Hysbysrwydd Preifatrwydd Tacsis
Sut y byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth
Y diben a’r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich gwybodaeth
Diben y gwaith prosesu
Defnyddir y wybodaeth a ddarperir gennych i brosesu eich cais (ceisiadau) ar gyfer trwydded yrru cerbyd hacni/cerbyd hurio preifat, trwydded Cerbyd Hacni neu Gerbyd Hurio Preifat a thrwydded Gweithredwr Cerbyd Hurio Preifat. Defnyddir y wybodaeth hon i benderfynu ar addasrwydd eich cerbyd yn awr ac yn y dyfodol at ddibenion trwyddedu.
Mae hefyd gennym rwymedigaeth gyfreithiol i gynnal cofrestrau cyhoeddus yn unol â'r ddeddfwriaeth uchod. Os yw'n berthnasol, bydd y wybodaeth ganlynol amdanoch yn cael ei chadw ar gofrestr gyhoeddus:
- Enw, rhif trwydded
- Dyddiad a chyfnod y drwydded a roddwyd (trwydded yrru cerbyd hurio preifat yn unig)
Bydd eich gwybodaeth hefyd yn cael ei defnyddio at ddibenion enillion statudol, cydymffurfiaeth ac adolygiadau gwasanaethau cwsmeriaid.
Ffynhonnell a chategorïau data personol
Yn ychwanegol at y wybodaeth a ddarperir gennych, efallai y byddwn hefyd yn cael gwybodaeth i benderfynu ar eich addasrwydd neu addasrwydd eich cerbyd yn awr ac yn y dyfodol at ddibenion trwyddedu. Gall y wybodaeth hon ddod o ffynonellau eraill fel awdurdodau lleol eraill lle yr oedd gennych drwydded yn y gorffennol neu o’r Heddlu.
Sail gyfreithiol ar gyfer y gwaith prosesu
Mae rhwymedigaeth tasg gyhoeddus i brosesu eich gwybodaeth a nodir isod:
- Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976
- Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847
Er mwyn i brosesu data personol fod yn gyfreithlon o dan Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016, mae’n rhaid nodi amod dilys o erthygl 6 o'r Rheoliad, a amlinellir isod:
- 1e. mae angen prosesu ar gyfer cyflawni tasg a wnaed er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd yn y rheolwr
Mae deddfwriaeth Diogelu Data yn darparu amddiffyniad ychwanegol ar gyfer rhai dosbarthiadau o wybodaeth o'r enw 'data personol arbennig'. Os bydd unrhyw wybodaeth yn dod o fewn y diffiniad o ddata personol arbennig, yna rhaid nodi amod ychwanegol o Erthygl 9 o'r Rheoliadau, fel yr amlinellir isod:
Deddf Diogelu Data 2018 - Atodlen 1 / Rhan 2
- 6 (1) Cyflawnir yr amod hwn os yw'r prosesu
- (a) Yn angenrheidiol at ddiben a restrir yn is-baragraff (2), a
- (b) Yn angenrheidiol oherwydd resymau o fudd sylweddol y cyhoedd
- (2) Y dibenion hynny yw—
- (a) ymarfer swyddogaeth a roddwyd i berson drwy ddeddfiad neu reol gyfreithiol;
- (b) ymarfer swyddogaeth y Goron, Gweinidog y Goron neu adran y llywodraeth
Mae deddfwriaeth Diogelu Data hefyd yn darparu amddiffyniad ychwanegol ar gyfer data personol mewn perthynas ag euogfarnau troseddol a throseddau. Os yw unrhyw ddata personol yn dod o fewn y categori hwn, yna mae’n rhaid nodi amod ychwanegol o Erthygl 10 o'r Rheoliadau.
Mae'r amod uchod yn amod Erthygl 9 ac Erthygl 10 ar gyfer prosesu.
Pwy fydd yn gallu cyrchu eich gwybodaeth?
Manylion y Rheolwr Data a'r Swyddog Diogelu Data
Y Rheolwr Data ar gyfer eich gwybodaeth yw Cyngor Sir Ceredigion. Gellir cysylltu â'r Swyddog Diogelu Data ar Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Aberystwyth, SY23 3UE neu e-bostiwch data.protection@ceredigion.gov.uk.
Efallai y bydd Rheolwyr Data eraill hefyd yn gyfrifol am eich gwybodaeth, yn dibynnu ar yr amgylchiadau penodol. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Maes Gwasanaeth.
Manylion am brif ddefnyddwyr eich gwybodaeth
Prif ddefnyddiwr eich gwybodaeth fydd yr Adrannau Trwyddedu a Safonau Masnach, a fydd yn cael cymorth cyfreithiol gan Wasanaethau Cyfreithiol CSC.
Lle na ellir swyddogion o dan bwerau dirprwyedig benderfynu ar geisiadau, caiff ceisiadau eu penderfynu gan Is-bwyllgor sy'n cynnwys aelodau etholedig.
Mae gennym hefyd rwymedigaeth gyfreithiol i gynnal cofrestru cyhoeddus yn unol â'r ddeddfwriaeth uchod. Os yw'n berthnasol, bydd y wybodaeth ganlynol amdanoch yn cael ei chadw ar gofrestr gyhoeddus:
- Enw, rhif trwydded
- Dyddiad a chyfnod y drwydded a roddwyd (trwydded yrru cerbyd hurio preifat yn unig)
Manylion am unrhyw rannu o’ch gwybodaeth o fewn Cyngor Sir Ceredigion
Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda'r meysydd gwasanaeth canlynol:
- Gwasanaethau Cludiant a Gwasanaethau Cymdeithasol at ddibenion diogelu'r cyhoedd, gan gynnwys plant ac oedolion sy’n agored i niwed
- Treth y Cyngor a Budd-daliadau Tai at ddiben canfod ac atal twyll ar bwrs y wlad
Manylion am unrhyw rannu o’ch gwybodaeth â sefydliadau eraill
Efallai y bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu lle mae sail gyfreithiol dros wneud hynny gyda'r sefydliadau canlynol:
- Cwmnïau / Darparwyr Yswiriant
- Awdurdodau Lleol Eraill, gall hyn gynnwys rhannu gwybodaeth fanwl gydag awdurdodau lleol eraill mewn perthynas â'r rheswm dros ein gwrthodiad / dirymiad
- Eich Meddyg
- Awdurdodau statudol eraill, er enghraifft, ac nid yn gyfyngedig i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, Swyddfa'r Cabinet, y Swyddfa Gartref, y Comisiwn Archwilio, yr Adran Drafnidiaeth, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA), Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, yr Heddlu neu asiantaeth debyg, lle mae rhannu eich data yn hanfodol
- Cyrff cyhoeddus neu sefydliadau eraill sy'n defnyddio technegau paru data i gasglu trethi, canfod ac atal twyll ar bwrs y wlad neu gynorthwyo i ymchwilio a chanfod trosedd, erlyn troseddwyr, amddiffyn eiddo a chynnal cyfraith a threfn, fel Menter Atal Twyll
- Efallai y bydd gofyn i ni rannu eich gwybodaeth bersonol gyda'r Heddlu, neu asiantaeth debyg, neu Gyngor arall at ddibenion atal a chanfod twyll
- Cofrestr Genedlaethol o Ddirymiadau a Gwrthodiadau Trwyddedau Tacsi (NR3) er mwyn rhannu gwybodaeth am ddiddymiadau trwyddedau gyrru a gwrthod ceisiadau
Ceisiadau am wybodaeth
Mae’n bosibl y bydd yr holl wybodaeth a gedwir gan Gyngor Sir Ceredigion yn destun ceisiadau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a Deddf Diogelu Data 1998.
Os bydd y wybodaeth a ddarperir gennych yn destun cais o'r fath, bydd Cyngor Sir Ceredigion yn ymgynghori â chi ynghylch ei rhyddhau, lle bo hynny’n bosibl. Os byddwch yn gwrthwynebu rhyddhau eich gwybodaeth, byddwn yn cadw'r wybodaeth yn ei hôl, os bydd y ddeddfwriaeth berthnasol yn caniatáu i hynny ddigwydd.
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?
Manylion am y cyfnod cadw
Mae’r cyfnod y mae Cyngor Sir Ceredigion yn cadw gwybodaeth yn cael ei bennu drwy ofynion statudol neu arferion gorau.
Yn unol â Pholisi Cadw Data’r Cyngor, cedwir y wybodaeth fel a ganlyn:
- Gyrrwr Cerbyd Hacni / Hurio Preifat – Hyd y drwydded berthnasol yn ogystal â 3 blynedd ac ardystiadau meddygol
- Gyrrwr Cerbyd Hacni/Hurio Preifat (lle gwrthodwyd neu diddymwyd trwydded) – hyd at 25 mlynedd
- Cerbyd Hacni a Cherbydau Preifat – Hyd y drwydded berthnasol yn ogystal ag 1 flwyddyn
- Gweithredwyr Cerbydau Hurio Preifat – Hyd y drwydded berthnasol yn ogystal â 5 mlynedd
Eich hawliau (gan gynnwys y Weithdrefn Gwynion)
Eich hawliau dan gyfraith Diogelu Data
Mae’r ddeddf Diogelu Data yn rhoi nifer o hawliau i destun y data (y rheiny y mae'r wybodaeth yn sôn amdanynt):
- Hawl i gael mynediad at ddata gan y testun
- Yr hawl i gael gwybod
- Yr hawl i gywiro
- Yr hawl i ddileu
- Yr hawl i gyfyngu ar brosesu
- Yr hawl i wrthwynebu
- Yr hawl i gludadwyedd data
- Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd
Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau ar gael ar y wefan Information Commissioner's Office (ICO).
Er mwyn arfer eich hawliau, cysylltwch a Diogelu'r Cyhoedd ar 01545 570881 neu ebostiwch publicprotection@ceredigion.gov.uk.
Y Weithdrefn Gwynion
Os ydych yn anfodlon â’r modd y mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymdrin â'ch cais / gwybodaeth, mae gennych hawl i gwyno. Cysylltwch â'r Maes Gwasanaeth, y manylir arno ar frig y ddogfen hon, gan amlinellu eich pryderon.
Os byddwch yn parhau'n anfodlon, mae gennych hefyd hawl i gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Ymwelwch â'r tudalen Sylwadau, Canmoliaeth a Chwynion am ragor o wybodaeth am y broses gwyno.