Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cerbyd Hacni (Tacsi) a Cherbydau Hurio Preifat

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cau ar Ddydd Gwener 27ain Rhagfyr 2024.

 

Mae tacsis a cherbydau hurio preifat yn ffurf hanfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus. Maent yn darparu gwasanaeth hanfodol i bobl sy'n byw mewn cymunedau gwledig lle gall mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus fod yn annigonol, i’r economi gyda'r nos, teithwyr ac i deithwyr anabl. Mae ganddynt hefyd rôl bwysig wrth hwyluso cynhwysiant cymdeithasol.

Mae'n bwysig bod cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn bodloni safonau rheoleiddio a'u bod yn gallu cludo teithwyr yn ddiogel ac yn gyfforddus, gan sicrhau bod profiad y cwsmer yn un cadarnhaol.

Cyngor Sir Ceredigion yw’r Awdurdod Trwyddedu o dan Ddeddf Darpariaethau Amrywiol Llywodraeth Leol 1976 (fel y’i diwygiwyd) a Deddf Cyfrifoldebau Tref a Heddlu 1847.

Rydym wedi adolygu ein gofynion trwyddedu cyfredol yn unol â chanllawiau statudol Llywodraeth y DU  Safonau tacsi statudol a cherbydau hurio preifat - GOV.UK a chanllawiau argymelledig Llywodraeth Cymru Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat: canllawiau trwyddedu (2021).

Rydym yn ceisio eich barn ar ein Polisi ac Amodau diwygiedig Cerbydau Hacni (Tacsi) a Cherbydau Hurio Preifat.

 

Cliciwch yma i ddarllen y ddogfen ddrafft – Polisi ac Amodau Trwyddedu Gyrwyr Cerbyd Hacni (Tacsi) a Cherbydau Hurio Preifat

 

Sut i gymryd rhan

Cwblhewch ein harolwg ar-lein – Arolwg_Polisi Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat Ceredigion

Lawrlwythwch gopi papur – Arolwg_Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat

 

Os ydych yn dymuno derbyn y wybodaeth mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar 01545 570881 neu drwy anfon neges e-bost i clic@ceredigion.gov.uk

Gallwch hefyd ofyn am gopi papur yn eich Llyfrgell neu Ganolfan Hamdden leol.

Hefyd, mae modd gwneud cais am gopi papur drwy ffonio 01545 570881 neu drwy anfon neges e-bost i clic@ceredigion.gov.uk

Dychwelwch y copïau papur i'ch llyfrgell leol neu i Y Tîm Trwyddedu, Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3UE.

 

Cliciwch yma i ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Ymgynghoriadau.

Os hoffech chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnig hwn, mae croeso i chi gysylltu â ni. Mae’r manylion cyswllt i’w gweld uchod.