy’n ceisio dod o hyd i atebion wrth ailgylchu cynnyrch hylendid amsugnol (CHA). Yn y cyfamser, anfonir cynnyrch hylendid amsugnol i gyfleuster Ynni o Wastraff lle caiff ei drin i gynhyrchu trydan.
Rwy’n defnyddio cynnyrch anymataliaeth ond nid wyf yn dymuno cyhoeddi’r ffaith hon drwy roi sach allan i’w chasglu gan y gwasanaeth casglu CHA. A oes modd darparu’r gwasanaeth hwn mewn modd cyfrinachgar, a sut y gellir trefnu hyn?
Wrth lenwi’r ffurflen mae adran lle gall preswylwyr roi gwybod i ni sut y gallwn eu helpu nhw i ddarparu’r gwasanaeth mor gyfrinachgar â phosib. Rhowch wybod i ni sut y gallwn helpu.
A allaf dderbyn y Gwasanaeth Casglu CHA os ydw i’n warchodwr plant?
Gallwch, ond bydd angen i chi gael cytundeb masnachol gyda ni ar gyfer y math yma o wastraff.