Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ymgynghoriad ar Lyfrgell Aberaeron

Mae'r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau.

Rydym yn adolygu ymatebion ar hyn o bryd.

Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.

Ymgynghoriad Gwreiddiol

Hoffem glywed eich barn am ein cynigion ar gyfer llyfrgell Aberaeron.

Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ar 23ain o Fai 2024

Y dyddiad cau fydd 9fed o Orffennaf 2024

Diolch am gymryd yr amser i roi adborth i ni.

Os oes angen yr ymgynghoriad hwn arnoch mewn unrhyw fformat arall (er enghraifft print bras), cysylltwch â ni ar 01545 570881 neu drwy clic@ceredigion.gov.uk

Cefndir

Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn cynnal adolygiad i'r defnydd o'i adeiladau mewn ymgais i ddarparu gwasanaethau mwy canolog ac effeithlon i'n dinasyddion, yn ogystal â'r rhai sy'n ymweld â Cheredigion.  Un maes yr ydym yn ei archwilio ar hyn o bryd yw defnyddio Neuadd y Sir yn Aberaeron, sy'n cynnig Gwasanaeth Llyfrgell a Gwasanaeth Cwsmeriaid Wyneb yn Wyneb, sy'n cynnig cyngor a chymorth i'r cyhoedd.

Yn dilyn gweithredu'r cynllun gweithio hybrid sydd ar gael i staff y Cyngor, mae'r adeilad yn awr yn cael ei ddefnyddio gan y ddau wasanaeth y cyfeirir atynt uchod.  Oherwydd y cynnydd mewn costau i feddiannu a chynnal adeiladau, rhaid i'r Cyngor ystyried ffyrdd mwy fforddiadwy o barhau i ddarparu'r gwasanaethau hanfodol hyn.  Mae llyfrgell bresennol Aberaeron wedi'i lleoli mewn rhan o hen adeilad aneffeithlon. Mae holl Wasanaethau'r Cyngor eraill wedi cael eu hadleoli i adeiladau eraill ac ni all y gwasanaeth llyfrgell yn unig dalu'r gost i redeg a chynnal a chadw'r adeilad.

Yn ogystal, mae'r Cyngor yn wynebu heriau cyllidebol sylweddol. Fel rhan o'r trefniadau pennu cyllideb y cytunwyd arnynt gan y Cyngor ar 29ain o Chwefror 2024, cytunwyd y byddai darpariaeth llyfrgell yn cael ei chadw ym mhob un o'r 4 tref gyfredol ac y byddai'r darpariaethau'n cael eu cydleoli â Gwasanaethau eraill y Cyngor lle bynnag y bo hynny'n bosibl.  

Felly, mae'r Cyngor yn ystyried a ddylid aros gyda'r ‘status quo’, gan arwain at gostau rhedeg cynyddol ychwanegol, neu ein safle a ffefrir byddai i ail-leoli'r llyfrgell a'r ddarpariaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid wyneb yn wyneb i lawr gwaelod Swyddfeydd y Cyngor ym Mhenmorfa, sydd wedi'i leoli ar ochr ddeheuol y dref.

Mae llyfrgell Aberaeron yn darparu gwasanaethau i dref Aberaeron a'r ardaloedd gwledig cyfagos. Yn wahanol i'r cyfleusterau sydd ar gael yn Neuadd y Sir, bydd Penmorfa yn cynnig parcio ar y safle (gan gynnwys mannau parcio i'r anabl ger y drws), yn ogystal â'i agosrwydd at safle bws, llwybrau cerdded diogel i'r dref, Ysgol Gynradd Aberaeron a Chartref Gofal Preswyl Min y Môr.  Bydd y fan llyfrgell deithiol gymunedol hefyd yn gallu gweithredu o'r safle newydd. 

Pe bai'r cynnig hwn yn cael ei gytuno, byddem yn gallu cynnig llyfrgell a gwasanaeth cwsmeriaid gwell ynghyd â mynediad i'r Ganolfan Byw'n Annibynnol Penmorfa. Mae Canolfan Byw'n Annibynnol Penmorfa yn hyrwyddo annibyniaeth a chefnogaeth gymunedol a bydd yn trawsnewid y ffordd y mae unigolion yn dod o hyd i atebion ac yn cael mynediad at wybodaeth i'w helpu eu hunain. Mae'r ganolfan yn rhoi cyfle i weld ystod o atebion sy'n gysylltiedig â Gofal, Technoleg, Symudedd a Byw'n Annibynnol. Mae'r ganolfan wedi ymrwymo i awgrymu atebion ymarferol i bob grŵp oedran. Byddai hyn yn cynnig llu o wasanaethau i unigolion mewn un lle ac yn hyrwyddo ein nod o ddarparu gwasanaeth cydweithredol i'r cyhoedd.  

#
#

Byddai'r cynnig hefyd yn mynd i'r afael ag ystyriaethau cynaliadwyedd a'n huchelgeisiau Sero Net trwy leihau ôl troed carbon y gwasanaeth llyfrgell, gan fanteisio ar ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd presennol trwy gydleoli gwasanaethau

Byddai ail-leoli i Benmorfa hefyd yn darparu lle mwy ar gyfer casgliad llyfrau plant ynghyd â lle ychwanegol i gefnogi gweithwyr a dysgwyr gan gynnwys ystafell waith bwrpasol. Byddai'r cynnig yn moderneiddio darpariaeth llyfrgell gan gynnwys Gofod Gwneuthurwr. Mae hwn yn faes penodol lle gall defnyddwyr llyfrgelloedd fod yn greadigol a defnyddio adnoddau a rennir fel peiriant gwnïo soffistigedig, argraffydd 3D, synwyryddion Rhyngrwyd o Bethau a chyfleoedd creadigol eraill, gofod y gellid ei ddefnyddio hefyd ar gyfer hyfforddiant a gweithdai grŵp.  Mae cyfle posibl i sicrhau buddsoddiad cyfalaf mewn cyfleuster newydd estynedig a gwell gan o leiaf £250,000.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar gael barn a sylwadau unigolion mewn perthynas â darpariaeth Gwasanaethau Llyfrgell a Chwsmeriaid wyneb yn wyneb yn Aberaeron yn y dyfodol.

Er mwyn darparu rhagor o wybodaeth am y ddarpariaeth bresennol ac arfaethedig, gweler y delweddau isod

Cynllun presennol yn Neuadd y Sir

Cynllun arfaethedig ym Mhenmorfa 

Derbynfa (i'w hadnewyddu gyda mynedfa wal gwydr newydd i’r llyfrgell)

Cynlluniau posibl