Hysbysiad Preifatrwydd Datblygu Economaidd
Mae tîm Datblygu Economaidd Cyngor Sir Ceredigion yn cyflawni nifer o swyddogaethau ar ran Cyngor a chyhoedd Ceredigion i helpu i hybu twf economaidd yr ardal. Er mwyn cyflawni'r rhain mae'n rhaid i ni brosesu data personol.
At ba ddibenion rydym yn defnyddio eich data personol
Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio i gynnal ymchwil i ddatblygiad economaidd:
- Datblygu strategaeth economaidd Ceredigion
- Datblygu teclynnau monitro economaidd
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw cyflawni tasg er budd y cyhoedd a ddarperir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Lle mae rhanddeiliaid yn gwirfoddoli i gymryd rhan mewn arolwg penodol, caiff data ei brosesu ar sail caniatâd.
Lle mae data categori arbennig yn cael ei brosesu, mae angen prosesu er budd sylweddol y cyhoedd.
Yr amodau prosesu yw:
- Dibenion statudol a llywodraethol
- Cyfle cyfartal neu driniaeth gyfartal
Beth os na fyddwch yn darparu data personol
Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn olygu na fyddwn yn gallu ymgymryd â’r darn penodol o ymchwil dan sylw.
Pa fath o wybodaeth ydyn ni'n ei defnyddio?
Mae’n bosibl y byddwn yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
- Côd post
- Rhywedd
- Gwybodaeth am eich iechyd
- Eich tarddiad hiliol neu ethnig
- Barn wleidyddol
- Credoau crefyddol neu athronyddol
- Gwybodaeth am eich bywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol
Ydyn ni'n defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?
I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol oddi wrthych ond hefyd yn cael gwybodaeth o'r ffynonellau canlynol:
- Meysydd gwasanaethau eraill y Cyngor
Defnyddir y wybodaeth a gawn at ddibenion ystadegol yn unol â darpariaethau perthnasol GDPR y DU.
Gellir cael y mathau canlynol o ddata personol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
- Côd post
- Rhywedd
- Gwybodaeth am eich iechyd
- Eich tarddiad hiliol neu ethnig
- Barn wleidyddol
- Credoau crefyddol neu athronyddol
Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor
Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i'r Deyrnas Unedig.
Gyda phwy y gellir rhannu eich gwybodaeth (yn fewnol ac yn allanol)?
Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â’r derbynwyr canlynol yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
Yn dibynnu ar amgylchiadau'r prosiect ymchwil penodol sy'n cael ei gynnal, gellir rhannu data personol â'r sefydliad partner ymchwil. Lle mae hyn yn digwydd bydd rhannu yn cael ei lywodraethu gan gytundeb rhannu data penodol.
Mae yna hefyd sefyllfaoedd penodol eraill lle gallai fod yn ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi, megis:
- Lle mae'n ofynnol i'r Cyngor roi'r wybodaeth yn ôl y gyfraith
- Lle mae angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ganfod trosedd
- Pan fo datgelu er budd hanfodol y person dan sylw