Gostyngiadau ac Eithriadau
Mae Treth y Cyngor yn daladwy ar gyfer y rhan fwyaf o anheddau. Y mae yna, fodd bynnag, rai eithriadau lle na fydd yn rhaid talu Treth y Cyngor ar eu cyfer.
Dosbarth | Crynodeb |
---|---|
A. |
Annedd heb ddodrefn: Bydd yr eithriad yn gymwys am y cyfnod byrraf o'r ddau isod: |
B. |
Annedd sy'n eiddo i Elusen a fu'n wag am lai na 6 mis. |
C. |
Annedd sy'n wag a heb ddodrefn i bob pwrpas ac a fu felly am lai na 6 mis, neu eiddo sydd wrthi yn cael ei chodi neu sydd i bob pwrpas wedi'i chodi ond a fu'n wag a heb ddodrefn am lai na 6 mis ers ei chwblhau. |
D. |
Annedd sy'n wag oherwydd bod y sawl sy'n rhwymedig i dalu yn y carchar. |
E. |
Annedd sy'n wag oherwydd bod y sawl sy'n rhwymedig i dalu yn glaf tymor hir mewn ysbyty neu gartref gofal. |
F. |
Eiddo sy'n wag a lle bo'r sawl sy'n rhwymedig i dalu yn gynrychiolydd personol y cyn-breswylydd ymadawedig a lle bu llai na 6 mis ers i'r ewyllys gael ei brofi neu i lythyrau gweinyddu gael eu cyflwyno. |
G. |
Annedd y gwaherddir ei meddiannu yn ôl y gyfraith. |
H. |
Annedd sy'n wag ac yn cael ei chadw ar gyfer gweinidog yr efengyl. |
I. |
Annedd sy'n wag oherwydd bod y sawl sy'n rhwymedig i dalu yn derbyn gofal mewn eiddo arall. |
J. |
Annedd sy'n wag oherwydd bod y sawl sy'n rhwymedig i dalu yn darparu gofal mewn eiddo arall. |
K. |
Annedd sy'n wag oherwydd bod y sawl sy'n rhwymedig i dalu yn fyfyriwr sy'n byw mewn eiddo arall. |
L. |
Annedd sy'n wag oherwydd iddi gael ei hawlio'n ôl gan y sawl a roddodd forgais ar ei chyfer. |
M. |
Neuadd Breswyl i fyfyrwyr. |
N. |
Annedd lle bo'r preswylwyr i gyd yn fyfyrwyr. Bydd yr eithriad yn dal i fod yn gymwys lle bydd g?r neu wraig i fyfyriwr nad yw'n Brydeiniwr yn cael ei wahardd, oherwydd telerau'r fisa i gael mynediad i'r Deyrnas Unedig, rhag cael swydd na derbyn budd-daliadau. |
O. |
Annedd sy'n eiddo i'r Gweinidog Gwladol dros Amddiffyn. |
P. |
Anheddau lle bo'r preswylwyr yn aelodau o luoedd ar ymweliad (yn unol ag ystyr Rhan 1 Deddf Lluoedd ar Ymweliad 1952). |
Q. |
Annedd sy'n wag a lle bo'r sawl sy'n rhwymedig i dalu yn ymddiriedolwr mewn achos o fethdalu |
R. |
Annedd yn cynnwys llain neu angorfa lle nad oes yno garafán na chwch. |
S. |
Annedd lle bo'r preswylydd neu'r preswylwyr o dan 18 oed. |
T. |
Annedd wag sy'n rhan o eiddo sengl sy'n cynnwys annedd arall na ellir ei gosod ar wahân heb dorri rheolau Cynllunio. |
U. |
Annedd lle bo'r preswylwyr yn bobl sy'n dioddef o salwch meddwl difrifol yn unig neu bobl sy'n dioddef o salwch meddwl difrifol ynghyd ag un neu ragor o fyfyrwyr. |
V. |
Annedd lle bo'r sawl sy'n rhwymedig i dalu yn Ddiplomat neu'n gweithio i rai Sefydliadau Rhyngwladol arbennig. |
W. |
Anecs neu ran annibynnol i'r eiddo lle bo perthynas oedrannus neu anabl yn byw a gweddill y teulu yn byw yn y rhan arall o'r eiddo. |
X. |
Eiddo gydag un neu fwy o unigolion sydd wedi gadael gofal (24 oed neu lai, ac yn berson ifanc categori 3 fel a ddiffinir gan Adran 104 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru 2014) lle mae pob preswylydd yn unai unigolion sydd wedi gadael gofal, yn fyfyrwyr neu sydd ag anableddau dysgu / anhwylder iechyd meddwl – eithriad yn effeithiol o 1af Ebrill 2019 yn unig. |
Disgownt
Mae’r adran isod yn rhoi rhyw syniad i chi o’r mathau o ostyngiadau sy’n bosibl. Sylwer nad yw’r amodau cymhwysedd llawn i’w gweld yma. Os ydych yn credu efallai fod gennych hawl i ddisgownt yna dylech gyflwyno cais i’r Cyfarwyddwr Cyllid.
Os mai un oedolyn yn unig sy’n byw yn yr annedd caniateir gostyngiad o 25%. Gall rhai oedolion sy’n byw yn yr annedd gael eu ‘diystyru’ at ddibenion y gostyngiad. Mewn geiriau eraill, ni chânt eu cyfri’n aelodau o’r cartref at ddibenion hawlio gostyngiad yn Nhreth y Cyngor.
Dyma’r grwpiau o oedolion a gaiff eu diystyru:
- Myfyrwyr llawn amser, nyrsys sy’n fyfyrwyr; prentisiaid a phobl ifanc sydd ar gyrsiau Hyfforddiant Ieuenctid;
- Cleifion preswyl mewn ysbyty;
- Pobl sy’n derbyn gofal mewn cartrefi gofal;
- Pobl sy’n dioddef o salwch meddwl difrifol;
- Pobl sy’n aros mewn rhai hosteli neu lochesi nos arbennig;
- Pobl ifanc 18 a 19 oed sydd yn neu newydd adael yr ysgol;
- Gweithwyr gofal sy’n gweithio am gyflog isel (i elusennau fel rheol);
- Pobl sy’n gofalu am rywun sydd ag anabledd ac nad yw’n wr, yn wraig, yn bartner nac yn blentyn dan 18 oed;
- Aelodau o luoedd sydd ar ymweliad a rhai sefydliadau rhyngwladol;
- Aelodau o gymunedau crefyddol (mynaich a lleianod);
- Carcharorion (ac eithrio’r rhai a garcharwyd am beidio â thalu Treth y Cyngor neu ddirwy); Gellir cael gostyngiad o dan yr amgylchiadau isod:-
- Lle bo pawb ond un oedolyn sy’n byw yn yr annedd yn cael eu diystyru, neu
- Lle bo pob oedolyn sy’n byw yn yr annedd yn cael eu diystyru;
- O 1 Ebrill 2019, pobl sy’n gadael gofal - Mae person sy’n gadael gofal yn 24 oed neu’n iau ac yn berson ifanc categori 3 fel y’i diffinnir gan adran 104 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Os yw eich bil yn dangos bod gostyngiad wedi’i ganiatáu rhaid i chi ddweud wrth yr awdurdod sy’n eich bilio os bydd unrhyw newid yn eich amgylchiadau a fydd yn effeithio ar eich hawliau. Os na wnewch hynny, allwch gael eich cosbi.
Cyflwynodd Deddf Llywodraeth Leol 2003 bwerau dewisol newydd ar gyfer y Cyngor mewn cyswllt â disgownt treth y cyngor. Mae’r Ddeddf yn rhoi rhagor o ryddid i gynghorau i benderfynu neu amrywio disgownt ac eithriadau mewn cyswllt â threth y cyngor er mwyn rhoi ystyriaeth i broblemau lleol megis gorlifo a thrychinebau naturiol eraill.