Skip to main content

Ceredigion County Council website

Diweddariadau i’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff

Yn anffodus ond yn anochel, mae amrywiaeth o faterion yn gallu effeithio ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau casglu gwastraff. Mae’r rhain yn cynnwys bod y staff a’r cerbydau ar gael a hefyd anawsterau o ran mynediad.

Rydym yn ymddiheuro’n ddiffuant pan fydd amharu ar y gwasanaethau ac yn ceisio ymateb cyn gynted â phosib.

Mae’r gwasanaeth casglu gwastraff yn cael ei ddarparu rhwng 8yb a 4yp, fodd bynnag ceir adegau lle byddwn yn gweithio tu allan i’r oriau hyn. Felly, peidiwch â riportio fod eich bin heb gael ei gasglu tan y diwrnod ar ôl eich diwrnod casglu rheolaidd. 

Hoffem ddiolch i'n preswylwyr am eu dealltwriaeth a'u cefnogaeth barhaus ar yr adeg arbennig o heriol hon.

Diolch.

Oherwydd y tywydd gaeafol mewn rhai ardaloedd yng Ngheredigion, ni fu modd teithio ar rai ffyrdd. Os nad yw eich gwastraff wedi'i gasglu, ac nad yw'ch llwybr yn ymddangos yn y rhestr isod, ailgyflwynwch eich gwastraff ar eich diwrnod casglu nesaf.

Dyddiad Ardal wedi’i effeithio Math o wastraff sydd wedi’i effeithio Rheswm Cyngor
10fed Ionawr 2025 Tregaron, Llanddewi Brefi, Llangybi, Llwyn y Groes, Llangeitho, Bwlchllan, Talsarn, Bethania, Cross Inn (G)
llwybr 171
Gwydr a Bagiau Du Problemau mynediad o ganlyniad i amodau'r tywydd Ailgyflwynwch eich gwastraff ar eich diwrnod casglu nesaf Ddydd Gwener 31ain Ionawr 2025

 

Dewch yn ôl ar gyfer y diweddaraf