Cynllun Rheoli Traethlin
Mae Cynllun Rheoli Traethlin yn rhoi asesiad ar raddfa fawr o’r peryglon sy’n gysylltiedig â phrosesau arfordirol sy’n achosi erydu a llifogydd. Mae hefyd yn cyflwyno fframwaith polisi er mwyn lleihau’r peryglon i bobl ac i’r amgylchedd datblygedig, hanesyddol a naturiol. Bydd yn gwneud hynny mewn ffordd gynaliadwy hyd at yr ail ganrif ar hugain.
Lluniwyd Cynlluniau Rheoli Traethlin am y tro cyntaf ym mlynyddoedd cyntaf y mileniwm, ac maent bellach wedi’u hadolygu. Mae Cynllun Rheoli Traethlin 2 yn gynllun integredig ar gyfer yr arfordir sydd o dan reolaeth yr awdurdodau lleol sy’n rhan o’r Cynllun – Sir Benfro, Ceredigion, Powys, Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn.
Gan fod y rhan helaeth o arfordir Ceredigion yn ddilychwin ac yn dra amrywiol o ran ei nodweddion daearegol a chynefinoedd, mae’n ardal o ddiddordeb amgylcheddol arwyddocaol ar lefel leol, cenedlaethol a rhyngwladol. Y nodweddion hynny hefyd sy’n denu llu o ymwelwyr i’r arfordir, rhywbeth sydd o bwys mawr i’r economi leol.
Mae arfordir Ceredigion yn amrywiol ac mae'n cynnwys clogwyni cerrig sy'n erydu'n araf, clogwyni clog-glai sy'n erydu'n araf, traethau graean, traethau tywod, traethau hir (Borth) a thraethau bychain (Llangrannog). Hefyd mae nifer o aberoedd gan gynnwys dwy o rai mawr sy'n nodi ffiniau'r Sir, aberoedd afonydd Teifi a Dyfi.
Mae siâp y traethau, y twyni a'r aberoedd yn newid drwy'r amser oherwydd y tonnau, y llanw a'r cerrynt sy'n symud gwaddodion ar hyd yr arfordir. Gall tywod a gwaddodion sy'n sefyll yn yr aberoedd ffurfio banciau a morfeydd heli ac mae'r afonydd troellog yn pennu eu hymylon hwythau.
Mae traethau a thwyni tywod yn warchodfeydd naturiol pwysig ar yr arfordir ac maent yn clustogi egni'r môr, gan leihau'r angen i adeiladu gwarchodfeydd drud.
Mewn rhai llefydd ar arfordir Ceredigion, yn enwedig yn y gogledd, mae'r tir yn is na'r llanw uchaf ac mae gwarchod rhag llifogydd yn hollbwysig. Gall twyni tywod neu fanciau graean wneud hyn, ac weithiau cant eu hatgyfnerthu gan warchodfeydd gwneud. Yn yr un modd mae erydu ar yr arfordir yn bygwth eiddo a buddiannau eraill.
Mae Cynllun Rheoli Traethlin 2 yn hyrwyddo polisïau ar gyfer rheoli’r arfordir fel y gellir cyflawni amcanion hirdymor heb orfod ymroi i amddiffyn yr arfordir mewn modd anghynaladwy. Serch hynny, mae’r amcanion cyfredol a’r dulliau rheoli wedi hen sefydlu, ac felly mae’n bosib na fyddai eu hailwampio’n llwyr yn briodol yn y tymor byr iawn. I gydnabod hynny mae Cynllun Rheoli Traethlin 2 yn rhoi amserlen ar gyfer newidiadau o ran amcanion, polisïau a dulliau rheoli er mwyn galluogi’r bobl sy’n penderfynu i symud o’r sefyllfa bresennol ac ymlaen i’r dyfodol.