Ailgylchu mewn Ysgolion
Sgyrsiau am Ailgylchu mewn Ysgolion
Ar gais yr ysgolion, bydd swyddogion o Dîm Ailgylchu Ceredigion yn ymweld â'r disgyblion i roi sgyrsiau am ailgylchu a lleihau gwastraff. Am ragor o fanylion, cysylltwch â'r Tîm Ailgylchu.
Bydd aelodau'r Tîm Ailgylchu, ynghyd â'u cyfaill Aled Ailgylchu yn ymweld â sioeau teithiol a digwyddiadau lleol eraill i hyrwyddo ailgylchu.
Eco-Sgolion
Menter ryngwladol yw'r rhaglen Eco-Sgolion sy'n annog disgyblion i gymryd rhan mewn materion amgylcheddol a datblygu cynaliadwy. Mae'n cynnig system hynod strwythurol ar gyfer rheolaeth amgylcheddol o ysgolion.
Mae'r rhaglen yn adnodd dysgu ac mae'r meysydd pwnc yn cynnwys Ysbwriel, Lleihau Gwastraff, Cludiant, Byw'n Iach, Ynni, Dŵr, Tir yr Ysgol a Dinasyddiaeth Fyd-eang.
Disgyblion sy'n cymryd y prif rannau mewn cymryd penderfyniadau a chyfranogi er mwyn lleihau effaith amgylcheddol eu hysgol. Fel hyn, mae Eco-Sgolion yn ymestyn y tu hwnt i'r dosbarth ac yn datblygu agweddau o ddinasyddiaeth gyfrifol, gartref ac yn y gymuned ehangach.
Mae'r mwyafrif o'r ysgolion yng Ngheredigion wedi eu cofrestru'n Eco-Sgolion ac er mwyn cefnogi'r fenter hon, mae Cyngor Sir Ceredigion yn cynnig casglu deunydd ailgylchu a gwastraff bwyd pob ysgol sy'n rhan o'r cynllun yn rhad ac am ddim. Er mwyn cael gwybod pa ddiwrnod y cesglir gwastraff o'ch ysgol, defnyddiwch ein teclyn chwiliad Cod Post.