Llyfrgelloedd Symudol
Gwasanaethau Symudol i bobl sy'n gaeth i'r cartref
Mae gan y Gwasanaeth tair llyfrgell deithiol. Mae'r faniau pentref yn ymweld unwaith bob 4 wythnos.
Os nad ydych yn byw mewn pentref, gallwch ofyn i'r Llyfrgell deithiol alw yn eich cartref - cysylltwch â Llyfrgell Aberystwyth (Ffôn 01970 633717) am fanylion.
Os yr ydych yn gaeth i'r cartref, cewch wneud cais i gael llyfrau ac adnoddau eraill i'ch drws. Os yr ydych wedi'ch cofrestru fel gofalwr/wraig cewch wneud cais i gael llyfrau i'ch drws. Cysylltwch â phencadlys gwasanaethau'r llyfrgell yn 01970 633717, llyfrgell.library@ceredigion.gov.uk neu yn Llyfrgell Ceredigion, Aberystwyth, Canolfan Alun R Edwards, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 2EB am ragor o wybodaeth