Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaethau Amgylcheddol Lleol
Mae Gwasanaethau Amgylchedd Lleol Cyngor Sir Ceredigion yn cyflawni'r swyddogaethau canlynol
- Rheoli Gwastraff - casglu gwastraff, gwaredu gwastraff, safleoedd gwastraff cartrefi
- Gwasanaethau Stryd - glanhau strydoedd a thraethau, ffeiriau a digwyddiadau
- Cynnal a Chadw Tiroedd - cynnal a chadw tiroedd, mynwentydd a rhandiroedd
At ba ddibenion rydym yn defnyddio eich data personol
Bydd y wybodaeth a gasglwn amdanoch yn cael ei defnyddio at ddiben(ion):
- Darparu gwasanaethau angenrheidiol a phriodol i chi
- Helpu ni i ddatblygu a gwella ein gwasanaethau
- Cwblhau datganiadau ystadegol
- Atal neu ganfod trosedd
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol fel y nodir yn y ddeddfwriaeth isod, yn ogystal â chydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol fel y nodir yn y ddeddfwriaeth isod:
- Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990
Beth os na fyddwch yn darparu data personol?
Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn arwain at:
- Ein hanallu i ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen arnoch
- Ein hanallu i gyrraedd targedau ailgylchu statudol
- Ein hanallu i sicrhau y gallwn atal neu ganfod troseddau amgylcheddol
Pa fath o wybodaeth ydyn ni'n ei defnyddio?
Mae’n bosibl y byddwn yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
- Cyfeiriad
- Dyddiad Geni
- Rhywedd
- Cyfeirnod unigryw
- Rhif Ffôn
- Cyfeiriad e-bost
- Cyfansoddiad eich teulu
- Eich math o dŷ
- Lluniau/ffotograffau
- Eich cyfranogiad mewn gwasanaethau casglu gwastraff
- Euogfarnau troseddol a throseddau, ac ati.
Ydyn ni'n defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?
I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol oddi wrthych ond hefyd yn cael gwybodaeth o'r ffynonellau canlynol:
- Tîm polisi a pherfformiad Cyngor Sir Ceredigion
- Tîm Cyswllt Cwsmeriaid
Gellir cael y mathau canlynol o ddata personol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
- Enw
- Cyfeiriad
- Dyddiad Geni
- Rhywedd
- Cyfeirnod unigryw
- Rhif Ffôn
- Cyfeiriad e-bost
- Manylion banc/talu
- Cyfansoddiad eich teulu
- Lluniau/ffotograffau
- Rhif cofrestru cerbyd
- Gwybodaeth am eich iechyd
- Euogfarnau troseddol a throseddau, ac ati.
Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor
Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i'r Deyrnas Unedig.
Gyda phwy y gellir rhannu eich gwybodaeth (yn fewnol ac yn allanol)?
Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â’r derbynwyr canlynol yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
Yn fewnol
- Tîm polisi a pherfformiad Cyngor Sir Ceredigion
- Tîm Cyswllt Cwsmeriaid
Yn allanol
- Contractwyr Safle Gwastraff Cartrefi
Ni fydd y data personol a roddwch i ni fel arfer yn cael ei rannu ag unrhyw wasanaeth arall o fewn Cyngor Sir Ceredigion, nac ag unrhyw drydydd parti y tu allan i’r sefydliad.
Fodd bynnag, mae sefyllfaoedd penodol lle gallai fod yn ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, megis:
- Lle mae'n ofynnol i'r Cyngor roi’r wybodaeth yn ôl y gyfraith
- Lle mae angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ganfod trosedd
- Pan fo datgelu er budd hanfodol y person dan sylw