Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaeth Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth
Y dibenion y byddwn yn defnyddio eich data personol
Defnyddir y wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch at ddiben(ion):
- Gweinyddu ac Ymchwilio i gwynion a wneir yn erbyn y Cyngor.
- Gweinyddu ceisiadau a wneir dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth
Mae angen prosesu data personol er mwyn galluogi’r Cyngor i gyflawni ei dasg gyhoeddus, a sicrhau bod y Cyngor yn cydymffurfio â’i rwymedigaethau statudol a pholisi. Mae’r polisïau a’r ddeddfwriaeth benodol y mae’r Gwasanaeth Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth yn delio gyda nhw yn gyson fel a ganlyn:
- Deddf Rhyddid Gwybodaeth, 2000
- Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, 2004
- Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru), 2019
- Deddf Diogelu Data, 2018
- Deddf Hawliau Dynol, 1998
- Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)
- Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru), 2014
- Polisi Pryderon a Chwynion Cyngor Sir Ceredigion
- Siarter Cwsmeriaid Cyngor Sir Ceredigion
- Polisi ynghylch Gweithredoedd Annerbyniol gan Ddefnyddwyr Gwasanaeth
Prosesir data categori arbennig, pan gaiff ei brosesu, ar sail budd sylweddol i’r cyhoedd.
Beth os na fyddwch yn darparu data personol?
Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth y bydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn arwain at:
Cais Rhyddid Gwybodaeth
- Mae Adran 8(1)(b) y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, 2000 yn mynnu bod enw’r ymgeisydd a chyfeiriad ar gyfer gohebiaeth yn cael eu rhoi er mwyn i’r cais fod yn ddilys. Os na ddarparir y wybodaeth hon, ni ellir prosesu’r cais
- Os rhoddir enw ffug, efallai na fydd gan yr awdurdod achos dros herio hyn ac fe allai brosesu’r cais. Fodd bynnag, caiff unrhyw apêl i ICO ei hatal gan mai dim ond ceisiadau FOI dilys y gellir eu hystyried. Byddai enw annilys yn torri amod s8(1)(b)
- Os na roddir cyfeiriad ar gyfer gohebiaeth, ni fydd modd ateb y cais FOI a chaiff ei ystyried yn annilys
Cwyn
- Dim ond pan fydd hynny’n angenrheidiol i’r ymchwiliad i’r gŵyn y gofynnir am fanylion personol. Os na roddir y rhain, ni fydd modd ymchwilio i’r gŵyn; gallai unrhyw ymchwiliad gweithredol gael ei stopio; gallai cwmpas yr ymchwiliad gael ei gyfyngu neu gallai’r ymchwiliad gael ei atal nes y darparir y manylion y gofynnwyd amdanynt
Data categori arbennig
- Dan GDPR, mae data categori arbennig yn cynnwys data sy’n ymwneud â:
- Chefndir hiliol ac ethnig
- Credoau crefyddol ac athronyddol
- Aelodaeth undeb llafur
- Data biometrig a ddefnyddir i nodi unigolyn
- Data genetig
- Data iechyd
- Data sy’n ymwneud â dewisiadau rhywiol, bywyd rhywiol, a/neu gyfeiriadedd rhywiol
- Er mwyn gwneud Cais Rhyddid Gwybodaeth, ni fydd angen i chi ddarparu’r data hwn
- Oni bai bod cwyn yn ymwneud â chategori o’r data hwn yn benodol, ni fydd angen i chi ddarparu’r data hwn
- Os bydd cwyn yn ymwneud â’r data hwn yn benodol ac ni chaiff ei ddarparu, ni fydd modd ystyried y gŵyn
Pa fath o wybodaeth yr ydym yn ei defnyddio?
Efallai y byddwn yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:
- Enw
- Cyfeiriad
- Dyddiad geni
- Rhyw
- Cyfeirnod unigryw
- Rhif ffôn
- Cyfeiriad e-bost
- Manylion banc/talu
- Cyfansoddiad eich teulu
- Eich amgylchiadau cymdeithasol
- Eich amgylchiadau ariannol
- Manylion cyflogaeth ac addysg
- Eich anghenion tai
- Delweddau/ffotograffau
- Rhif cofrestru cerbyd
- Gwybodaeth am eich iechyd
- Eich cefndir hiliol neu ethnig
- Safbwyntiau gwleidyddol
- Credoau crefyddol neu athronyddol
- Aelodaeth undeb llafur
- Gwybodaeth am eich bywyd rhywiol neu’ch cyfeiriadedd rhywiol
- Data genetig
- Data biometrig
- Euogfarnau troseddol a throseddau ac ati.
A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd gan ffynonellau eraill?
Er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth gennych chi yn uniongyrchol, ond rydym yn cael gwybodaeth gan y ffynonellau canlynol hefyd:
- Unrhyw adran berthnasol Cyngor Sir Ceredigion
- Age Cymru
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Heddlu Dyfed-Powys
- Llywodraeth Cymru
- Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Trosglwyddo eich gwybodaeth i wlad dramor
Ni throsglwyddir eich gwybodaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
Gyda phwy y gallai eich gwybodaeth gael ei rhannu (yn fewnol ac yn allanol)?
Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda’r derbynwyr canlynol, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:
Mewnol
Efallai y rhennir gwybodaeth gydag unrhyw adran Cyngor Sir Ceredigion.
Allanol
- Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
- Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
- Comisiynydd y Gymraeg
Ceir sefyllfaoedd penodol eraill hefyd lle y bydd gofyn i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi efallai, megis:
- Pan fydd gofyn i’r Cyngor ddarparu’r wybodaeth yn unol â’r gyfraith
- Pan fydd gofyn datgelu’r wybodaeth er mwyn atal neu ddatrys trosedd
- Pan fydd ei datgelu er budd hanfodol yr unigolyn dan sylw