Skip to main content

Ceredigion County Council website

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD – GWASANAETHAU AMGYLCHEDD LLEOL

Mae Gwasanaethau Amgylchedd Lleol yn cynnwys:

 

·       Gwastraff a Strydlun - casglu gwastraff, gwaredu gwastraff, safleoedd gwastraff cartref, glanhau strydoedd a thraethau, ffeiriau a digwyddiadau, ymgysylltu a chyfathrebu â'r cyhoedd

·       Cynnal a Chadw Tiroedd - cynnal a chadw tiroedd, mynwentydd a rhandiroedd

 

Bydd y wybodaeth a gasglwn amdanoch yn cael ei defnyddio at y diben(ion):

·       Darparu gwasanaethau angenrheidiol a phriodol i chi

·       Ein helpu i ddatblygu a gwella ein gwasanaethau

·       Cwblhau ffurflenni ystadegol

 

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw Erthygl 6 (e) GDPR y DU, mae prosesu yn angenrheidiol i gyflawni tasg wrth arfer awdurdod swyddogol a roddwyd i'r rheolwr. Y ddeddfwriaeth y dibynnir arni yw:

 

·       Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990

 

Lle mae data categori arbennig yn cael ei brosesu, y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu yw Erthygl 9 (2) g o GDPR y DU; mae prosesu yn angenrheidiol am resymau budd cyhoeddus sylweddol gyda sail yn y gyfraith (deddfwriaeth fel uchod). Yr amod prosesu y dibynnir arno yw 6: dibenion statudol a llywodraethol.

 

Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth y bydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn arwain at:

 

·       Dim cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnoch chi

·       Ni’n methu â chyrraedd targedau ailgylchu statudol

 

Efallai y byddwn yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi i ddarparu'r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

·       Cyfeiriad;

·       Dyddiad geni;

·       Rhywedd;

·       Cyfeirnod unigryw;

·       Rhif ffôn;

·       Cyfeiriad e-bost;

·       Cyfansoddiad eich teulu;

·       Eich math o dŷ;

·       Gwybodaeth am eich iechyd;

·       Lluniau/ffotograffau;

·       Eich cyfranogiad mewn gwasanaethau casglu gwastraff;

Er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth gennych chi yn uniongyrchol, ond rydym yn cael gwybodaeth gan y ffynonellau canlynol hefyd:

• Timau Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion

• Tîm Cyswllt Cwsmeriaid Cyngor Sir Ceredigion

• Timau Cymorth Gwasanaeth Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion

• Contractwyr safleoedd gwastraff cartref

• Contractwyr casglu gwastraff

 

Efallai gellir cael y mathau canlynol o ddata personol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

 

  • Enw;

·       Cyfeiriad;

·       Dyddiad geni;

·       Rhywedd;

·       Cyfeirnod unigryw;

·       Rhif ffôn;

·       Cyfeiriad e-bost;

·       Manylion banc/talu;

·       Cyfansoddiad eich teulu;

·       Lluniau/ffotograffau;

·       Rhif cofrestru cerbyd;

·       Gwybodaeth am eich iechyd;

Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda'r derbynwyr canlynol yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

 

Mewnol:

·       Timau Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd

·       Tîm Cyswllt Cwsmeriaid

·       Timau Cymorth Gwasanaeth Corfforaethol

 

Allanol:

·       Contractwyr safleoedd gwastraff cartref

·       Contractwyr casglu gwastraff

 

Ni fydd y data personol a roddwch i ni fel arfer yn cael ei rannu ag unrhyw wasanaeth arall o fewn Cyngor Sir Ceredigion, nac ag unrhyw drydydd parti y tu allan i'r sefydliad.

 

Fodd bynnag, mae sefyllfaoedd penodol lle efallai y bydd gofyn i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi, megis:

 

·       Pan fydd gofyn i’r Cyngor ddarparu’r wybodaeth yn unol â’r gyfraith

·       Pan fydd gofyn datgelu’r wybodaeth er mwyn atal neu ddatrys trosedd

·       Pan fydd ei datgelu er budd hanfodol yr unigolyn dan sylw