Codi Sbwriel ar gyfer Gwirfoddolwyr
Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â Cadwch Gymru’n Daclus i ddarparu pecynnau codi sbwriel o hybiau penodol ar draws Ceredigion, yn ein llyfrgelloedd yn Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan.
Mae pob pecyn yn cynnwys:
- Teclyn codi sbwriel
- Bagiau sbwriel ac ailgylchu ar gyfer deunyddiau a gasglwyd
- Cylch i gadw’r bagiau ar agor
- Siaced lachar i gadw gwirfoddolwyr yn ddiogel
Gallwch wneud cais i fenthyg pecyn o’ch llyfrgell agosaf drwy ddefnyddio’r ffurflen isod.
Gofynnwn i chi wneud pob ymdrech i ddychwelyd y pecyn erbyn y dyddiad a nodir gennych i’n helpu i sicrhau bod y gwasanaeth benthyca yn rhedeg yn llyfn ac yn caniatáu i gymaint o grwpiau â phosibl i wneud eu rhan i gadw Ceredigion yn ysblennydd!
Archebu eich Offer Codi Sbwriel
Defnyddiwch y dulliau cyswllt isod er mwyn archebu eich offer codi sbwriel
Llyfrgell Ceredigion Library
Canolfan Alun R. Edwards
Queen's Square
Aberystwyth
SY23 2EB
01970 633717
llyfrgell@ceredigion.gov.uk
Delio gyda'ch sbwriel sydd wedi'u codi
Pan yn gwneud trefniadau i gasglu eich pecyn a wnewch chi gysylltu gyda thîm Glanhau Stryd Ceredigion i drefnu lle ac amser er mwyn casglu bagiau o'r sbwriel sydd wedi'u codi. Gallwch gysylltu â'r tîm drwy clic ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk