Cwricwlwm i Gymru
Beth fydd fy mhlentyn yn dysgu yn yr Ysgol Gynradd ac Uwchradd?
Mae pob disgybl sydd o oedran ysgol gorfodol ac sydd mewn ysgolion â gynhelir gan yr Awdurdod Lleol neu sy’n darparu Addysg ar ei ran, yn dilyn y Cwricwlwm i Gymru neu’r Cwricwlwm Cenedlaethol. Bydd dyfodiad Cwricwlwm i Gymru yn cael ei gyflwyno'n raddol i ddisgyblion mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.
Pryd fydd Cwricwlwm i Gymru yn cael ei fabwysiadu gan ysgolion Cymru?
- Medi 2022 – Pob disgybl cynradd a rhai disgyblion ym mlwyddyn 7
- Medi 2023 – Pob disgybl cynradd ac uwchradd ym mlynyddoedd 7 ac 8
- Medi 2024 – Pob disgybl cynradd ac uwchradd ym mlynyddoedd 7, 8 a 9
- Medi 2025 – Pob disgybl cynradd ac uwchradd ym mlynyddoedd 7, 8, 9 a 10
- Medi 2026 – Pob disgybl cynradd ac uwchradd ym mlynyddoedd 7, 8, 9, 10 ac 11
Ers cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru a Deddf Asesu 2021, mae pob ysgol wedi cael y cyfrifoldeb i ddylunio eu cwricwla eu hunain ar yr amod eu bod yn bodloni’r gofynion a nodir yn y ddeddfwriaeth ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae'r fframwaith yn arwain ysgolion i gynllunio eu cwricwlwm eu hunain. Mae'n cynnwys gwybodaeth am ofynion cyfreithiol, canllawiau ar sut i ddatblygu cwricwlwm ysgol, ac esboniad o ddibenion ac egwyddorion asesu. Yn ogystal â hyn, dylai cwricwla pob ysgol gael ei gymeradwyo a’i fonitro’n rheolaidd gan y corff llywodraethwyr a dylai crynodeb fod ar gael i’r cyhoedd.
Crefydd Gwerthoedd a Moeseg Crefydd (CGM)
Mae dysgu am grefydd, gwerthoedd a moeseg yn ofyniad statudol yn y Cwricwlwm i Gymru ar gyfer pob dysgwr o 3 i 16 oed. Gan fod CGM yn bwnc a bennir yn lleol, mae'r maes llafur cytûn yn nodi'r hyn y dylid ei addysgu o fewn pob un o'r 22 awdurdodau lleol yng Nghymru. Dylid cyflwyno CGM yn wrthrychol, yn feirniadol ac yn blwralistaidd, o ran cynnwys, addysgeg a chyflwyniad - nid yw’n ymwneud â gwneud dysgwyr yn ‘grefyddol’ neu’n ‘anghrefyddol’ ond yn hytrach yn annog dysgwyr i ddeall safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol fel eu bod wedi’u paratoi’n dda ar gyfer y cyfleoedd, cyfrifoldebau a phrofiadau o fywyd mewn cymdeithas gynyddol amrywiol.
Nid oes hawl gan rieni i wneud cais i dynnu plentyn allan o ddarpariaeth CGM yn y Cwricwlwm i Gymru.
Mae addoliad dyddiol yn parhau yn ofyniad statudol ar gyfer pob disgybl cofrestredig. Mae gan rieni yr hawl i ofyn i’w plentyn gael ei dynnu’n ôl o Addoliad Dyddiol trwy gais ysgrifenedig i’r ysgol.