
Pencampwriaethau Rasio Ffordd Cenedlaethol Lloyds
Aberystwyth, 29 Mehefin 2025.
Ar ôl dechrau ar lan y môr lle bydd cyflwyniad, bydd rasys y ffordd yn mynd allan o'r dref tuag at Y Gors cyn belled â Thrawsgoed ar ddolen wrthglocwedd heriol a hardd 23.4km, gan anelu'n ôl tuag at Aberystwyth gan basio Abermad.
Gyda graddiant mwyaf o 9.1% ar ddechrau pob lap, bydd y peloton yn teneuo wrth i ni symud ymlaen i'r gylchffordd orffen ar ôl tri lap ar gyfer ras y menywod a phum lap yn y ras y dynion.
Mae'r cylchffyrdd gorffen o 12.4km - pedwar i'r menywod a phump i ras y dynion - yn defnyddio'r man cychwyn a gorffen ar lan y môr fel ei chanolbwynt, gan redeg ar hyd bron y promenâd cyfan, heibio'r hen goleg a thiroedd y castell, cyn rhan dechnegol drwy'r hen harbwr cyn dolennu dros bont Trefechan.
Cymaint yw natur heriol y cwrs, mae graddiant mwyaf o 8.7% trwy Southgate i'w daclo bob lap. Bydd y ddisgynfa dechnegol gul o 13.8% o Foriah yn ôl i'r brif A44 yn brawf o sgiliau trin beic wrth i'r beicwyr gyrraedd ychydig gilometrau olaf pob pencampwriaeth.
Oddi yno, mae'r ras yn mynd yn ôl i'r dref cyn gorffen ar bromenâd glan y môr ar ôl 128km i ras y menywod a 187km i'r ras agored.