Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cau ar 30 Medi 2026.

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn gwahodd pobl ifanc, teuluoedd, ysgolion, grwpiau cymunedol, partneriaid a thrigolion i helpu i lunio dyfodol gwaith ieuenctid ledled y sir drwy rannu eich barn ar ein Cynllun Strategol Gwaith Ieuenctid drafft 2027–2032. 

Datblygwyd y strategaeth yn dilyn ymgysylltu helaeth â mwy na 500 o bobl ifanc, ochr yn ochr ag ysgolion, gweithwyr ieuenctid, gwirfoddolwyr, sefydliadau cymunedol a phartneriaid o bob cwr o Geredigion. Mae'n nodi gweledigaeth gyffredin ar gyfer gwaith ieuenctid dros y pum mlynedd nesaf ac yn ymateb i ddisgwyliadau newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer cynllunio a chyflwyno gwaith ieuenctid.

Gallwch ddarllen mwy am sut wnaethom weithio efo chi i ddatblygu'r cynllun yma - Strategaeth Gwasanaeth Ieuenctid 2027-2032.

Rhagor o Wybodaeth

Gallwch darllen y strategaeth drafft yma - Cynllun Strategol Gwaith Ieuenctid drafft 2027–2032.

Gallwch darllen fersiwn person ifanc y strategaeth drafft yma - Crynodeb Person Ifanc drafft.

 

Rydym wedi cwblhau asesiad effaith ar gyfer y strategaeth - Asesiad Effaith Integredig.

Sut i gymryd rhan

Ar ôl i chi ddarllen y strategaeth, rhannwch eich barn drwy:

Gwblhau ein harolwg ar-lein - Arolwg MS Forms: Cynllun Strategol Gwaith Ieuenctid.

neu

Argraffu a llenwi copi papur - Arolwg: Cynllun Strategol Gwaith Ieuenctid.

Os hoffech dderbyn y wybodaeth mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar 01545 570881 neu e-bostiwch ieuenctid@ceredigion.gov.uk.

Gallwch hefyd gasglu copi papur o'ch Llyfrgell neu Ganolfan Hamdden leol neu drwy ffonio 01545 570881 neu anfon e-bost atom: clic@ceredigion.gov.uk.


 
Dychwelwch gopïau papur i'ch llyfrgell leol neu i Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion, Cyngor Sir Ceredigion, Neuadd y Sir Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron SA46 0PA.

Cliciwch yma i ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd Ymgynghoriadau.

 

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd eich adborth yn helpu i lunio fersiwn derfynol Cynllun Strategol Gwaith Ieuenctid Ceredigion 2027–2032 cyn iddo gael ei gyflwyno i'w gymeradwyo yn ddiweddarach eleni.

Cyhoeddir crynodeb o ganfyddiadau'r ymgynghoriad a'r strategaeth derfynol ar wefan y Cyngor. 
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymgynghoriad, cysylltwch â: 

Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion 
Ffôn: 01545 570881

E-bost: clic@ceredigion.gov.uk