Skip to main content

Ceredigion County Council website

Hysbysiad Preifatrwydd Cynllunio

Y rhesymau dros ddefnyddio eich data personol

Bydd y wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch yn cael ei defnyddio:

  • I asesu ac egluro ceisiadau cynllunio, a phenderfynu yn eu cylch
  • Fel bod sylwadau a wneir ynghylch ceisiadau cynllunio yn gallu bod ar gael i’r cyhoedd
  • I gynnal a darparu cofnod cyhoeddus o geisiadau cynllunio, fel y mynna’r ddeddfwriaeth berthnasol
  • I hysbysu unigolion eraill a sefydliadau am y bwriad i ofyn am eu barn
  • I ymchwilio i achosion honedig o fynd yn groes i ganiatâd cynllunio
  • I lunio adroddiadau a gwneud penderfyniadau ynghylch ceisiadau

Sylwer bod enw perchennog eiddo neu dir, a chyfeiriad yr eiddo neu’r tir hwnnw, fel rheol yn gorfod bod ar gael i’r cyhoedd. Mae’n ofynnol i Gyngor Sir Ceredigion gyhoeddi unrhyw sylwadau (ac enw’r person sy’n gwneud y sylw) a ddaw i law ynghylch ceisiadau cynllunio, ac efallai y cânt eu hadrodd i Bwyllgor Cynllunio’r Cyngor ar ffurf gryno. Mae pob sylw a ddaw i law hefyd ar gael i’w gweld gan y cyhoedd, ymgeiswyr a Chynghorwyr.

Dyma’r sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich gwybodaeth:

  • I gyflawni tasg er budd y cyhoedd (cynllunio a rheoli datblygu)
  • I gydymffurfio â’r gyfraith

Mae’r canlynol ymhlith y ddeddfwriaeth berthnasol:

  • Deddf Cynllunio Gwlad a Thref (Cymru) 1990
  • Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012
  • Deddf Cynllunio 2008

Beth os na fyddwch yn darparu data personol?

Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth y mae arnom ei hangen pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn olygu na fydd modd inni brosesu eich cais ymhellach a rhoi cymorth neu arweiniad ynghylch eich cais, neu fe allai olygu y bydd eich cais yn annilys.

Pa fath o wybodaeth a ddefnyddir gennym?

Gallwn gasglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Cyfeiriad e-bost
  • Cyfeirnod unigryw (rhif y cais cynllunio)
  • Rhif Ffôn
  • Manylion banc
  • Cyfeiriad llawn y datblygiad
  • Manylion yr asiant (os yw’n berthnasol)

A ydym yn defnyddio gwybodaeth a ddaw o ffynonellau eraill?

I ddarparu’r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth a ddaw yn syth wrthych chi ond rydym hefyd yn cael gwybodaeth o’r ffynonellau canlynol:

Ceir gafael ar y mathau canlynol o ddata personol:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad geni

Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu hwnt i’r Deyrnas Unedig ond efallai y bydd rhywfaint o wybodaeth amdanoch yn cael ei chyhoeddi ar-lein, fel yr eglurir isod.

Gyda phwy y gellir rhannu eich gwybodaeth (yn fewnol ac yn allanol)?

Gallwn rannu eich gwybodaeth gyda’r cyrff canlynol, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau. Sylwer nad yw’r rhestr hon yn cynnwys pawb:

Yn fewnol

  • Gwasanaethau perthnasol y Cyngor, megis Priffyrdd a Iechyd y Cyhoedd
  • Cynghorau Tref a Chymuned
  • Aelodau Etholedig Lleol
  • CADW ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
  • Llywodraeth Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Dŵr Cymru
  • Yr Awdurdod Hedfan Sifil
  • DEFRA
  • Y Grid Cenedlaethol

Mae’r ddeddfwriaeth gynllunio yn mynnu ein bod yn darparu cofnod er mwyn i’r cyhoedd gael bwrw golwg arno. Bydd hwn yn cynnwys eich enw, eich cyfeiriad a gwybodaeth am eich datblygiad, ond ni fydd unrhyw ddata personol arall amdanoch. Bydd y wybodaeth hon ar gael i’r cyhoedd drwy ein gwefan.

Os byddwch yn gwrthwynebu cais cynllunio ac yn rhoi eich enw a’ch cyfeiriad, bydd y rhain yn cael eu cynnwys gyda’r wybodaeth a gyhoeddir ar ein gwefan.

Yn allanol

Mae sefyllfaoedd penodol eraill lle bydd yn rhaid, o bosib, inni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, megis:

  • Os bydd y Cyngor yn gorfod darparu’r wybodaeth yn ôl y gyfraith
  • Os bydd yn rhaid datgelu’r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
  • Os bydd datgelu gwybodaeth yn allweddol er lles bywyd y person dan sylw