Skip to main content

Ceredigion County Council website

Hysbysiad Preifatrwydd Ymgynghoriad Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996

Yn unol â gofynion Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996, mae'n ofynnol i Gyngor Sir Ceredigion ymgynghori â thrigolion mewn perthynas â chynigion neu newidiadau sy'n cael eu hystyried gan yr Awdurdod. Mae'r hysbysiad hwn yn nodi sut y bydd data personol yn cael ei brosesu pan fydd ymgynghoriad yn mynd rhagddo.

Y dibenion yr ydym yn defnyddio eich data personol ar eu cyfer

Mae Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996 yn gosod dyletswydd ar yr Awdurdod i ystyried ymatebion trigolion i gynigion.

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw cydymffurfio â'n rhwymedigaethau statudol fel y nodir yn Rheoliadau Traffig Ffyrdd 1984, sy'n darparu bod yn rhaid i ni ymateb i drigolion yn uniongyrchol gan ddefnyddio'r manylion y maent wedi'u rhoi i ni.

Lle mae'n ofynnol i ni ymgynghori yn ôl y gyfraith a bod data categori arbennig yn cael ei brosesu, y sail gyfreithlon fydd Erthygl 9 2 (g) GDPR mae prosesu yn angenrheidiol am resymau sydd o fudd sylweddol i'r cyhoedd.

Amodau prosesu budd sylweddol y cyhoedd fydd:

  • Dibenion statudol a llywodraethol

Y deddfiadau neu’r rheolau cyfreithiol y dibynnir arnynt yw:

  • Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996

Beth os nad ydych yn rhoi data personol?

Os na fyddwch yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn olygu na fyddwn yn gallu ystyried eich barn yn ein prosesau gwneud penderfyniadau.

Pa fath o wybodaeth rydym yn ei defnyddio?

Efallai y byddwn yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi i ddarparu'r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Dynodyddion personol sylfaenol
  • Cyfeiriad
  • Cyfeiriad e-bost
  • Cyfeiriad IP (os ydych chi'n ei gwblhau ar-lein)
  • Data personol rydych chi'n ei ddatgelu i ni mewn atebion testun rhydd i gwestiynau ymgynghoriad

Ydyn ni'n defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

Er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn, rydym ond yn casglu data personol yn uniongyrchol gennych chi ac nid ydym yn cael gwybodaeth amdanoch o unrhyw ffynhonnell arall.

Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

Gyda phwy y gellir rhannu eich gwybodaeth (yn fewnol ac yn allanol)?

Mae yna sefyllfaoedd penodol lle mae'n bosibl y bydd gofyn i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi, fel:

  • Lle mae'n ofynnol i'r Cyngor roi'r wybodaeth yn ôl y gyfraith:
    • Pan fydd angen datgelu'r wybodaeth er mwyn atal neu ganfod trosedd
    • Pan fo datgelu er lles hanfodol y person dan sylw