Os ydych chi’n bwriadu gwneud gwaith ar gwrs dŵr neu ar y glannau, dylech drafod eich cynlluniau â Chyngor Sir Ceredigion cyn gynted ag y bo modd.

Bydd hynny’n galluogi’r Cyngor i roi gwybod a fydd arnoch angen Caniatâd Cwrs Dŵr Cyffredin (neu unrhyw ganiatâd arall sy’n berthnasol) cyn gwneud unrhyw waith.

Wrth asesu cais am Ganiatâd Cwrs Dŵr Cyffredin bydd y Cyngor yn ystyried amrywiaeth o ffactorau amgylcheddol, gan gynnwys perygl llifogydd, gwarchodaeth bywyd gwyllt, pysgodfeydd, terfynau’r llanw a’r modd y byddai unrhyw waith yn ail-lunio’r afon a’r dirwedd.

O dan Ddeddf Draenio Tir 1991, bydd arnoch angen cael caniatâd gan eich awdurdod lleol, Cyngor Sir Ceredigion, cyn gwneud unrhyw waith i greu neu newid argae melin, cored neu rywbeth arall cyffelyb sy’n rhwystro llif cwrs dŵr cyffredin, a bydd hynny’n cynnwys unrhyw fwriad i osod ceuffosydd neu’u newid mewn ffordd a fyddai’n debygol o gael effaith ar lif y dŵr. Ceir diffiniad o gyrsiau dŵr cyffredin yn Adran 13 o’r ddogfen Canllaw i’ch hawliau a’ch cyfrifoldebau fel perchennog glannau afon yng Nghymru.

Codir tâl o £50 fesul strwythur am bob cais.

Dylid nodi ei fod yn bolisi gan Gyngor Sir Ceredigion i beidio â chreu ceuffosydd, gan mai’r farn gyffredinol yw eu bod yn cynyddu perygl llifogydd (oherwydd blocio a diffyg cynnal a chadw) ac yn niweidio ecoleg y cwrs dŵr.

Gellid ystyried rhoi caniatâd i greu ceuffos pan fydd gofyn cael mynediad dros gwrs dŵr, ond bydd yn rhaid i du mewn y geuffos fod â diameter o 600mm o leiaf.

Yn yr un modd ag y mae Deddf Draenio Tir 1991 yn ei gwneud yn ofynnol ichi gael caniatâd Cyngor Sir Ceredigion i wneud unrhyw waith ar Gwrs Dŵr Cyffredin, mae Deddf Adnoddau Dŵr 1991 a’r is-deddfau cysylltiedig yn ei gwneud yn ofynnol ichi gysylltu â Chyfoeth Naturiol Cymru i wneud cais am ganiatâd ffurfiol i wneud gwaith mewn prif afon, drosti, oddi tani neu ar ei glannau.

Os nad ydych chi’n siŵr a yw’r cwrs dŵr y bwriadwch wneud gwaith ynddo/arno’n Gwrs Dŵr Cyffredin ynteu’n Brif Afon, mae croeso ichi gysylltu â Chyngor Sir Ceredigion i gael cadarnhad.

Ar ôl cadarnhau’r manylion cychwynnol gallwch gwblhau’r ffurflen gais a’i dychwelyd i’r Cyngor ynghyd â’r tâl priodol.

Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn penderfynu ymhen dau fis a fydd yn caniatáu’r gwaith neu beidio.

Gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad os credwch fod caniatâd wedi’i wrthod heb reswm digonol. Fe gewch fwy o wybodaeth am y weithdrefn apelio os bydd y Cyngor yn gwrthod rhoi caniatâd.

Ni ddylech wneud unrhyw waith heb ganiatâd. Os gwnewch chi hynny, gall fod yn ddrud.

Os bydd Cyngor Sir Ceredigion yn penderfynu fod yn rhaid mynd ati i ddadwneud eich gwaith neu’i addasu, bydd yn medru hawlio’r costau oddi wrthych am ba bynnag gamau y penderfynir eu cymryd. Gall Cyngor Sir Ceredigion fynnu hefyd eich bod yn cywiro’r sefyllfa. Pe byddech yn methu â chydymffurfio â rhybudd i ddatrys problemau, gellid dwyn achos troseddol yn eich erbyn.

Wrth bwyso a mesur unrhyw gais am Ganiatâd Cwrs Dŵr Cyffredin, ni fydd Cyngor Sir Ceredigion yn asesu nac yn cymeradwyo dyluniad unrhyw strwythur nac yn cadarnhau a yw’ch cynllun yn cydymffurfio â deddfau eraill (gan gynnwys Iechyd a Diogelwch), ac ni fydd yn caniatáu ichi wneud gwaith ar dir neu afonydd nad ydych chi’n berchen arnynt. Bydd yn rhaid ichi sicrhau cydsyniad perchennog y tir yn ogystal â chael Caniatâd Cwrs Dŵr Cyffredin.