Skip to main content

Ceredigion County Council website

A i Y Gwastraff

A

Allweddi
Gallwch fynd â hen allweddi i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol.

Amlenni
Gallwch roi'r rhain, gan gynnwys amlenni â ffenestri, yn eich bag ailgylchu clir.

Anifeiliaid (marw)
Cysylltwch â ni i gael gwybodaeth am waredu anifeiliaid marw.

Asbestos

  • Mae asbestos yn sylwedd peryglus sy'n effeithio ar iechyd.
  • Gallwch fynd ag ychydig bach o asbestos ar ôl gwneud ychydig waith yn y cartref (1-2 ddarn o asbestos) i Safle Gwastraff Cartref Aberystwyth neu Safle Gwastraff Cartref Llanbedr Pont Steffan.
  • Os ydych yn dymuno defnyddio Safle Gwastraff Cartref Cilmaenllwyd, byddwch yn cael eich cyfeirio at Orsaf Drosglwyddo D I Evans Cyf yn Beulah.
  • Os ydych yn dymuno defnyddio Safle Gwastraff Cartref Rhydeinion yn Llanarth, byddwch yn cael eich cyfeirio at yr Orsaf Drosglwyddo yn Safle LAS yn Llanbedr Pont Steffan.
  • Gadewch y darnau asbestos yn gyfan gan osgoi eu torri'n ddarnau llai o faint. Gwnewch yn siŵr bod yr Asbestos wedi’i lapio ddwy waith mewn bagiau plastig gwaith trwm.
  • Ni dderbynnir asbestos rhydd yn y Safleoedd uchod oni bai ei fod wedi’i lapio dair gwaith mewn bagiau.
  • Wrth gyrraedd y Safleodd ewch yn syth at gynorthwyydd y safle i’w hysbysu fod asbestos gennych i’w waredu. Rhaid mynd â niferoedd mwy o asbestos yn sgil gwaith dymchwel gan adeiladwyr a chrefftwyr i safle gwastraff â thrwydded i dderbyn asbestos. Ymchwiliwch yn lleol i weld pa gontractwyr trwyddedig sy'n derbyn gwastraff peryglus.

Addurniadau Nadolig
Gellir ailddefnyddio addurniadau Nadolig flwyddyn ar ôl blwyddyn, neu eu rhoi i grwpiau chwarae neu ysgolion ar gyfer sesiynau crefft. Dylid rhoi addurniadau nad ydynt yn addas i'w hailddefnyddio yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Brig

B

Bagiau
Ailddefnyddiwch eich bagiau plastig neu defnyddiwch 'Bagiau am Oes' pan fyddwch yn siopa. Gellir ailgylchu bagiau plastig hefyd, a dylech roi bagiau glân yn eich bag ailgylchu clir. Gellir ailddefnyddio bagiau cotwm/bagiau llaw neu eu rhoi i elusen.

Bagiau Jiffi
Dylech ailddefnyddio bagiau jiffi os oes modd. Fel arall, dylech wahanu'r rhannau plastig a phapur a'u rhoi yn eich bag ailgylchu clir. Os na fydd modd gwneud hyn, dylech eu rhoi yn eich bag gwastraff du.

Bagiau plastig
Gallwch roi bagiau plastig yn eich bag ailgylchu clir.

Batris (car)
Dylech fynd â'r rhain i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol.

Batris (cartref)
Mae llawer o siopau sy'n gwerthu batris cyffredin yn casglu hen fatris hefyd. Gallwch fynd â batris o'r fath i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol hefyd neu i Ganolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid – Swyddfeydd Lleol. Ymhlith y batris y byddwn yn eu derbyn y mae batris AA, AAA a D, batris ffonau symudol, gliniaduron ac oriorau. Ceisiwch ddefnyddio batris aildrydanadwy pan fo modd.

Baw ci
Dylid rhoi baw ci mewn 'bag baw', ei glymu ac yna ei roi yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu. Dylid rhoi unrhyw faw ci a roddir yn eich bag ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu gydag eitemau eraill na ellir eu hailgylchu. Ni dderbynnir bagiau o faw ci yn unig. Neu, defnyddiwch doiled compostio neu ei gladdu yn yr ardd.

Beiciau
Gellir ailddefnyddio beiciau sydd mewn cyflwr da. Gallwch eu rhoi i elusen neu eu gwerthu'n lleol trwy eu hysbysebu ar-lein. Gallwch hefyd fynd â beiciau i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol.

Blawd llif
Os yw'n addas, dylech ei gompostio. Os na, dylech ei roi yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Blodau (marw)
Gallwch roi sypiau bach o flodau wedi'u torri yn eich blwch gwastraff bwyd. O ran blodau o'r ardd, ewch i Gwastraff gardd.

Blychau wyau (Cardfwrdd)
Gallwch fynd â blychau wyau cardfwrdd i ffermydd ffowls i'w hailddefnyddio neu eu cadw ar gyfer prosiectau celf a chrefft. Gallwch hefyd eu compostio neu eu rhoi yn eich bag ailgylchu clir.

Blychau wyau (Plastig)
Gallwch roi'r rhain yn eich bag ailgylchu clir.

Bocsys pizza
Gellir ailgylchu cardfwrdd glân. Gallwch roi darnau bychain o gardfwrdd y mae saim arnynt yn eich blwch gwastraff bwyd. Neu gallwch roi cardfwrdd y mae bwyd/saim arno yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Braster
Gallwch roi darnau bach o fraster soled yn eich blwch casglu gwastraff bwyd. Gallwch roi darnau bach o fraster hylif sydd wedi oeri (olew), wedi'i amsugno ar dywel papur, yn eich blwch gwastraff bwyd. Dylid storio symiau mawr mewn cynhwysydd addas a mynd ag ef i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol. Ni ddylech arllwys braster coginio i lawr y draen gan ei fod yn achosi rhwystrau.

Brwshys
Gallwch ailgylchu coesau brwshys pren yn eich Safle Gwastraff Cartref agosaf. Gallwch roi'r brwsh ei hun yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu neu ei ailddefnyddio wrth lanhau.

Bylbiau golau 
Gallwch fynd â'r rhain i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol.

Brig

C

Cadachau
Ewch i Tecstilau.

Caeadau poteli
Gallwch eu rhoi yn eich bag ailgylchu clir. Mae hyn yn cynnwys caeadau unrhyw boteli a jariau.

Calendrau Adfent
Mae’n bosibl ailgylchu cardbord a phlastig eich calendrau adfent yn eich bag clir.  Os oes rhannau o’r calendr wedi eu gwneud o ddeunyddiau amlhaenog sy’n cynnwys plastig a ffoil, nid oes modd ailgylchu’r rhain; rhowch nhw yn eich bag du gyda’r gwastraff na ellir ei ailgylchu.

Caniau
Dylech roi caniau bwyd a diod glân, alwminiwm neu ddur, yn eich bag ailgylchu clir. Cymerwch ofal pan fyddwch yn golchi caniau oherwydd fe allant fod yn finiog.

Caniau aerosol
Gallwch roi caniau aerosol (gan gynnwys y caead) yn eich bag ailgylchu clir. Tynnwch y caead oddi ar y can cyn ei roi yn y bag.

Caniau alwminiwm
Ewch i Caniau.

Carafanau
Dylech gael gwared ar garafanau trwy'ch masnachwr sgrap lleol.

Cardfwrdd
Dylech roi cardfwrdd yn eich bag ailgylchu clir. Dylech sicrhau bod unrhyw focsys yn fflat cyn eu rhoi yn eich bag. Gellir rhoi darnau mawr fflat o gardfwrdd sy'n rhy fawr i fynd yn y bag allan i'w casglu wrth ymyl eich bag ailgylchu clir neu gellir mynd â nhw i'ch Safle Gwastraff Cartref agosaf.

Cardiau
Gallwch eu torri er mwyn creu tagiau anrhegion neu gardiau cartref. Gellir ailgylchu cardiau plaen nad ydynt yn cynnwys unrhyw gliter neu ffoil yn eich bagiau ailgylchu clir. Ceisiwch brynu cardiau wedi'u gwneud o bapur wedi'i ailgylchu neu anfonwch e-gerdyn yn lle hynny.

Carpedi a rygiau
Gellir ailddefnyddio'r rhain os ydynt mewn cyflwr da. Fel arall, gallwch fynd â nhw i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol neu ddefnyddio Gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus y Cyngor.

Catalogau
Ewch i Cylchgronau.

Cartonau
Gallwch roi cartonau bwyd a diod yn eich bag ailgylchu clir; dylech eu rinsio a'u gwasgu cyn eu rhoi yn y bag.

CDs a DVDs
Ewch i DVDs a CDs.

Ceblau
Ewch i Offer trydanol.

Ceir a darnau ceir
Dylech gael gwared ar geir drwy'ch masnachwr sgrap lleol. Nid ydym yn derbyn darnau ceir yn ein Safleoedd Gwastraff Cartref. Cysylltwch â'ch garej neu'ch masnachwr sgrap lleol.

Cemegau
Dylech gael gwared ar unrhyw wastraff cartref peryglus, fel paent dros ben, chwynladdwyr, plaladdwyr a gwrteithiau, toddyddion, resin soled, gludyddion a glud, trwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar y pecyn. Darllenwch y cyfarwyddiadau'n ofalus. Gallwch hefyd fynd â sypiau bach i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol.

Cemegau cartref
Ewch i Cemegau.

Cemegau gardd
Ewch i Cemegau.

Cerbydau
Ewch i Ceir.

Cerbydau sgrap
Ewch i Ceir.

Cetris Ink Jet
Ewch i Cetris peiriannau argraffu.

Cetris peiriannau argraffu
Gellir ail-lenwi rhai mathau o getris. Mae rhai elusennau a siopau'n casglu hen getris i'w hailgylchu. Gallwch fynd â chetris i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol hefyd .

Cewynnau (untro)
Efallai yr hoffech ystyried dechrau defnyddio Cewynnau go iawn. Gellir trefnu bod cewynnau untro yn cael eu casglu trwy ein Gwasanaeth Casglu Cynhyrchion Hylendid Amsugnol (AHP). Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn. Neu, gallwch eu rhoi yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu. 

Caead ffilm plastig
Ni ellir ailgylchu y math o blastig tenau ar ddeunydd pacio bwyd, dylech roi hwn yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Caeadau jariau
Ewch i Caeadau poteli.

Caeadau poteli
Gallwch eu rhoi yn eich bag ailgylchu clir. Mae hyn yn cynnwys caeadau unrhyw boteli a jariau.

Cling Ffilm
Golchwch y ffilm a'i roi eich bag ailgylchu clir.

Clustogau/ Gobenyddion
Dylech fynd â'r rhain i'ch Safle Gwastraff Cartref agosaf neu gallwch eu rhoi yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Coed
Dylech fynd â choed i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol. Gall nifer o gontractwyr arbenigol hefyd gasglu coed sydd wedi cwympo o'ch cartref.

Coed Nadolig
Gallwch fynd â choed Nadolig go iawn i'ch Safle Gwastraff Cartref agosaf, neu gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth casglu Gwastraff Gardd. Prynwch un o fagiau gwastraff gardd gwyrdd y Cyngor a'i glymu wrth foncyff y goeden. I drefnu eich casgliad ffoniwch 01545 570881 neu gallwch drefnu eich casgliad ar-lein yma. Gallwch roi coed Nadolig artiffisial yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu neu fynd â nhw i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol.

Colur a deunydd pacio
Ni ellir ailgylchu colur (Cynnyrch cosmetig). Dylech eu rhoi yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu. Gellir rhoi deunydd pacio cynnyrch cosmetig, wedi'i wneud o gardfwrdd neu blastig, yn eich bag ailgylchu clir. Gellir rhoi cynhwyswyr gwydr yn eich blwch casglu poteli a jariau.

Condomau
Ni ellir ailgylchu condomau. Dylech eu rhoi yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Copr
Gallwch fynd â chopr i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol neu at fasnachwr sgrap.

Corc
Gellir mynd â chyrc i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol neu eu rhoi yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Craceri Nadolig
Mae’n bosibl ailgylchu cardbord eich craceri Nadolig yn eich bag clir.  Mae modd compostio hetiau papur sydd wedi eu gwneud o bapur sidan.

Cwiltiau
Ewch i Duvets.

Cydau bwyd
Ni ellir ailgylchu cydau bwyd, fel cydau bwyd anifeiliaid anwes, gan eu bod wedi cael eu cynhyrchu o ddeunyddiau cymysg. Dylech eu rhoi yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Cyfrifiaduron
Yn aml, gellir adnewyddu ac ailddefnyddio cyfrifiaduron, eu rhoi i elusen neu fynd â nhw i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol. Dylech sicrhau eich bod yn tynnu'r holl ddata oddi ar eich gyriant caled cyn gwaredu'ch cyfrifiadur.

Cylchgronau, gan gynnwys llawlyfrau a thaflenni
Gallwch roi'r rhain yn eich bag ailgylchu clir.

Cynhyrchion ar gyfer y mislif (tyweli, tamponau, dodwyr a deunydd lapio)
Dylech roi tamponau, tyweli mislif a deunydd lapio cynhyrchion ar gyfer y mislif yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu. Ni ddylech fflysio tamponau i lawr y toiled.

Cynnyrch cosmetig
Ewch i Colur a deunydd pacio.

Cytleri
Gellir ailddefnyddio eitemau sydd mewn cyflwr da, eu gwerthu neu eu rhoi i elusen. Neu, dylech fynd â nhw i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol.

Brig

Ch

Chwistrelli
Ewch i Nodwyddau hypodermig.

Chwynladdwyr
Ewch i Cemegau.

Brig

D

Dail
Ewch i Gwastraff gardd.

Darnau arian
Mae llawer o elusennau'n derbyn hen ddarnau arian neu ddarnau arian tramor.

Defnydd
Ewch i Tecstilau.

Deunyddiau adeiladu/ DIY
Gallwch fynd ag unrhyw Ddeunydd Adeiladu sy'n deillio o brosiectau DIY bychain yn eich cartref i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol mewn sypiau bach. Bydd cyfyngiad mewn grym sef 5 cwdyn rwbel/ sachau adeiladwyr (uchafswm o 20 cilogram yr un) o bridd, rwbel neu wastraff DIY y mis, ar yr amod ei fod yn dod o ffynhonnell cartref.  Gall hyn gynnwys deunyddiau fel asbestos, haearn rhychiog, deunydd llawr, rwbel, ffelt to a deunydd to. Os oes gennych chi fwy o wastraff o'r fath, neu ddeunyddiau eraill sydd heb eu rhestru, cysylltwch â ni.

Deunydd gorwedd o dan anifeiliaid
Gellir rhoi ychydig ddeunydd gorwedd o dan anifeiliaid (bochdewion a gerbilod ac anifeiliaid eraill a gedwir tu mewn) yn eich compost cartref. Dylid rhoi symiau mawr o ddeunydd gorwedd, neu ddeunydd gorwedd o dan anifeiliaid domestig a gedwir y tu allan, yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Deunydd pacio tabledi (Pecynnau pothellog)
Rhaid rhoi pecynnau pothellog wedi'u gwneud o blastig a ffoil yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu. Gellir ailgylchu pecynnau pothellog wedi'u gwneud o ffoil yn unig; dylech roi'r rhain yn eich bag ailgylchu clir.

Deunydd pecynnu teganau (cardfwrdd a phlastig)
Dylech ei wahanu a'i roi yn eich bag ailgylchu clir.

Dillad
Gellir gwerthu dillad, eu rhoi i elusen neu fynd â nhw i'ch banc dillad lleol. Gallwch hefyd fynd â nhw i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol.

Dodrefn
Gallwch roi celfi i elusen neu sefydliad ailddefnyddio. Fel arall, gallwch fynd â nhw i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol neu drefnu eu bod yn cael eu casglu trwy Gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus y Cyngor.

Duvets
Ewch â nhw i'ch Safle Gwastraff Cartref agosaf neu gallwch eu rhoi yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

DVDs a CDs
Os ydyn nhw mewn cyflwr da, gallwch eu rhoi i elusen neu siopau ailddefnyddio fel rheol. Fel arall, gallwch fynd â nhw i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol.

Brig

E

Esgidiau
Gallwch roi hen esgidiau i elusen neu fynd â nhw i'ch banc esgidiau agosaf, a'u clymu mewn parau os oes modd. Gallwch hefyd fynd â nhw i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol.

Esgyrn
Dylech roi sbarion fel esgyrn a charcasau bychain (fel cyw iâr, pysgod neu dwrci) yn eich blwch gwastraff bwyd.

Brig

Ff

Ffabrig
Ewch i Tecstilau.

Ffitiadau ystafell ymolchi
Gallwch werthu neu roi eitemau diangen i rywun. Neu, gallwch fynd â'r rhain i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol. Gallwch gael gwared ar eitemau mwy trwy ddefnyddio Gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus y Cyngor.

Ffoil
Dylech lanhau ffoil a'i roi yn eich bag ailgylchu clir.

Ffoil alwminiwm
Ewch i Ffoil.

Ffonau
Ewch i Offer trydanol.

Ffonau symudol
Gallwch roi hen ffonau symudol i elusen neu fynd â nhw i un o Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid – Swyddfeydd Lleol. Dylech sicrhau bod unrhyw ddata personol yn cael ei ddileu oddi ar y ffôn cyn ei waredu.

Ffyn Gwlân Cotwm
Yn anffodus oherwydd cymysgedd y deunyddiau, ni ellir ailgylchu ffyn gwlân cotwm ar hyn o bryd. Dylech eu rhoi yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Brig

G

Gemwaith
Gellir eu rhoi i siopau elusen neu eu gwerthu i fasnachwyr aur/arian.

Gludyddion a glud
Ewch i Cemegau.

Graean cathod
Dylech roi graean cathod mewn bag dwbl a'i roi yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu. Er mwyn creu bag dwbl, rhowch yr eitem mewn bag plastig a'i glymu i'w gau, yna, rhowch y bag hwnnw mewn bag arall.

Gwaddodion coffi
Gellir gwaredu gwaddodion coffi wedi'u defnyddio yn eich blwch gwastraff bwyd.

Gwallt
Gellir rhoi gwallt yn eich blwch gwastraff bwyd, eich compost cartref neu yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Gwastraff busnes
Ewch i Gwastraff masnachol.

Gwastraff bwyd
Byddwn yn casglu Gwastraff Bwyd bob wythnos. Dim ond yn y bagiau gwastraff bwyd wedi'u clymu a'u rhoi yn y blwch gwastraff bwyd mawr, yr ydym yn darparu'r ddau ohonynt, y dylid cyflwyno gwastraff bwyd. Gellir ailgylchu'r holl wastraff bwyd nad yw mewn pecyn, wedi'i goginio neu heb ei goginio, yn eich blwch gwastraff bwyd.

Gwastraff cartref swmpus
Gallwch fynd ag ef i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol neu gall y Cyngor ei gasglu drwy'r Gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus.

Gwastraff cegin
Ewch i Gwastraff bwyd.

Gwastraff clinigol
Trefnwch y casgliadau gwastraff clinigol gyda'ch doctor os gwelwch yn dda.

Gwastraff gardd
Gallwch gompostio gwastraff gardd gartref neu'i roi mewn bag Gwastraff Gwyrdd (sydd ar gael o Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid – Swyddfeydd Lleol) a Cysylltwch â ni i drefnu i'w gasglu.

Gwastraff masnachol
Mae'r Cyngor yn darparu Gwasanaeth Casglu Gwastraff Busnes i fusnesau. Mae'n anghyfreithlon cyflwyno gwastraff masnachol fel gwastraff domestig.

Gwastraff sy'n gysylltiedig â'r Coronafeirws
Dylid rhoi gwastraff personol untro, gan gynnwys gorchuddion wyneb, menyg a chyfarpar diogelu personol (PPE) mewn bag, ei glymu, ac yna ei roi yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu. Dylech olchi ac ailddefnyddio gorchuddion wyneb cotwm er mwyn atal a lleihau gwastraff.

Os ydych yn hunanynysu oherwydd y cadarnhawyd bod Covid-19 arnoch neu oherwydd y ceir amheuaeth bod Covid-19 arnoch: Ni ddylech roi gwastraff personol (fel hancesi papur a ddefnyddiwyd a chlytiau glanhau untro) allan i'w casglu am o leiaf dri diwrnod.

Ar ôl i chi dynnu eich PPE neu'ch gorchudd wyneb i ffwrdd, golchwch eich dwylo neu defnyddiwch hylif diheintio dwylo.

Gwastraff wedi'i hwfro
Dylech roi hwn yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Gwelyau a dillad gwely
Gellir ailddefnyddio gwelyau sydd mewn cyflwr da.  Fel arall, gall y Cyngor gasglu gwelyau (gan gynnwys matresi, fframiau gwely a dillad gwely) trwy wasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus y Cyngor, neu gallwch fynd â nhw i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol.

Gallwch ailgylchu dillad gwely glân yn y banc tecstilau yn eich Safle Gwastraff Cartref. Gellir rhoi dillad gwely brwnt iawn yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Gwlân cotwm
Dylid rhoi gwlân cotwm yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Gwydr (cwareli gwydr, dysglau pyrex ac ati)
Dylech fynd ag eitemau gwydr i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol. Ni ddylech roi'r eitemau hyn yn y blwch casglu gwydr a jariau gan na ellir eu hailgylchu yn yr un ffordd.

Gwydr (poteli a jariau)
Dylech eu rhoi yn eich blwch casglu gwydr i'w casglu bob tair wythnos, ar yr un diwrnod â'ch bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Brig

H

Haearn rhychiog
Ewch i Deunydd adeiladu.

Hambyrddau prydau parod
Os ydynt wedi'u gwneud o blastig neu ffoil, gellir eu hailgylchu yn eich bag ailgylchu clir. Cyn ailgylchu, dylech dynnu'r caead ffilm clir oddi ar yr hambwrdd pryd parod a'i roi yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu. Os yw'r hambyrddau wedi'u gwneud o ddeunydd pacio bioddiraddadwy, dylech eu rhoi yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Hancesi papur
Ni ellir ailgylchu hancesi papur a dylid eu rhoi yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu neu eu compostio gartref.  Ni ddylech roi hancesi papur yn eich bag ailgylchu clir na'ch blwch gwastraff bwyd.

Ewch i Gwastraff sy'n gysylltiedig â'r Coronafeirws.

Brig

J

Jariau
Ewch i Gwydr (Poteli a Jariau).

Brig

L

Larymau mwg
Ewch i Synwyryddion Mwg.

Lensys cyffwrdd
Dylech eu rhoi yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Brig

Ll

Llenni
Gellir ailddefnyddio llenni, eu gwerthu neu eu rhoi i elusen. Gallwch hefyd eu rhoi mewn banc Tecstilau neu fynd â nhw i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol.

Llestri
Ewch i Serameg.

Lludw
Lludw (Glo) Ni ellir ailgylchu lludw glo. Dylech adael i'r lludw oeri cyn ei roi yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu. Nid yw hi'n ddiogel compostio lludw glo. Mae'n cynnwys symiau o sylffwr a haearn sy'n ddigon uchel i niweidio planhigion. Dylech sicrhau nad yw'r bagiau'n rhy drwm i'r Gweithwyr Casglu Gwastraff eu codi. Gallwch fynd â sypiau mwy o ludw i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol.

Lludw (Pren) Ni ellir ailgylchu lludw pren ond gellir ei gompostio. Rhowch symiau bach o ludw pren yn eich compost cartref.  Mae pren yn cynnwys mwynau sy'n dda er mwyn gwella'r pridd. Os na fyddwch yn gallu ei gompostio, dylech adael i'r lludw oeri cyn ei roi yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu. Dylech sicrhau nad yw'r bagiau'n rhy drwm i'r Gweithwyr Casglu Gwastraff eu codi. Gallwch fynd â sypiau mwy o ludw i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol.

Llyfrau
Gallwch roi llyfrau i siopau elusennau neu fynd â nhw i'ch banc llyfrau agosaf neu i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol.

Llyfrau ffôn
Gellir rhoi'r rhain yn eich bag ailgylchu clir.

Llyfrynnau
Ewch i Cylchgronau.

Brig

M

Masgiau wyneb a menyg untro
Ewch i Gwastraff sy'n gysylltiedig â'r Coronafeirws.

Meddyginiaethau
Dylech fynd ag unrhyw feddyginiaethau diangen i'ch fferyllfa leol i'w gwaredu. Dylech roi pecynnau pothellog tabledi gwag yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Menyg
Ewch i Gwastraff sy'n gysylltiedig â'r Coronafeirws.

Menig rwber golchi llestri
Dylech roi'r rhain yn eich bag du ar gyfer deunydd nad oes modd ei ailgylchu. Am gyngor am fenyg untro eraill, ewch i Gwastraff sy'n gysylltiedig â'r Coronafeirws.

Metal sgrap
Ewch i Metalau.

Metalau
Gallwch fynd â metalau i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol neu at fasnachwr metal sgrap. Gallwch hefyd drefnu i'r Cyngor eu casglu drwy'r Gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus.

Micro-donnau
Ewch i Offer trydanol.

Mopiau/Pennau mop
Gallwch fynd â'r rhain i'ch Safle Gwastraff Cartref agosaf.

Brig

N

Naddion
Dylid rhoi naddion yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Nodwyddau a gwydr meddygol
Ewch i Nodwyddau hypodermig.

Nodwyddau hypodermig
Gwastraff clinigol yw'r rhain. Ni ddylech eu gwaredu gyda'ch gwastraff cartref ar unrhyw gyfrif. Trefnwch gasgliadau gwastraff clinigol gyda'ch meddyg. Gellir casglu blychau offer miniog a'u dychwelyd i'ch fferyllfa.

Nwyddau gwyn
Ewch i Offer trydanol.

Brig

O

Oergelloedd a Rhewgelloedd
Ewch i Offer trydanol.

Offer Domestig
Ewch i Offer trydanol.

Offer Miniog
Ewch i Nodwyddau hypodermig.

Offer TG
Ewch i Cyfrifiaduron.

Offer trydanol
Gallwch roi Offer Trydanol sydd mewn cyflwr da i sefydliadau ailddefnyddio, ond dylech ddarganfod a ydynt yn eu derbyn yn y lle cyntaf. Fel arall, gallwch fynd â nhw i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol neu ddefnyddio gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus y Cartref.

Olew coginio
Dylech storio olew coginio sydd wedi oeri mewn cynhwysydd addas a mynd ag ef i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol. Gellir rhoi symiau bach, wedi'u hamsugno ar dywel papur, yn eich blwch gwastraff bwyd.

Olew (modur)
Dylech fynd ag olew modur i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol mewn cynhwysydd addas.

Olew (injan)
Ewch i Olew (modur).

Brig

P

Padiau anymataliaeth
Gellir rhoi'r eitemau hyn mewn bagiau dwbl a'u rhoi yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu neu gellir eu casglu trwy ein Gwasanaeth Casglu Cynhyrchion Hylendid Amsugnol (AHP). Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn.

Paent
Gallwch roi paent i grwpiau Cymunedol lleol neu grwpiau ailddefnyddio ar-lein. Gallwch hefyd fynd â phaent i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol.

Papur
Gallwch roi papur yn eich bag ailgylchu clir; dylid darnio dogfennau pwysig ymlaen llaw.

Papur cegin
Gallwch gompostio papur cegin neu ei roi yn eich blwch gwastraff bwyd. Gallwch roi'r diwben fewnol yn eich bag ailgylchu clir.

Papur lapio
Ewch i Papur.

Papur lapio Nadolig
Mae modd ailgylchu rhai mathau o bapur lapio yn eich bag ailgylchu clir.  Nid yw’n bosibl ailgylchu papur â gliter na rhai mathau o bapur sgleiniog.  Chwiliwch am bapur sy’n nodi bod modd ei ailgylchu; gwiriwch cyn prynu.  

Mae papur brown wedi ei addurno â manion tymhorol o’r ardd yn wych ar gyfer lapio anrhegion – mae’n bosibl ei ailgylchu 100% neu ei gompostio.  Syniad arall yw defnyddio bagiau anrhegion. Gellir defnyddio’r bagiau hynny dro ar ôl tro. 

Papur wedi'i ddarnio
Dylid rhoi papur wedi'i ddarnio yn eich bag ailgylchu clir neu ei gompostio gartref.

Papurau newydd
Gellir rhoi papurau newydd yn eich bag ailgylchu clir. Gellir defnyddio papur newydd wedi'i ddarnio fel dewis amgen yn lle gwellt o dan anifeiliaid anwes bychain fel bochdewion.

Papurau siocled a melysion
Ni ellir ailgylchu papurau siocled a melysion. Dylech eu rhoi yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Pecynnau creision
Dylech eu rhoi yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Peiriannau DVD/Fideo
Ewch i Offer trydanol.

Peiriannau golchi
Ewch i Offer trydanol.

Pethau hongian dillad neu gotiau
Gellir ailgylchu rhai metel neu blastig yn eich bagiau ailgylchu clir. Gwell fyth, os nad oes eu hangen arnoch, dywedwch na yn y siop.

Plaladdwyr
Ewch i Cemegau.

Plastigau
Gellir rhoi poteli, tybiau, hambyrddau, potiau, polystyren, bagiau a ffilm yn eich bag ailgylchu clir.

Plastig swigod (Bubble wrap)
Gellir ailddefnyddio plastig swigod neu ei roi yn eich bag ailgylchu clir.

Podiau coffi
Nid ydym yn ailgylchu podiau coffi. Mae'r rhan fwyaf o gynhyrchwyr podiau coffi yn cynnig eu cynlluniau ailgylchu eu hunain. Trowch at eu gwefannau am fanylion. Fel arall, dylech eu rhoi yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Polystyren
Gallwch eu rhoi yn eich bag ailgylchu clir.

Polythen
Ewch i Bagiau plastig.

Post sothach
Gallwch roi unrhyw bost sothach yn eich bag ailgylchu clir. Dylech dynnu'r post o unrhyw becyn plastig cyn ei ailgylchu. Gallech hefyd gofrestru gyda'r Gwasanaeth Dewis Post er mwyn derbyn llai o bost sothach.

Poteli (gwydr)
Ewch i Gwydr (Poteli a Jariau).

Poteli (plastig)
Gallwch eu rhoi yn eich bag ailgylchu clir. Golchwch y poteli a'u gwasgu'n fflat cyn eu rhoi yn eich bag. Gallwch adael y caeadau ar y poteli.

Poteli/silindrau nwy
Dylech ddychwelyd poteli a silindrau nwy i'r cyflenwr. Ni fyddwn yn eu derbyn ar unrhyw Safle Gwastraff Cartref. Dylech hefyd ddychwelyd poteli nwy petroliwm hylifol (LPG) i'r cyflenwr. Cysylltwch â'r Gymdeithas Nwy Petroliwm Hylifol ar 01737 224700 i gael rhagor o fanylion.

Potiau blodau
Gellir ailgylchu potiau blodau plastig yn eich bag ailgylchu clir.  Gellir ailddefnyddio potiau blodau terracotta a serameg. Neu, gallwch fynd â nhw i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol.

Potiau iogwrt
Gallwch eu rhoi yn eich bag ailgylchu clir.

Pren
Ewch i Deunydd adeiladu.

Pyrex
Ewch i Gwydr.

Brig

R

Radios
Ewch i Offer trydanol.

Rwbel
Ewch i Deunydd adeiladu.

Brig

S

Sachau glo
Dylech roi'r rhain yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu, gan bod llwch glo yn medru llygru deunydd y gellir ei ailgylchu.

Sbectolau
Mae llawer o elusennau'n casglu hen sbectolau i'w hanfon dramor – mae gan nifer ohonynt bwyntiau rhoi yng nghanghennau optegwyr neu mewn siopau elusennau ar y stryd fawr.

Seloffen
Caen tenau o gellwlos atgynyrchiedig a ddefnyddir fel deunydd pacio ac sy'n fioddiraddadwy yw seloffen. Gellir ei gompostio gartref neu ei roi yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Selotep
Ni ellir ailgylchu selotep neu eitemau tebyg fel tâp selio, tâp trydanol, tâp masgio a thâp parsel. Dylid ei roi yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Serameg (Tsieina/Llestri)
Gellir ailddefnyddio bric-a-brac nas dymunir fel tsieina heb dorri, neu ei roi i elusen. Ni ddylech roi serameg yn y blwch casglu gwydr a jariau gan na ellir ei ailgylchu yn yr un ffordd. Gallwch fynd â serameg i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol hefyd.

Setiau teledu
Ewch i Offer trydanol.

Sglodfwrdd
Dylech fynd â sglodfwrdd i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol.

Soffas neu setïau
Gellir ailddefnyddio'r rhain os oes label tân arnynt. Gellir mynd â soffas neu setïau na ellir eu hailddefnyddio i'ch safle gwastraff cartref lleol neu gallwch drefnu casgliad eitem swmpus.

Sosbenni (metal)
Gellir ailddefnyddio eitemau diangen sydd mewn cyflwr da, neu eu gwerthu neu eu rhoi i elusen. Os nad ydynt mewn cyflwr addas i'w hailddefnyddio, gallwch fynd â nhw i'ch Safle Gwastraff Cartrefagosaf.

Stampiau
Mae rhai elusennau'n derbyn hen stampiau. Gallwch hefyd roi stampiau yn eich bag ailgylchu clir.

Synwyryddion mwg
Dylech fynd â synwyryddion mwg i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol.

Sicrhau bod cartrefi'n ddiogel rhag tân – erbyn hyn, mae diffoddwyr tân a staff diogelwch tân cymunedol y Gwasanaeth Tân yn ymweld â chartrefi i roi cyngor am ddiogelwch tân. Byddan nhw'n darparu ac yn gosod larwm tân am ddim. Gallwch ofyn am wiriad diogelwch tân i chi neu'ch perthnasau drwy gysylltu â'r Gwasanaeth Tân ar 0800 169 1234, neu drwy e-bostio www.mawwfire.gov.uk.

Brig

T

Taflenni
Ewch i Cylchgronau.

Tapiau (Cegin ac Ystafell Ymolchi)
Ewch i Metalau.

Tapiau fideo
Dylid rhoi'r rhain yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Tecstilau
Gallwch fynd â thecstilau i'ch banc tecstilau agosaf neu i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol.

Teganau
Gallwch roi teganau sydd mewn cyflwr da i elusen neu sefydliad ailddefnyddio. Fel arall, dylech fynd â nhw i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol.

Teiars
Dylech fynd â hen deiars i'ch garej lleol i'w gwaredu. Mae tâl safonol am y gwasanaeth hwn. Sylwch na fydd unrhyw Safle Gwastraff Cartref yng Ngheredigion yn derbyn teiars.

Teledu
Ewch i Offer trydanol.

Teleffonau
Ewch i Offer trydanol.

Tetra-Pak
Ewch i Cartonau.

Tiwbiau fflwrolau
Dylech fynd â nhw i'ch Safle Gwastraff Cartref lleol.

Tiwbiau past dannedd/Brwsys dannedd
Ni ellir ailgylchu'r rhain felly dylech eu rhoi yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Tiwbiau Pringles
Ni ellir ailgylchu'r rhain, dylech eu rhoi yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu

Tsieina
Ewch i Serameg.

Tudalennau Melyn
Ewch i Llyfrau ffôn.

Tuniau
Ewch i Caniau.

Tybiau/hambyrddau cludfwyd
Dylech rinsio tybiau cludfwyd plastig a'u rhoi yn eich bag ailgylchu clir. Os ydynt wedi'u gwneud o blastig neu ffoil, gellir eu hailgylchu yn eich bag ailgylchu clir.

Os ydynt wedi'u gwneud o ddeunydd pacio bioddiraddadwy, dylech eu rhoi yn eich bag du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.


Brig