Polisi Drafft Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol a Lleihau Ymarfer Cyfyngol
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cau 24ain Awst 2026
Rydym wedi datblygu'r polisi drafft hwn er mwyn lleihau'r defnydd o arferion cyfyngol, megis cyfyngiad corfforol, ac i gefnogi'r defnydd o gymorth ymddygiad cadarnhaol ar draws ein gwasanaethau gofal cymdeithasol ac addysg.
Nod y polisi yw diogelu hawliau a lles pawb sydd o dan ein gofal, boed yn blant, pobl ifanc, pobl hŷn neu bobl anabl, gan gydnabod y gall arferion cyfyngol achosi niwed os caiff ei ddefnyddio yn ddiangen neu'n amhriodol.
Trwy hyrwyddo cymorth ymddygiad cadarnhaol a dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, byddwn yn creu amgylcheddau mwy diogel, yn cryfhau ymddiriedaeth, ac yn sicrhau safonau gofal cyson, uchel ar draws pob gwasanaeth.
Credwn fod ein polisi yn nodi ymrwymiad clir i drin pobl gydag urddas a pharch drwy ganolbwyntio ar gymorth cynnar, ataliol a phersonol, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Hoffem wybod beth rydych chi'n ei feddwl.
Rydym yn croesawu adborth, yn enwedig os ydych chi'n gweithio mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol ac addysg neu'n cael eich cefnogi ganddynt. Bydd eich barn, eich profiad a'ch mewnwelediad proffesiynol yn ein helpu i sicrhau bod y polisi yn glir, yn ymarferol, ac yn adlewyrchu anghenion pobl sy'n darparu ac yn derbyn cefnogaeth.
Mwy o wybodaeth
Lawrlwythwch gopi o'r polisi drafft - Polisi Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol a Lleihau Ymarfer Cyfyngol (pdf).
Dilynwch y ddolen hon i ddarllen ein Asesiad Effaith Integredig ar y polisi - Asesiad Effaith Integredig.
Sut i gymryd rhan
Cwblhewch ein harolwg ar-lein - arolwg MS Forms.
Lawrlwythwch gopi papur - Arolwg Polisi Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol a Lleihau Cyfyngiad.
Gallwch hefyd gasglu copi papur o'ch Llyfrgell neu Ganolfan Hamdden leol neu drwy ffonio 01545 570881 neu anfon e-bost atom yn clic@ceredigion.gov.uk.
Dychwelwch gopïau papur i'ch llyfrgell leol neu at Nerys Lewis, Rheolwr Corfforaethol - Gwasanaethau Uniongyrchol, Porth Gofal, Cyngor Sir Ceredigion, Neuadd y Sir Ceredigion Penmorfa, Aberaeron SA46 0PA.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech roi adborth mewn fformat arall, cysylltwch â Nerys Lewis, Rheolwr Corfforaethol - Gwasanaethau Uniongyrchol, Porth Gofal drwy ffonio 01545 570881 neu e-bostio clic@ceredigion.gov.uk.
Cliciwch yma i ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd Ymgynghoriadau.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
- Byddwn yn dadansoddi eich ymatebion.
- Byddwn yn adolygu'r Polisi drafft a'r Asesiad Effaith Integredig i wneud yn siŵr bod y ddau o'r rhain yn adlewyrchu'r ymatebion a dderbyniwn.
- Byddwn yn cyflwyno'r polisi terfynol i'r Cabinet, ynghyd â'r adroddiad ymgynghori a'r Asesiad Effaith Integredig diwygiedig, i'w gymeradwyo yn ddiweddarach eleni.
Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon pan fydd penderfyniad wedi'i wneud.