Skip to main content

Ceredigion County Council website

Hysbysiad Preifatrwydd Cynnal a Chadw Priffyrdd

Mae gan Gyngor Sir Ceredigion rwymedigaeth statudol i gynnal a chadw rhwydwaith y priffyrdd o fewn y Sir sydd o dan reolaeth yr awdurdod lleol. Fel rhan o’n dyletswyddau, rydym yn ymateb i adroddiadau am gyflwr y briffordd gan y cyhoedd ac yn cynnal archwiliadau, ymchwiliadau a gwaith adfer lle bo angen. Er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau, mae’n rhaid i ni brosesu data personol, ac mae’r ffyrdd rydym yn gwneud hyn wedi’u nodi yn yr hysbysiad isod.

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio i:

 

·       Ymateb i geisiadau am wasanaethau priffyrdd a gyflwynir trwy system atgyfeirio CLIC ar-lein y Cyngor.

 

·       Cynorthwyo'r adran yn ei hymateb i bryderon am y ffyrdd.

 

·       Asesu a bod yn sail i ymchwiliadau i hawliadau yn erbyn y Cyngor mewn perthynas â phriffyrdd a fabwysiadwyd.

 

·       Ymateb i ymholiadau ynghylch contractwyr sy'n gweithio i'r Cyngor.

 

·       Hwyluso trwyddedu a gorfodi yn unol â Deddf Priffyrdd 1980

 

 

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw:

 

Mae prosesu yn angenrheidiol i gyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol (deddfwriaeth fel isod)

 

Y deddfiadau neu’r rheolau cyfreithiol y dibynnir arnynt yw:

 

·       Deddf Priffyrdd 1980

 

·       Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991

Os na fyddwch yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn olygu na fyddwn yn gallu darparu'r gwasanaeth llawn y gallai fod ei angen arnoch.

·       Mae’n bosibl y byddwn yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

·       Enw

·       Cyfeiriad

·       Rhif ffôn

·       Cyfeiriad e-bost

·       Lluniau/ffotograffau

 

Mewn perthynas â hawliadau yswiriant

 

·       Rhif cofrestru TAW

·       Manylion trydydd partïon

·       Manylion cofrestru cerbyd a manylion perchennog cofrestredig

·       Rhifau polisi yswiriant

·       Rhif Yswiriant Gwladol

·       Dyddiad geni

I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol oddi wrthych ond hefyd yn cael gwybodaeth o'r ffynonellau canlynol:

 

·       Tîm Cyswllt Cwsmeriaid Cyngor Sir Ceredigion

·       Tîm Cwynion Cyngor Sir Ceredigion

·       Tîm Yswiriant Cyngor Sir Ceredigion

·       Cofrestrfa Tir

Gellir cael y mathau canlynol o ddata personol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

 

·       Enw

·       Cyfeiriad

·       Rhif ffôn

·       Cyfeiriad e-bost

·       Lluniau/ffotograffau

·       Dyddiad geni

·       Rhywedd

·       Cyfeirnod Unigryw

·       Rhif ffôn

·       Cyfeiriad e-bost

·       Lluniau/ffotograffau

 

Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â’r derbynwyr canlynol yn dibynnu ar eich amgylchiadau:


Yn fewnol:

 

·       Tîm Cyswllt Cwsmeriaid Cyngor Sir Ceredigion

·       Tîm Cwynion Cyngor Sir Ceredigion

·       Tîm Yswiriant Cyngor Sir Ceredigion

·       Gwasanaeth Datblygu Priffyrdd Cyngor Sir Ceredigion

·       Gwasanaethau Amgylcheddol Cyngor Sir Ceredigion

·       Gwasanaethau Economi ac Adfywio Cyngor Sir Ceredigion

Yn allanol:

 

·       Asiantiaid Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru

·       Yswirwyr y Cyngor

·       Contractwyr Torri Gwair

 

 

Mae yna hefyd sefyllfaoedd penodol eraill lle gallai fod yn ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi, megis:


• Lle mae'n ofynnol i'r Cyngor roi’r wybodaeth yn ôl y gyfraith:

• Lle mae angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ganfod trosedd

• Lle mae datgelu er lles hanfodol y person dan sylw