Skip to main content

Ceredigion County Council website

Hysbysiad Preifatrwydd Uned Gofal Plant Hyfforddiant

Mae’r Uned Gofal Plant yn trefnu cyrsiau hyfforddi gorfodol a Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) sy’n ofynnol gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac ar gael i bob lleoliad gofal plant a chwarae cofrestredig (neu’r rhai sy’n bwriadu cofrestru), sy’n cynnwys gwarchodwyr plant, meithrinfeydd dydd, Cylchoedd Meithrin/cylchoedd chwarae (gofal plant sesiynol), chlybiau y tu allan i oriau ysgol a chlybiau gwyliau.

Darperir hyfforddiant a/neu wasanaethau a gomisiynir yn fewnol ac yn allanol ac er mwyn darparu'r gwasanaethau hyn, bydd yr Uned yn prosesu data personol yn y modd a nodir yn yr hysbysiad hwn.

Mae rhagor o wybodaeth a manylion am gyrsiau hyfforddi amrywiol (Gorfodol ac an-orfodol) ar gyfer y gweithlu Gofal Plant ar gael ar DEWIS Cymru i bob lleoliad cofrestredig. I gael mynediad at yr hyfforddiant hwn bydd angen i bob gweithiwr gofal plant proffesiynol greu cyfrif dysgu ar DEWIS Cymru.

I ba ddibenion y byddwn ni’n defnyddio’ch data personol?

Mae Uned Gofal Plant Cyngor Sir Ceredigion yn gweinyddu rhaglen Hyfforddiant (gyda chymhorthdal) sy'n caniatáu i Ymarferwyr Gofal Plant fynychu er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion Arolygiaeth Gofal Cymru.

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio i:

  • Darparu mynediad i gyfleoedd hyfforddi i chi a / neu eich staff (ymarferwyr Gofal Plant) i'ch helpu i ennill y sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol er mwyn cyflawni dyletswyddau sy'n gysylltiedig â sicrhau darpariaeth gofal plant o ansawdd uchel ar draws y sir

Y sail gyfreithiol dros brosesu’ch gwybodaeth yw:

Erthygl UKGDPR 6 e) prosesu yn angenrheidiol i gyflawni tasg er budd y cyhoedd neu awdurdod swyddogol fel y nodir yn y gyfraith (deddfwriaeth fel yr isod).

Pan fydd data categori arbennig yn cael ei brosesu, y sail gyfreithiol fydd Erthygl yr UKGDPR 9 (2) 9) Mae prosesu yn angenrheidiol am resymau budd sylweddol y cyhoedd gyda sail gyfreithiol (deddfwriaeth fel yr isod).

Amod prosesu budd y cyhoedd fydd: 6. Dibenion statudol a llywodraethol:

  • Mae Deddf Gofal Plant 2006 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, ddarpariaeth o ofal plant sy'n ddigonol i fodloni gofynion rhieni yn eu hardal i'w galluogi i ddechrau gweithio neu aros mewn gwaith; neu i ymgymryd ag addysg neu hyfforddiant y gellid yn rhesymol ddisgwyl iddynt eu cynorthwyo i gael gwaith. Gall hyn gynnwys darparu hyfforddiant a chymorth busnes i ddarparwyr gofal plant, i helpu darparwyr i redeg yn effeithlon. Er mwyn cyflawni’r dyletswyddau statudol hyn, mae angen casglu data personol

O fewn Cyngor Sir Ceredigion, yr Uned Gofal Plant sy'n cyflawni'r ddyletswydd hon

Y deddfiadau neu reolau’r gyfraith y dibynnir arnynt yw:

  • Deddf Gofal Plant 2006

Beth os na fyddwch chi’n darparu data personol?

Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, ni fyddwch yn gallu cael mynediad at hyfforddiant a all fod yn hanfodol i’ch gallu i gyflawni eich cyflogaeth, neu sy’n ddymunol ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus. Mae’n bosibl hefyd na fyddwn yn gallu cael y cyllid sydd ei angen arnom gan Lywodraeth Cymru i sybsideiddio’r hyfforddiant sydd ei angen arnoch ar gyfer eich cyflogaeth.

Pa fath o wybodaeth fyddwn ni’n ei defnyddio?

Mae’n bosibl y byddwn yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar y dibenion y’u ceir:

  • Manylion cyswllt lleoliad gofal plant/cyflogwr ac unigolion, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhifau ffôn a chyfeiriad e-bost (cysylltiedig â gwaith a/neu bersonol)
  • Manylion cyflogaeth gan gynnwys lleoliad gwaith a swydd
  • Manylion datblygiad proffesiynol gan gynnwys cymwysterau a ddelir neu y gweithir tuag atynt, hyfforddiant a fynychwyd yn flaenorol neu a archebwyd
  • Manylion personol megis sgiliau iaith a dewis iaith
  • Dyddiad presenoldeb i gadarnhau'r ardystiad / tystysgrif

Mae’n bosibl hefyd y bydd manylion y dysgwr yn cael eu hychwanegu at fodiwl Hyfforddiant Dewis Cymru. Bydd mynediad i'r wybodaeth yn gyfyngedig i'r rhai sy'n gweithio ar y prosiect a'r rhai sy'n datblygu'r system yn dechnegol.

  • Bydd Data Cymru yn gweithredu fel Prosesydd Data mewn perthynas â'r Data Personol a gedwir o fewn y system
  • Mae Data Cymru yn gyfrifol am ddiogelwch a chynnal gwefan Dewis Cymru sy'n cynnal Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Cymru
  • Mae Data Cymru wedi'i ardystio gan Cyber Essentials ac mae Dewis Cymru wedi'i amgryptio SSL yn gyfan gwbl o'r dechrau i'r diwedd
  • Ceir gwybodaeth benodol yn ymwneud â Diogelu Data yn Polisi preifatrwydd - Data Cymru

A fyddwn ni’n defnyddio gwybodaeth a dderbyniwyd o ffynonellau eraill?

Er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol oddi wrthych chi (gwrthrych y data) ond hefyd yn derbyn gwybodaeth o’r ffynonellau canlynol:

  • Eich rheolwr/cyflogwr e.e. wrth archebu cwrs, cwblhau archwiliadau hyfforddi staff neu gyfathrebu newidiadau mewn staff
  • Gwybodaeth y gofynnir amdano gennym ni at ddiben awdit hyfforddiant, cynllunio rhaglen hyfforddi ac ati
  • Gwybodaeth a gynhyrchir gan y gwasanaeth cyfan
  • Gwybodaeth a ddarperir gan feysydd gwasanaeth eraill e.e. Gwasanaeth cyswllt Clic, Dechrau'n Deg, Dysgu Bro ayb.
  • Archwiliadau hyfforddi
  • Gwasanaethau a gomisiynir gan yr Awdurdod Lleol e.e. Gweithwyr datblygu a ariennir gan Gytundebau Lefel Gwasanaeth
  • Arolygiaeth Gofal Cymru
  • Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Gellir cael y mathau canlynol o ddata personol, yn dibynnu ar y dibenion y’u ceir:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • Rhyw
  • Rhif unigryw
  • Rhif Ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Manylion banc/taliad
  • Manylion cyflogaeth ac addysg
  • Delweddau/ffotograffau

Os dymunwch wneud cais i gael tynnu eich gwybodaeth bersonol oddi ar y system, gallwn ofyn i Data Cymru ddileu’r wybodaeth.

Trosglwyddo’ch gwybodaeth dramor

Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Gyda phwy y gall eich gwybodaeth gael ei rhannu (yn fewnol ac yn allanol?)

Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â’r derbynwyr canlynol yn dibynnu ar y dibenion y’u cafwyd:

Yn fewnol

  • Adran Gyllid - Dyledwyr/Credydwyr: I anfon anfonebau neu i wneud taliadau
  • Dysgu Bro – Darparu hyfforddiant i ymarferwyr ar ran yr Uned Gofal Plant. Gweler Hysbysiad Preifatrwydd Dysgu Bro
  • Gwasanaeth Dysgu a Datblygu – er mwyn darparu mynediad i hyfforddiant, darpariaeth e-ddysgu a chynnal cofnodion hyfforddiant
  • Gwasanaeth Dechrau'n Deg
  • Gwasanaethau ysgolion (e.e. darparu hyfforddiant ADY neu Dîm Addysg y Blynyddoedd Cynnar)

Yn allanol

  • Dewis Cymru – Fel rhan o'r system archebu modiwlau hyfforddiant
  • Darparwyr Hyfforddiant a gomisiynwyd gan yr Uned Gofal Plant i gyflwyno/ darparu cyrsiau
  • Cyflenwyr trydydd parti a sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau ar ein rhan
  • Eich rheolwr / cyflogwr
  • Cyrff cymwysterau / dyfarnu
  • Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
  • Llywodraeth Cymru
  • Data Cymru

Mae yna hefyd sefyllfaoedd penodol eraill lle gallai fod yn ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi, megis:

  • Lle mae'n ofynnol i'r Cyngor ddarparu'r wybodaeth yn ôl y gyfraith:
    • Lle bo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ganfod trosedd
    • Lle mae datgelu er budd hanfodol y person dan sylw

Cysylltwch â Ni

Os oes gennych unrhyw bryderon neu os hoffech wybod mwy am sut mae'r Uned Gofal Plant yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni yn un o'r ffyrdd canlynol:

Trwy e-bost: data.protection@ceredigion.gov.uk.

Dros y Ffôn: 01545 570881.

Trwy'r Post: Swyddog Diogelu Data, Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE