Tîm Iechyd a Diogelwch Corfforaethol
Fel cyflogwr, mae gan Gyngor Sir Ceredigion rwymedigaeth o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a deddfwriaeth gysylltiedig i ddiogelu iechyd a diogelwch ei weithwyr, ac unrhyw unigolion a allai gael eu heffeithio gan waith y Cyngor. I wneud hyn, rhaid i ni brosesu data personol fel y nodir yn yr hysbysiad isod.
Bydd y wybodaeth a gasglwn amdanoch yn cael ei defnyddio at y dibenion canlynol:
• Adrodd ac ymchwilio i ddigwyddiadau
• Prosesu yn ymwneud ag atgyfeiriadau Iechyd Galwedigaethol
• Adnabod a lliniaru risgiau a achosir trwy weithgareddau gwaith
• Diogelu iechyd a diogelwch ein gweithwyr bregus
• Cwblhau asesiadau risg addas a digonol
• Diogelu Iechyd, Diogelwch a Lles ein staff ac unrhyw un sy’n dod i gysylltiad â gweithgareddau gwaith y Cyngor.
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw:
Mae prosesu Erthygl 6 (b) UKGDPR yn angenrheidiol er mwyn cyflawni contract y mae’r testun data yn barti iddo
Mae prosesu Erthygl 6 (c) UKGDPR yn angenrheidiol i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae’r rheolydd yn ddarostyngedig iddo
Mae Erthygl 6 (e) UKGDPR yn angenrheidiol i gyflawni tasg er budd y cyhoedd
Mae’r ddeddfwriaeth y dibynnir arni yn cynnwys:
· Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974
· Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1998
· Rheoliadau Rheoli Asbestos 2012
· Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd 2002
· Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006
· Deddf Cydraddoldeb 2010
· Adrodd Ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus 2013
Lle mae data categori arbennig yn cael ei brosesu, mae’r seiliau cyfreithlon canlynol yn berthnasol:
Erthygl 9 (2) UKGDPR
b) Mae prosesu yn angenrheidiol i gyflawni rhwymedigaethau’r rheolwr ym maes cyflogaeth.
g) Mae prosesu yn angenrheidiol am resymau o ddiddordeb cyhoeddus sylweddol (gyda sail gyfreithiol) (deddfwriaeth fel uchod). Yr amodau prosesu budd cyhoeddus sylweddol y dibynnir arnynt yw 6) dibenion statudol a llywodraethol a, lle bo'n berthnasol,11) diogelu'r cyhoedd.
h) Mae prosesu yn angenrheidiol ym maes meddygaeth galwedigaethol neu i asesu gallu gweithio’r gweithiwr.
Pan fo data euogfarnau troseddol yn cael ei brosesu, mae'r prosesu yn bodloni amod prosesu diddordeb cyhoeddus sylweddol perthnasol yn Atodlen 1 Rhan 2 DPA 2018, ac yn cael ei brosesu yn unol â Dogfen Bolisi Briodol. Yr amodau prosesu y dibynnir arnynt yw (6) dibenion statudol a llywodraethol (deddfwriaeth fel uchod) a (18) (diogelu plant ac unigolion mewn perygl).
Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn arwain at:
Os na allwn ofyn am ddata personol, ni fyddem yn gallu darparu’r gwasanaeth yr ydych yn gofyn amdano neu gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol i chi.
Rydym yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn …
Enw;
Cyfeiriad;
Dyddiad geni;
Rhywedd;
Rhif cyfeirnod unigryw;
Rhif ffôn;
Cyfeiriad e-bost;
Gwybodaeth iechyd;
Manylion cyflogaeth ac addysg;
Delweddau/ffotograffau;
Rhif cofrestru cerbyd;
Gwybodaeth am eich iechyd;
Eich tarddiad hil neu ethnig;
Euogfarnau neu droseddau troseddol; ac ati
I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol gennych ond hefyd yn derbyn gwybodaeth o'r ffynonellau canlynol:
Adnoddau Dynol
Darparwr Iechyd Galwedigaethol Cyngor Sir Ceredigion
Dyfed Powys
Gellir cael y mathau canlynol o ddata personol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
Enw;
Cyfeiriad;
Dyddiad geni;
Rhywedd;
Rhif cyfeirnod unigryw;
Rhif ffôn;
Cyfeiriad e-bost;
Gwybodaeth iechyd corfforol a iechyd meddwl;
Manylion cyflogaeth ac addysg;
Delweddau/ffotograffau;
Rhif cofrestru cerbyd;
Gwybodaeth am eich iechyd;
Eich tarddiad hil neu ethnig;
Euogfarnau neu droseddau troseddol; ac ati
Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â’r derbynwyr canlynol yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
Yn fewnol:
Adnoddau Dynol
Gwasanaethau Cyfreithiol
Tîm Diogelu
Yn allanol:
Heddlu Dyfed Powys,
Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru
Mae yna hefyd sefyllfaoedd penodol eraill lle gallai fod yn ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi, megis:
• Lle mae'n ofynnol i'r Cyngor ddarparu'r wybodaeth yn ôl y gyfraith:
• Lle bo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ganfod trosedd
• Lle mae datgelu er diddordebau hanfodol y person dan sylw