Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Polisi Iaith Gymraeg Ysgolion Cyngor Ceredigion

Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn cydymffurfio â holl ofynion Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 fel y daw darpariaethau’r Ddeddf honno i rym, yn ogystal ag unrhyw is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig iddi.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ymrwymedig i gefnogi gweledigaeth ac uchelgais Llywodraeth Cymru o weld miliwn o bobl yn gallu mwynhau siarad a defnyddio’r Gymraeg erbyn 2050 yn unol â’u Strategaeth ‘Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg’.

Mae ‘Cwricwlwm i Gymru - Cwricwlwm am Oes’ yn pwysleisio’r ffaith bod y Gymraeg yn parhau yn orfodol hyd at 16 oed.

Mae pedwar diben y Cwricwlwm yn datgan:

“Dylai’r pedwar diben fod yn ddyhead ac yn nod terfynol ar gyfer y cwricwlwm a gynllunir gan ysgolion. Yn y pen draw, nod cwricwlwm ysgol yw cefnogi ei dysgwyr i ddod yn:

ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n:

  • gallu cyfathrebu’n effeithiol mewn gwahanol ffurfiau a lleoliadau, drwy’r Gymraeg a’r Saesneg”

Ar gyfer ysgolion yng Ngheredigion, mae addysgu’r Gymraeg a’r Saesneg, naill ai fel iaith gyntaf neu fel ail iaith, yn un o’r gofynion hanfodol ac sy’n adlewyrchu Cwricwlwm i Gymru.

Nod yr Awdurdod Lleol yw addysgu disgyblion i fod yn gwbl ddwyieithog erbyn iddynt gyrraedd diwedd yr oed cynradd gan ddatblygu ar y gallu hwnnw yn ystod eu cyfnod yn y sector Uwchradd/Gydol Oed, a hynny er mwyn eu galluogi i fod yn aelodau cyflawn o’r gymdeithas ddwyieithog y maent yn rhan ohoni. Mae’r dyhead hwn yn cyd-fynd â strategaeth gorfforaethol Cyngor Sir Ceredigion a’r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSCA).

Ysgolion Cynradd

Mae’r Polisi Iaith hwn yn ymestyn ar draws holl ysgolion cynradd y sir a’i nod yw datblygu gallu pob disgybl i fod yn hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg erbyn diwedd y cyfnod cynradd. Yn yr ysgolion cyfrwng Cymraeg, y Gymraeg yw’r iaith dysgu ac asesu hyd at 7 oed.

O Flwyddyn 3 ymlaen, mae parhad i ddatblygiad medrau llafar (gwrando a siarad), darllen ac ysgrifennu Cymraeg y disgyblion ac hefyd felly eu medrau tebyg yn Saesneg. Byddant yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg am isafswm o 80% o’r amser a’u hasesu yn erbyn deilliannau iaith gyntaf.

Yn yr ysgolion cynradd Trosiannol 2, addysgir ac asesir disgyblion hyd at 7 oed trwy gyfrwng y Gymraeg ar raglen dreigl gan ddechrau yn yr oed Meithrin, ers Medi 2024. Erbyn Blwyddyn 3 yn yr ysgolion Trosiannol 2, bydd y disgyblion yn parhau ar lwybr iaith gyntaf o ran y Gymraeg ac yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg am isafswm o 50% o’r amser. Byddant yn cael eu hasesu yn erbyn deilliannau iaith gyntaf.

Uwchradd/Gydol Oed

Disgwylir i ddisgybl sydd wedi ei asesu yn y Gymraeg fel iaith gyntaf ar ddiwedd y cyfnod cynradd (ysgolion cyfrwng Cymraeg) i barhau â’i addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector Uwchradd/Gydol Oed. Bydd yn parhau i ddilyn llwybr Cymraeg Iaith Gyntaf a phynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg hyd at ddiwedd Blwyddyn 9 (yn unol â chategori iaith yr ysgol honno) er mwyn sicrhau dilyniant a pharhad.

Adeiladir ar y sylfaen a osodwyd yn y cynradd trwy sicrhau bod pob disgybl yn parhau i ddatblygu sgiliau yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Anghenion Dysgu Ychwanegol

Yng Ngheredigion, mae yna ymrwymiad cadarn i sicrhau fod plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn derbyn cyfle cyfartal ieithyddol o safbwynt addysg ddwyieithog yn unol â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021.

Mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg a Saesneg ar gael ar gyfer cefnogi’r rhan fwyaf o’r ystod a’r amrywiaeth o ADY. Gellir cynnig gwasanaeth i rieni a disgyblion sy’n gwbl ddwyieithog.

Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSCA)

Mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022 - 2032 Cyngor Sir Ceredigion wedi ei gymeradwyo gan Llywodraeth Cymru. Mae’n gosod prif nodau’r awdurdod o ran datblygu’r Gymraeg a hynny dan saith deilliant penodol. Mae’r polisi hwn yn cefnogi’r amcanion a nodir o fewn y cynllun.

I weld copi o’r cynllun, cliciwch ar y ddolen canlynol: Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg

Darpariaeth newydd-ddyfodiaid

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth Canolfannau Iaith ar gyfer unrhyw ddisgybl sy’n cyrraedd Ceredigion rhwng Blynyddoedd 2 a 6. Cefnogir y disgyblion hyn i gaffael yr iaith Gymraeg o fewn tymor a chefnogir yr ysgolion gydag ôl ofalaeth bwrpasol.

Ewch i wefan Canolfannau Iaith Ceredigion am ragor o wybodaeth.

Diffiniad Categorïau Ysgolion yn ôl Canllaw Llywodraeth Cymru

Dyma’r categorïau anstatudol presennol:

Categorïau – Y Sector Cynradd
Categori 3 - Ysgol Cyfrwng Cymraeg

Cymraeg yw’r brif iaith ar gyfer cyfathrebu mewnol yn yr ysgol. Bydd yr ysgol yn cyfathrebu â rhieni a gofalwyr naill ai yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog yn ôl yr angen. Mae hon yn ysgol sydd ag ethos Cymraeg cadarn, gan gefnogi a galluogi’r dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob cyd-destun cymdeithasol yn yr ysgol a'r tu allan iddi.

Mewn lleoliad trochi mae pob dysgwr yn cael ei addysgu'n llawn yn y Gymraeg, gyda’r Saesneg yn cael ei defnyddio ar brydiau i sicrhau dealltwriaeth yn ystod y cyfnod trochi cynnar.

O 7 oed ymlaen bydd o leiaf 80% o weithgareddau ysgol y dysgwr (yn gwricwlaidd ac yn allgyrsiol) yn Gymraeg.

Categori 2 - Ysgol Dwy iaith

Defnyddir y Gymraeg a'r Saesneg ar gyfer cyfathrebu mewnol yn ogystal â chyfathrebu gyda rhieni a gofalwyr. Mae dealltwriaeth glir y bydd cynnal ethos Cymraeg o fewn yr ysgol yn cefnogi agweddau cadarnhaol tuag at ddefnydd o'r Gymraeg. Bydd dysgwr mewn ysgol o'r categori hwn yn gallu siarad, darllen, ysgrifennu a gwrando yn Saesneg ac yn Gymraeg yn unol â’i oedran a'i allu. Bydd sgiliau iaith Gymraeg yn cael eu cryfhau’n bellach drwy gynyddu’r cyfleoedd dysgu (cwricwlaidd ac allgyrsiol) sy’n cael eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg. Lle defnyddir y Gymraeg fel cyfrwng dysgu, defnyddir y Saesneg yn achlysurol i atgyfnerthu dealltwriaeth dysgwyr.

Gyda'r cymorth cywir, gallai dysgwyr symud ymlaen i ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg Categori 3.

Bydd o leiaf 50% o weithgareddau ysgol y dysgwyr (yn gwricwlaidd ac yn allgyrsiol) yn Gymraeg. Gellid cyflawni hyn mewn gwahanol ffyrdd yn dibynnu ar gyd-destun yr ysgol. Gallai fod drwy ddefnyddio trochi cyfrwng Cymraeg llawn hyd at 7 oed gyda dewis yn cael ei gynnig yn y grwpiau blwyddyn eraill, neu, bod 50% o weithgareddau’r ysgol yn Gymraeg drwyddi draw.

Categori 1 - Ysgol Cyfrwng Saesneg

Saesneg yw’r brif iaith ar gyfer cyfathrebu mewnol yn yr ysgol yn ogystal â chyfathrebu gyda rhieni a gofalwyr. Cydnabyddir y bydd creu ethos Cymraeg o fewn yr ysgol yn cefnogi ac yn annog agweddau cadarnhaol tuag at ddefnydd o'r Gymraeg. Bydd dysgwr mewn ysgol o'r categori hwn yn gallu darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando yn Saesneg yn unol â’i oedran a'i allu, a bydd ganddo rywfaint o ddealltwriaeth o'r Gymraeg. Caiff y Gymraeg ei haddysgu a’i hasesu fel rhan o’r Maes Dysgu a Phrofiad ar gyfer ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu.

Bydd o leiaf 15% o weithgareddau ysgol y dysgwyr (yn gwricwlaidd ac yn allgyrsiol) yn Gymraeg.

Categorïau – Y Sector Uwchradd
Categori 3 - Ysgol Cyfrwng Cymraeg

Mae ysgolion yn y categori hwn wedi'u rhannu'n ddwy ran: Categori 3 Cyfrwng Cymraeg a Chategori 3P Cyfrwng Cymraeg penodedig.

Ar gyfer pob ysgol yn y categori hwn, y Gymraeg yw’r brif iaith ar gyfer cyfathrebu mewnol. Bydd yr ysgol yn cyfathrebu â rhieni a gofalwyr naill ai yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog yn ôl yr angen.

Mae'r rhain yn ysgolion sydd ag ethos Cymraeg cadarn, gan gefnogi a galluogi’r dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob cyd-destun cymdeithasol yn yr ysgol a'r tu allan iddi. Bydd y dysgwr yn gallu siarad, darllen, ysgrifennu a gwrando yn Gymraeg a Saesneg yn unol â’i oedran a'i allu.

Bydd ysgol Categori 3 – Ysgol Cyfrwng Cymraeg yn cynnig ystod eang o'u Meysydd Dysgu a Phrofiad drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd o leiaf 60% o ddysgwyr sy'n ymgymryd ag o leiaf 70% o'u gweithgareddau ysgol (cwricwlaidd ac allgyrsiol) yn Gymraeg.

Bydd disgwyl i bob ysgol Categori 3 barhau i adlewyrchu cyd-destun ieithyddol yr ardal tra'n gweithio tuag at gynyddu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg dros amser.

Bydd ysgol Categori 3P – Ysgol Cyfrwng Cymraeg Penodedig yn cyflwyno pob Maes Dysgu a Phrofiad (Maes) drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd 100% o ddysgwyr yn ymgymryd ag o leiaf 90% o'u gweithgareddau ysgol (cwricwlaidd ac allgyrsiol) yn Gymraeg.

Categori 2 - Ysgol Dwy iaith

Defnyddir y Gymraeg a'r Saesneg ar gyfer cyfathrebu mewnol yn ogystal â chyfathrebu gyda rhieni a gofalwyr. Mae dealltwriaeth glir y bydd cynnal ethos Cymraeg o fewn yr ysgol yn cefnogi agweddau cadarnhaol tuag at ddefnydd o'r Gymraeg.

Bydd dysgwr mewn ysgol o'r categori hwn yn gallu siarad, darllen, ysgrifennu a gwrando yn Saesneg ac yn Gymraeg yn unol â’i oedran a'i allu. Bydd sgiliau iaith Gymraeg yn cael eu cryfhau’n bellach drwy gynyddu cyfleoedd dysgu (cwricwlaidd ac allgyrsiol) drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gan ddibynnu ar faint o amser a neilltuir i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a defnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r ystafell ddosbarth, byddai dysgwyr yn gallu defnyddio eu sgiliau Cymraeg mewn ystod o wahanol Feysydd Dysgu a Phrofiad

Bydd o leiaf 40% o ddysgwyr yn ymgymryd ag o leiaf 40% o weithgareddau ysgol (yn gwricwlaidd ac yn allgyrsiol) yn Gymraeg.

Categori 1 - Ysgol Cyfrwng Saesneg

Saesneg yw’r brif iaith ar gyfer cyfathrebu mewnol yn yr ysgol yn ogystal â chyfathrebu gyda rhieni a gofalwyr. Cydnabyddir y bydd creu ethos Cymraeg o fewn yr ysgol yn cefnogi ac yn annog agweddau cadarnhaol tuag at ddefnydd o'r Gymraeg. Bydd dysgwr mewn ysgol o'r categori hwn yn cael ei addysgu'n bennaf drwy gyfrwng y Saesneg, a bydd yn gallu siarad, darllen, ysgrifennu a gwrando yn Saesneg yn unol â’i oedran a'i allu. Caiff y Gymraeg ei haddysgu a’i hasesu fel rhan o’r Maes Dysgu a Phrofiad ar gyfer ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu.

Bydd o leiaf 15% o weithgareddau ysgol y dysgwyr (yn gwricwlaidd ac yn allgyrsiol) yn Gymraeg.

Categoreiddio ar ei newydd wedd yn unol â Deddf y Gymraeg ac Addysg 2025

Mae Deddf y Gymraeg ac Addysg 2025 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i greu is-ddeddfwriaeth ynghylch categoreiddio ysgolion.

Mae’r datganiadau isod yn pennu isafsymiau ar gyfer y tri chategori statudol pan dônt i rym:

  1. 80% ar gyfer y categori Prif Iaith - Cymraeg
  2. 50% ar gyfer y categori Dwy Iaith
  3. 10% ar gyfer y categori Prif Iaith - Saesneg, rhannol Gymraeg

Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n diwygio’r isafsymiau. Fodd bynnag, ni chaiff yr isafswm diwygiedig fod yn llai na 80% ar gyfer y categori Prif Iaith - Cymraeg, 50% ar gyfer y categori Dwy Iaith, a 10% ar gyfer y categori Prif Iaith - Saesneg, rhannol Gymraeg.

Isod gweler wybodaeth gyfredol am ysgolion Ceredigion:

Rhestr Ysgolion Ceredigion yn unol â’u categori iaith.