Hysbysiad Preifatrwydd Cofrestriadau Sifil
Mae’r Gwasanaeth Cofrestru Sifil yn casglu gwybodaeth oddi wrth unigolion sydd o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu gwybodaeth at ddibenion cofrestru sifil.
Bydd y wybodaeth a gasglwn amdanoch chi yn cael ei defnyddio at y diben canlynol:
· Creu a chadw cofnod cywir o enedigaethau, priodasau a marwolaethau.
Y sail gyfreithiol dros brosesu eich gwybodaeth yw:
Cyflawni ein rhwymedigaethau yn unol â’n tasg gyhoeddus fel y nodir yn y ddeddfwriaeth ganlynol:
Deddf Cofrestru Genedigaethau a Marwolaethau 1953
Deddf Priodasau 1949
Deddf Partneriaethau Sifil 2004
Mae’n rhaid i unigolion ddarparu data personol er mwyn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth a nodwyd uchod. Mae’n drosedd i beidio â darparu’r wybodaeth (h.y. i gofrestru genedigaeth neu farwolaeth).
Rydym yn casglu’r mathau canlynol o ddata amdanoch chi er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn…
Gallwn gasglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
Enw;
Cyfeiriad;
Dyddiad geni;
Rhywedd;
Cyfeirnod unigryw;
Rhif ffôn;
Cyfeiriad e-bost;
Manylion banc / talu;
Lluniau / ffotograffau.
I ddarparu’r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol oddi wrthoch chi yn unig ac nid ydym yn derbyn gwybodaeth amdanoch chi oddi wrth unrhyw ffynhonnell arall.
Ni chaiff eich gwybodaeth ei throsglwyddo y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
Yn ddibynnol ar eich amgylchiadau, efallai y byddwn ni’n rhannu eich gwybodaeth gydag asiantaethau’r llywodraeth, adrannau’r awdurdod lleol a chyrff cofrestru proffesiynol, pan fo hynny’n briodol. Gweler rhestr gynrychioliadol isod:
Yr Adran Gwaith a Phensiynau
Y Swyddfa Gartref (Fisâu a Mewnfudo’r Deyrnas Unedig (Mewnfudo a Gorfodi))
Crwner Ei Fawrhydi
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Y Cyngor:
Yr Adran Addysg
Adran Treth y Cyngor
Swyddfa Cofrestru Etholiadol
Y Bwrdd Diogelu Lleol
Refeniw a Budd-daliadau
Mae yna sefyllfaoedd penodol lle gall fod angen i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi, megis:
• Pan fydd hi’n ofynnol i’r Cyngor ddarparu’r wybodaeth yn ôl y gyfraith;
• Pan fydd gofyn datgelu’r wybodaeth i atal neu ganfod trosedd;
• Pan fydd y datgelu o fudd hanfodol i’r person dan sylw.