Pontio i Addysg a Hyfforddiant ôl-16 ar gyfer Pobl Ifanc ag ADY
Mae pontio o addysg orfodol yn yr ysgol i addysg a hyfforddiant ôl-16 yn gam pwysig iawn ym mywyd pob person ifanc.
O Fedi 2022 mi fydd rhai o’r trefniadau ar gyfer pobl ifanc sy’n cychwyn addysg a hyfforddiant ôl-16 yn dechrau newid. Mae person ifanc yn golygu rhywun sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol (16) a hyd at 25 mlwydd oed. Mi fydd hyn yn digwydd fel rhan o gynllun gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Llywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i helpu i ddeall sut a phryd y bydd plant a phobl ifanc yn symud i’r system ADY ar ei thudalen System anghenion dysgu ychwanegol (ADY): canllaw i rieni a theuluoedd.
Bydd y canllaw canlynol yn eich helpu i ddysgu mwy am sut mae plant a phobl ifanc gydag ADY yn cael eu cynorthwyo yng Ngheredigion:
Dogfen Cefnogaeth yng Ngheredigion
Mae’r Cydlynydd Cefnogi Disgyblion a Theuluoedd ADY yn wasanaeth cyfrinachol am ddim, a gall gynorthwyo a darparu gwybodaeth am faterion sy’n ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol dros y ffôn, neu wyneb yn wyneb. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Cydlynydd Cefnogi Disgyblion a Theuluoedd ADY drwy ffonio 01545 570881 neu e-bostio pps@ceredigion.gov.uk neu ewch i’n tudalen Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
I gael mwy o wybodaeth am hawliau plant, pobl ifanc a’u rhieni, ewch i dudalen System anghenion dysgu ychwanegol (ADY): hawliau rhieni Llywodraeth Cymru (Dolen i wefan allanol).
Bydd Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yr ysgol yn darparu gwybodaeth am sut mae penderfyniadau ynghylch anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu gwneud. Byddant yn egluro popeth am y Cynllun Datblygu Unigol (CDU), pwy fydd yn ei gynnal, a hawliau'r person ifanc gan gynnwys eu hawl i gydsynio neu wrthwynebu penderfyniadau ADY a'u CDU.
Byddant yn rhoi gwybodaeth ac yn helpu i sicrhau bod y person ifanc yn gallu deall canlyniadau posibl penderfyniadau fel y gallant wneud penderfyniad gwybodus am eu ADY a'u CDU.
Byddwn yn gofyn i'r person ifanc:
- Beth yw eich barn chi am eich CDU?
- Ydych chi'n cytuno â'r cynllun?
- Ydych chi'n cydsynio i'r cynllun fynd yn ei flaen?
- Gyda phwy ydych chi'n hapus i rannu eich gwybodaeth?
Os nad yw'r person ifanc yn cydsynio i benderfyniad ynghylch ADY gael ei wneud neu gynllun gael ei baratoi neu ei gynnal, rhaid i'r ysgol neu'r awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDY) y mae ADY y person ifanc yn ei galw. Mae hyn yn golygu'r cymorth ychwanegol sydd ei angen i helpu'r person ifanc i ddysgu.
Rhaid i bawb sy'n gysylltiedig wneud popeth o fewn eu gallu i helpu'r person ifanc i wneud eu penderfyniad eu hunain.
Lle nad yw'r person ifanc yn gallu (heb y gallu i) wneud penderfyniadau am ei gynllun datblygu unigol, gall rhieni weithredu fel ei "gynrychiolydd". Mae hyn yn golygu y gall rhieni arfer hawliau'r person ifanc o dan y Cod ADY. Lle mae hyn yn wir, mae'n bwysig cynnwys y person ifanc gymaint â phosibl yn y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud, gan ystyried ei feddyliau, ei ddymuniadau a'i deimladau cyn gwneud penderfyniad ar ei ran.
Os oes angen cymorth ar y person ifanc neu ei gynrychiolydd i fynegi ei farn a'i ddymuniadau, ac arfer ei hawliau, gallant ofyn i eiriolwr helpu.
Eiriolwr yw rhywun sy'n siarad dros rywun arall. Gallant sicrhau bod pobl yn gwybod beth mae plant a phobl ifanc yn ei feddwl. A sut maen nhw'n teimlo.
Mae gan awdurdodau lleol wasanaethau partneriaeth sy'n rhoi cefnogaeth annibynnol i deuluoedd a gall unrhyw berson ifanc gael mynediad at gefnogaeth eiriolwr annibynnol i'w cefnogi drwy gydol y broses drawsnewid. Dysgwch ragor o wybodaeth am y rhain ar wefan SNAP Cymru (Dolen i wefan allanol).
Am ragor o wybodaeth am hawl pobl ifanc i gydsynio
Gwyliwch yr animeiddiad:
Neu ewch i dudalen Deddf Galluedd Meddyliol (Dolen i wefan allanol) ar wefan Mencap.
Gall pobl ifanc (16 oed) adael yr ysgol yn gyfreithlon ar ddiwedd Mehefin yn y flwyddyn ysgol pan gânt eu pen-blwydd yn 16 oed (sef Blwyddyn 11 fel arfer). Mae hyn yn golygu eu bod wedi cwblhau eu haddysg orfodol ac nad oes gofyn iddyn nhw fynychu ysgol bellach yn ôl y gyfraith. Gallant ddewis beth maent am ei wneud nesaf.
O Flwyddyn 9 ymlaen, mi fydd yna gyfleoedd i ddysgu mwy am ddewisiadau yn ystod y cyfarfodydd adolygu CDU blynyddol. Bydd Gyrfa Cymru’n cynorthwyo dysgwyr gyda’u hopsiynau, ac yn ystod adolygiadau CDU bydd y dysgwr a’i rieni’n cael help i fynegi’u barn a’u meddyliau ac i ofyn cwestiynau. Bydd yr ysgol a’r awdurdod lleol yn gwrando ac yn rhoi ystyriaeth i’r rhain wrth gynghori ar y llwybrau sydd ar gael i’r dysgwr.
Mae gwahanol opsiynau ar gael i’w hystyried pan fydd y cyfnod gorfodol yn yr ysgol wedi dod i ben. Mae’r opsiynau’n cynnwys:
- Addysg bellach mewn ysgol
- Parhau a’u haddysg mewn coleg addysg bellach e.e. Coleg Ceredigion, Addysg Oedolion Cymru
- Cyflogaeth
- Paratoi am Waith – Twf Swyddi Cymru +/Hyfforddiant
- Prentisiaethau
- Gwaith Gwirfoddol
- Darpariaeth Gwasanaeth Dydd
I gael mwy o wybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael a chymorth i wneud penderfyniadau ewch i wefan Gyrfa Cymru (Dolen i wefan allanol).
Mae Ceredigion yn un o'r awdurdodau lleol mwyaf cynhwysol yng Nghymru. Nid oes gennym unrhyw ysgolion arbennig, dim ond nifer fach o ganolfannau adnoddau arbenigol sydd ynghlwm ag ysgolion prif ffrwd. Mae hyn yn golygu bod mwyafrif ein dysgwyr yn cael eu haddysgu mewn ysgolion prif ffrwd. O Flwyddyn 9 ymlaen mi fydd yna gyfleoedd i ddysgu mwy am y dewisiadau petaech chi am aros yn yr ysgol, a hynny yn ystod y cyfarfodydd adolygu CDU blynyddol. I rai pobl ifanc, gall hyn olygu symud i ysgol arall. Bydd y CADY yn helpu dysgwyr gyda’u hopsiynau ac yn ystod adolygiadau CDU bydd y dysgwr a’i rieni’n cael cymorth i gyflwyno’u barn a’u meddyliau ac i ofyn cwestiynau. Bydd yr ysgol a’r awdurdod lleol yn gwrando ac yn rhoi ystyriaeth i’r rhain wrth roi cyngor am y ddarpariaeth ysgol ôl-16 fwyaf priodol ar gyfer y dysgwr.
Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn mynychu cwrs Coleg Addysg Bellach neu raglen hyfforddiant ar ôl gadael yr ysgol. Dyna fel y bydd hi o hyd, a byddant yn cael eu cynorthwyo i bontio’n llwyddiannus.
Mae Colegau Addysg Bellach yng Nghymru’n darparu amrywiaeth eang o gyrsiau sy’n cwrdd ag anghenion dysgwyr. Fel arfer, bydd pobl ifanc gydag anawsterau a/neu anableddau dysgu sy’n mynychu coleg yn cael eu hanghenion wedi’u diwallu drwy ddarpariaeth sydd ar gael i bob dysgwr, a elwir yn ddarpariaeth gyffredinol. Ni fydd angen cynllun datblygu unigol (CDU) ar ddysgwyr all gyflawni eu deilliannau addysg/hyfforddiant drwy’r ddarpariaeth gyffredinol.
O Fedi 2023, bydd dysgwyr sydd angen darpariaeth ddysgu ychwanegol yn trosglwyddo o’r ysgol i’r coleg gyda’u CDU, a bydd y coleg yn gweithio gyda phob person ifanc i wneud yn siŵr bod y cymorth yn briodol ar eu cyfer o fewn y cwrs maent wedi’i ddewis. Mae colegau’n cynnig amrywiaeth eang o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol i gwrdd ag anghenion y rhan fwyaf o ddysgwyr. I gael mwy o wybodaeth am ddarpariaeth colegau, ewch i wefan Braenaru ADY (Dolen i wefan allanol).
Bydd awdurdodau lleol yn defnyddio’r Cod ADY fel canllaw wrth benderfynu sut i gwrdd ag anghenion pobl ifanc sydd ag ADY. Mae’r Cod yn datgan y dylai pobl ifanc, lle bynnag y bo modd, allu mynychu eu haddysg ôl-16 a’u hyfforddiant yn lleol.
Gallwch ddysgu mwy am eich coleg lleol drwy wylio’r fideo Youtube canlynol:
Neu ewch i tudalen Anghenion Dysgu Ychwanegol (Dolen i wefan allanol) Coleg Ceredigion neu tudalen Cymorth Dysgu (Dolen i wefan allanol).
Mewn nifer fach iawn o achosion, mae’n bosib na all dysgwr gyflawni’r hyn mae’n ei ddymuno o ran addysg a hyfforddiant yn lleol. Gall hyn fod oherwydd bod ei anghenion mor gymhleth fel na ellir dod o hyd i leoliad lleol priodol.
Hyd yma, mae Llywodraeth Cymru a Gyrfa Cymru wedi gweithio ar y cyd i ddelio â cheisiadau pobl ifanc y gellir ond bodloni eu hanghenion o fewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol (ISPI). O Fedi 2022, bydd yr awdurdod lleol yn gweithio gyda dysgwyr Blwyddyn 11 a’u rhieni i ystyried yr opsiynau sydd ar gael i gwrdd ag anghenion dysgu’r person ifanc. Gall hyn gynnwys darpariaeth ôl-16 arbenigol.
Nes bod y cyfrifoldeb yn trosglwyddo i’r awdurdod lleol, bydd Gyrfa Cymru’n parhau i weithio gyda phobl ifanc sy’n parhau o dan y system ADY i gyflwyno ceisiadau i Lywodraeth Cymru pan gytunir y gellir ond bodloni anghenion y person ifanc drwy ddarpariaeth mewn ISPI.
Pan fydd gan ddysgwr anghenion iechyd neu ofal cymdeithasol, bydd swyddogion addysg yr awdurdod lleol yn gweithio mewn partneriaeth â byrddau iechyd ac adrannau gofal cymdeithasol i sicrhau gofal a chymorth priodol i alluogi’r dysgwr i gael mynediad at addysg.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y broses hon, gallwch gysylltu â’r awdurdod lleol drwy e-bostio aln@ceredigion.gov.uk.
Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion CAVO (Dolen i wefan allanol) sy’n hyrwyddo a chefnogi gweithgaredd cymunedol gwirfoddol ledled Ceredigion.
Hyfforddiant Ceredigion Training (HCT) (Dolen i wefan allanol) sy’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol i baratoi pobl o bob oed ar gyfer y gweithle drwy ddarparu hyfforddiant sgiliau.
Ewch i tudalen Anableddau Dysgu ni.
A oes angen cymorth arnoch chi i gael swydd neu swydd well? Os oes, gall ein Tîm Cymorth Cyflogadwyedd eich help. Ewch i tudalen Cymorth Cyflogadwyedd Ceredigion ni.
Os hoffech chi weithio nawr neu yn y dyfodol a’ch bod yn 16 oed neu’n hŷn, yn awtistig, ag anabledd dysgu neu’r ddau, gall y fenter Cyflogaeth dan Gymorth leol eich cynorthwyo gyda mentor personol. Am fwy o wybodaeth e-bostiwch getinvolved@pembrokeshire.gov.uk neu ffoniwch 01437 776609 (Mae’r fenter hon yn cefnogi pobl yng Ngheredigion, Sir Gâr a Sir Benfro).