Addysg Feithrin ar gyfer plant 3-4 oed (Cyfnod Sylfaen)
Trwy Gyngor Sir Ceredigion, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu lle addysg (adnabyddir hefyd fel Meithrin Dysgu Sylfaen - MCS) rhan amser i holl blant 3 oed os yw eu rhieni /gwarchodwyr yn dymuno hynny. Mae llefydd ar gael mewn unedau meithrin sydd ynghlwm wrth ysgolion cynradd mawr (12 ½ awr yr wythnos), neu mewn grwpiau/cylchoedd chwarae neu feithrinfeydd dydd sydd wedi’u cofrestru gyda’r Awdurdod (10 awr yr wythnos). Ariennir lle ar gyfer 2 awr y dydd, 5 niwrnod yr wythnos (gall rhai gynnig sesiynau 2½ awr dros 4 diwrnod). Ariennir plant am dri thymor yn dilyn eu pen-blwydd yn dair oed. Mae addysg llawn amser ar gael mewn ysgolion i bob plentyn yn y tymor sy’n dilyn eu 4ydd pen-blwydd.
Mae Addysg Feithrin ar gael yn 14 ysgol yng Ngheredigion.
- Cliciwch yma i ddod o hyd i'ch ysgol leol: Derbyn i Ysgol
- Rhestr ysgolion: Rhestr Ysgolion Ceredigion
Mae Addysg Feithrin ar gael yn 20 lleoliad yng Ngheredigion.
- Dilynwch y linc yma i ddod o hyd i'ch darparwr/lleoliad addysg feithrin leol (Cylch Meithrin / Grwpiau Chwarae): Gofal plant yng Ngheredigion
Term cyffredinol yw ‘Cyfnod Sylfaen meithrin’. (Cyfeirir ato hefyd fel yr ‘hawl i addysg gynnar’ ac ‘addysg gynnar a ariennir’.) Mae’n disgrifio’r amser y mae eich plentyn yn ei dreulio yn y Cyfnod Sylfaen rhwng tair a phedair oed. Mae hwn yn gyfnod pwysig ym mywyd eich plentyn gan ei fod yn gosod sylfaen ar gyfer eu haddysg yn y dyfodol ac yn rhan o’r cwricwlwm presennol a chwricwlwm y dyfodol.
Pryd bydd fy mhlentyn yn manteisio ar Gyfnod Sylfaen meithrin a ariennir?
Bydd hawl gan eich plentyn i gael addysg a ariennir, ran amser o safon yng Nghyfnod Sylfaen meithrin am o leiaf 10 awr yr wythnos. Gall hon fod mewn lleoliad (a all fod yn feithrinfa, neu grŵp chwarae a ariennir) a gymeradwyir gan eich awdurdod lleol, neu ysgol. Byddai eich plentyn yn dechrau Cyfnod Sylfaen meithrin o’r tymor yn dilyn ei ben-blwydd yn dair oed.
Pen-blwydd eich plentyn | Pryd all fy mhlentyn ddechrau yng Nghyfnod Sylfaen meithrin? |
---|---|
1 Medi i 31 Rhagfyr | Dechrau’r tymor ar neu ar ôl 1 Ionawr |
1 Ionawr i 31 Mawrth | Dechrau’r tymor ar neu ar ôl 1 Ebrill |
1 Ebrill i 31 Awst | Dechrau’r tymor ar neu ar ôl 1 Medi |
Beth yw manteision y Cyfnod Sylfaen ar gyfer fy mhlentyn?
Mae gweithgareddau’r Cyfnod Sylfaen yn digwydd y tu fewn a’r tu allan ac yn caniatáu i blant ddysgu drwy chwarae. Mae’r cwricwlwm yn rhoi’r cyfle i bob plentyn fod yn ganolbwynt i’w dysgu eu hunain. Bydd diddordebau eich plentyn yn cael eu hystyried a bydden nhw’n cael eu hannog i wneud dewisiadau am eu dysgu. Bydd staff cymwys yn arsylwi’r plant, gan weithio gydag unigolion, grwpiau bach, neu’r grwˆ p cyfan ar adegau er mwyn ehangu a datblygu’r dysgu. Mae hyn yn creu profiad dysgu sy’n ymarferol, yn hwyl ac yn llawn gweithgareddau i’r plentyn gymryd rhan ynddyn nhw, sydd yn hysbys i ddatblygu agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu.
Manteision y Cyfnod Sylfaen
- Meithrin hunan-gymhelliad ac annibyniaeth
- Gallu gwneud camgymeriadau heb fod ofn methu
- Meithrin sgiliau iaith a chyfathrebu
- Meithrin hunanhyder
- Meithrin agwedd gadarnhaol at ddysgu
- Datblygu sgiliau rhifedd
- Caniatáu mynegiant drwy ddawns, celf a cherddoriaeth
- Datblygu sgiliau meddwl a datrys problemau
Dysgu trwy chwarae
Mae’r Cyfnod Sylfaen wedi’i adeiladu ar yr egwyddorion o ddysgu trwy chwarae. Mae ymchwil yn profi bod dysgu yn hanfodol i ddatblygiad addysgol pob plentyn, ac mae tystiolaeth yn dangos bod dysgu drwy chwarae yn adnodd pwerus sy’n gallu helpu plant i ddatblygu ac ehangu eu sgiliau iaith a chyfathrebu. Mae’n caniatáu i blant dangos menter, cymryd risgiau a gwneud camgymeriadau heb ofn methu. Chwarae yw’r ffordd mae plant ifanc yn gwneud synnwyr o’r byd.
Mae sawl math o chwarae sy’n cefnogi cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen. Mae enghreifftiau yn cynnwys chwarae rôl, chwarae adeiladu, chwarae creadigol, chwarae archwiliadol a chwarae dychmygus.
Canllawiau
Mae’r Cyfnod Sylfaen yn gwricwlwm datblygiadol i blant tair i saith oed yng Nghymru. Mae’n ceisio annog plant i fod yn greadigol, yn ddychmygus a chael hwyl, ac mae’n gwneud dysgu yn fwy pleserus ac effeithiol.
Bydd eich plentyn yn cael cyfleoedd i archwilio’r byd o’i gwmpas a deall sut mae pethau’n gweithio drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol sy’n berthnasol i’w gam datblygu. Caiff eich plentyn ei herio drwy weithgareddau ymarferol a bydd cwestiynau penagored yn datblygu ei sgiliau meddwl. Bydd eich plentyn hefyd yn cael ei annog i archwilio cysyniadau a rhannu syniadau ar gyfer datrys problemau.
Beth mae fy mhlentyn yn ei ddysgu?
Mae saith Maes Dysgu yn y Cyfnod Sylfaen (neu chwech yn lleoliadau fel meithrinfeydd, grwpiau chwarae a ariennir, neu yn yr ysgolion hynny lle mai Cymraeg yw’r brif iaith) lle mae modd cydblethu gweithgareddau a phrofiadau chwarae strwythuredig ac ysgogol yn y profiadau dysgu a gaiff eu cynnig yn yr awyr agored ac yn yr ystafell ddosbarth.
Saith Maes Dysgu
- Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Diwylliannol
- Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu (gweler Nodyn 1)
- Datblygiad Mathemategol
- Datblygu’r Gymraeg (gweler Nodyn 2)
- Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd
- Datblygiad Corfforol
- Datblygiad Creadigol
Nodiadau
1 Bydd hyn yn Gymraeg neu yn Saesneg yn dibynnu ar bolisi iaith y lleoliad neu ysgol.
2 Nid yw’n ofynnol yn y lleoliadau neu’r ysgolion sy’n dilyn y Maes Dysgu Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dilynwch y linc am Canllawiau Y Cyfnod Sylfaen: canllaw i rieni a gofalwyr:
Am fwy o wybodaeth dilynwch y linc i Llywodraeth Cymru:
Beth yw Anghenion Dysgu Ychwanegol?
Anghenion dysgu ychwanegol mewn addysg feithrin - Cynhwysiant
Mae gan bob plentyn y cyfle i elwa ar brofiadau a gweithgareddau blynyddoedd cynnar o ansawdd yn y gymuned leol.
Mae pob plentyn, waeth beth yw ei anghenion ef / hi, yn elwa o'r profiadau mewn darpariaethau meithrin. Er mwyn adnabod unrhyw anghenion ychwanegol ac i sicrhau ymyrraeth gynnar, mae un aelod o staff ym mhob darpariaeth yn gyfrifol am sicrhau bod anghenion y plant yn cael eu diwallu. Mae'r unigolion hyn yn gweithio'n agos gyda'u Cydlynwyr Cynllun Cyfeirio lleol.
Os oes angen cymorth ychwanegol ar eich plentyn, mae yna gynllun cyfeirio a reolir gan Mudiad Meithrin ar draws yr holl ddarpariaeth feithrin nas-gynhelir ar ran Cyngor Sir Ceredigion.
Beth yw SNAP Cymru?
Mae SNAP Cymru yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i rieni plant a phobl, sydd wedi neu a allai fod ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau.
Gall y linc yma fod yn ddefnyddiol: