Hysbysiad Preifatrwydd Porth Cymorth Cynnar
At ba ddibenion rydym yn defnyddio eich data personol
Byddwn yn defnyddio eich data personol i ddarparu’r gwasanaethau y gofynnir amdanynt, i gadw cofnodion cywir, ac, os byddwch yn cytuno, i anfon gwybodaeth farchnata atoch am ddigwyddiadau neu wasanaethau a gynigiwn.
Yn fwy manwl, defnyddir y wybodaeth ar gyfer:
- Prosesu ceisiadau i ddod yn aelod o'r Gwasanaeth Ieuenctid, i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymorth ac ymyrraeth strwythuredig
- er mwyn ein galluogi i gyfathrebu â chi, a darparu gwasanaethau diogel a braf i chi
- ein galluogi i gynnal ein cronfa ddata MIS yn effeithiol a sôn am weithgarwch i Lywodraeth Cymru ac adroddiadau mewnol;
- monitro ein perfformiad wrth ddarparu gwasanaethau i chi
- casglu gwybodaeth ystadegol i'n galluogi i gynllunio darpariaeth gwasanaethau yn y dyfodol
- cael caniatâd eich rhiant/rhieni neu warcheidwad i fynd â chi ar deithiau a gweithgareddau
- anfon gwybodaeth farchnata atoch am yr hyn rydym yn ei gynnig gyda'ch caniatâd
- Yn sgil y sefyllfa ar hyn o bryd o ran COVID-19, mae Gwasanaethau Cymorth a Chefnogaeth Gynnar Ceredigion yn gweithio’n galed i ddatblygu ffyrdd o gynnal cyswllt a chynnig cymorth i bobl ifanc. Felly, rydym yn bwriadu cynnal cyswllt trwy lwyfannau rhithwir sy'n hygyrch i'n cyfranogwyr, defnyddwyr gwasanaethau a thrigolion h.y. Skype, Microsoft Teams, Zoom, Webex a’r Cyfryngau Cymdeithasol
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw cyflawni tasg er budd y cyhoedd, a chydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000.
Pan fydd marchnata uniongyrchol yn cael ei ystyried, byddwn yn gofyn am eich caniatâd ymlaen llaw ar gyfer hyn.
Lle rydym yn darparu ein gwasanaeth i chi dros lwyfannau electronig yn ystod argyfwng Covid-19, rydym yn dibynnu ar eich caniatâd. Gallwch dynnu hwn yn ôl unrhyw bryd.
Lle mae data Categori Arbennig yn cael ei brosesu, y sail gyfreithlon yw Erthygl 9 2(g) GDPR (rhesymau o fudd cyhoeddus sylweddol) 6; dibenion statudol a llywodraethol, i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000.
Mae prosesu data euogfarnau troseddol yn bodloni amod perthnasol Atodlen 1 o Ddeddf Diogelu Data 2018. Yr amod yw’r Ddeddf Diogelu Data Atodlen 1 Rhan 2 (18) diogelu plant ac unigolion sydd mewn perygl.
Fel aelod o Borth Cymorth Cynnar, mae’n bosibl y bydd gwasanaethau fel Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion o bryd i’w gilydd yn anfon gwybodaeth atoch am weithgareddau a chyfleoedd sy’n gysylltiedig â’ch ymwneud â’r gwasanaeth. Ni fyddwn yn anfon gwybodaeth atoch os nad ydych wedi cydsynio i gael y wybodaeth hon ar ein ffurflen gofrestru.
Beth os na fyddwch yn darparu data personol?
Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn olygu na fyddwn yn gallu darparu’r gwasanaeth y gofynnwyd amdano i chi.
Pa fath o wybodaeth ydyn ni'n ei defnyddio?
Pan fyddwch yn cofrestru i ymuno â Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, efallai y byddwn yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
- Enw
- Cyfeiriad
- Dyddiad Geni
- Rhywedd
- Cyfeirnod unigryw/Rhif Disgybl Unigryw/Rhif Dysgwr Unigryw
- Rhif ffôn a rhif ffôn symudol
- Cyfeiriad e-bost
- Cyfansoddiad eich teulu
- Eich amgylchiadau cymdeithasol
- Manylion cyflogaeth ac addysg
- Eich anghenion o ran tai
- Lluniau/ffotograffau
- Gwybodaeth am eich iechyd
- Eich tarddiad hiliol neu ethnig
- Credoau crefyddol neu athronyddol
- Gwybodaeth am eich bywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol
- Euogfarnau troseddol a throseddau
- Gwasanaethau a Darparwyr Cymorth Eraill yr ymgysylltir â hwy, ac ati.
Ydyn ni'n defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?
Er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol oddi wrthych ond hefyd, yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y byddwn hefyd yn cael gwybodaeth o’r ffynonellau canlynol:
- Ysgolion ac Uned Cyfeirio Disgyblion
- Gwasanaeth NEET Ceredigion
- Gwasanaeth Cynhwysiant Ceredigion
- Cymorth Ymddygiad
- Tîm Teulu / Tîm o Amgylch y Teulu
- Gwasanaethau Cymdeithasol e.e. Plant sy'n Derbyn Gofal, Tîm Anableddau Plant
- Cwricwlwm Amgen
- Darparwyr Dysgu Galwedigaethol ôl-14/ Seiliedig ar Waith/ Dysgu Gydol Oes
- Seicolegwyr Addysg
- Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Atal
- CAHMS
- Drug Aid/Choices/Barod
- Gwasanaethau Digartref
- Ymddiriedolaeth y Tywysog
- Gofalwyr Ifanc
- Gwasanaeth Eiriolaeth
- Darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith
- Gwasanaeth Cwnsela
- Gyrfa Cymru
- Coleg Ceredigion
- Clwb Ffermwyr Ifanc
- Urdd Ceredigion
- Sgowtiaid Ceredigion
- Tywyswyr Ceredigion
- Ieuenctid Tysul
- RAY Ceredigion
- British Council (prosiectau a ariennir gan Ewrop)
- Llywodraeth Cymru (prosiectau a ariennir)
- A sefydliadau/gwasanaethau statudol a gwirfoddol perthnasol eraill lle bo'n briodol
Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor
Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i'r Deyrnas Unedig.
Gyda phwy y gellir rhannu eich gwybodaeth (yn fewnol ac yn allanol)?
Efallai y bydd eich data hefyd yn hygyrch i'n partneriaid. Mae gan yr asiantaethau a'r adrannau partner hyn yr un ymrwymiad i drin data yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data ar hyn o bryd (GDPR y DU). Defnyddir y wybodaeth hon i wella'r gwasanaeth a ddarperir a/neu yn y weithred o ddiogelu ac amddiffyn plant.
Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â’r derbynwyr canlynol yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
Yn fewnol
- Ysgolion ac Uned Cyfeirio Disgyblion
- Gwasanaeth NEET Ceredigion
- Gwasanaeth Cynhwysiant Ceredigion
- Darparwyr Dysgu Galwedigaethol ôl-14/ Seiliedig ar Waith / Dysgu Gydol Oes
- Cymorth Ymddygiad
- Tîm Teulu / Tîm o Amgylch y Teulu
- Gwasanaethau Cymdeithasol e.e. Plant sy'n Derbyn Gofal, Tîm Anableddau Plant
- Cwricwlwm Amgen
- Seicolegwyr Addysg
- Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Atal
Yn allanol
- CAHMS
- Drug Aid/Choices/Barod
- Gwasanaethau Digartref
- Ymddiriedolaeth y Tywysog
- Gofalwyr Ifanc
- Gwasanaeth Eiriolaeth
- Darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith
- Gwasanaeth Cwnsela
- Gyrfa Cymru
- Coleg Ceredigion
- Clwb Ffermwyr Ifanc
- Urdd Ceredigion
- Sgowtiaid Ceredigion
- Tywyswyr Ceredigion
- Ieuenctid Tysul
- RAY Ceredigion
- British Council
- Llywodraeth Cymru
Lle bo'n berthnasol, mae cytundebau WASPI mewn grym i gwmpasu trefniadau rhannu data penodol.
Fel Gwasanaeth Awdurdod Lleol, rydym yn defnyddio system ar-lein fewnol ddatblygedig Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer cofnodi a monitro ein gwaith.
Rydym hefyd yn cadw at Bolisi Ymweliadau Addysgol Cyngor Sir Ceredigion trwy gynllunio a chofnodi ein gweithgareddau a’n teithiau ar y system ar-lein ddynodedig Evolve/ Edufocus. Mae gan Gyngor Sir Ceredigion gontract blynyddol gyda'r cwmni ar gyfer lletya’r data hwn.
Cedwir eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel ar ein system monitro data mewnol 'Canolfan Athrawon' ac fe'i defnyddir ar y cyd ag Evolve wrth gynllunio gweithgareddau a theithiau. Mae darparwr y feddalwedd yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaeth newydd o ran diogelu data. Mae hyn yn ein galluogi i ddarparu gwasanaeth gwell i gwsmeriaid. Dim ond at ddibenion rheoli eich cysylltiad â Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion a'n partneriaid statudol a gwirfoddol perthnasol y caiff eich data ei ddefnyddio.
Mae ein llwyfannau rhithwir wedi'u datblygu ar y cyd â Gwasanaethau perthnasol Cyngor Sir Ceredigion, ac maent yn cadw at Bolisïau a Gweithdrefnau'r Cyngor.
Mae yna hefyd sefyllfaoedd penodol eraill lle gallai fod yn ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi, megis:
- Lle mae'n ofynnol i'r Cyngor roi’r wybodaeth yn ôl y gyfraith
- Lle mae angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ganfod trosedd
- Pan fo datgelu er budd hanfodol y person dan sylw