Terfynau Cyflymder 20mya
Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch cynnal adolygiad cenedlaethol o’r terfyn cyflymder rhagosodedig o 20 mya a ddaeth i rym ar y rhan fwyaf o ffyrdd â golau stryd/ffyrdd cyfyngedig ym mis Medi 2023, gofynnwyd i bob awdurdod priffyrdd lleol yng Nghymru gasglu adborth gan y trigolion ar y terfynau o 20mya, er mwyn gallu asesu hyn yn erbyn canllawiau diwygiedig Llywodraeth Cymru ar osod terfynau cyflymder 30mya ar ffyrdd cyfyngedig a ffyrdd terfyn cyflymder 20mya eraill. Cyhoeddwyd y canllawiau diwygiedig hyn ym mis Gorffennaf.
Mae’r ‘cyfnod gwrando’ a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru bellach wedi dod i ben. Bydd unrhyw geisiadau pellach am newidiadau i drefniadau terfyn cyflymder yng Ngheredigion ond yn cael eu hystyried fel rhan o’r adolygiad terfyn cyflymder nesaf ar y Ffyrdd Sirol, sydd wedi’i amserlennu i ddilyn cyhoeddiad o ganllawiau newydd gan Lywodraeth Cymru yn 2025 ar setlo terfynau cyflymder lleol lle mae pobl yn byw.
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi derbyn 62 o sylwadau unigol, mynegodd 23 o’r rhain gefnogaeth i’r terfynau 20 mya newydd, mynegodd 20 ddymuniadau am newid i’r polisi cenedlaethol, a chyfeiriodd 8 yn uniongyrchol at leoliadau Cefnffyrdd a reolir gan Lywodraeth Cymru. Roedd sylwadau ar derfynau cyflymder penodol ar y Ffyrdd Sirol yn ymwneud â’r 33 lleoliad a restrir isod, gydag un cais yn cael ei ystyried y tu allan i gwmpas y cynllun hwn:
- Aberaeron A482
- Aberystwyth A4120 Gogledd
- Aberystwyth A4120 De
- Aberystwyth B4572 Ffordd Clarach
- Aberystwyth Coedlan y Parc
- Aberystwyth Rhiw Briallu
- Aberystwyth Waunfawr
- Bethania B4577
- Beulah C1162
- Borth B4353 a B4572
- Bronant A485
- Aberteifi C1001 Heol Ferwig
- Cenarth A484
- Coed-y-bryn B4334
- Cribyn B4337
- Cwmystwyth C1118
- Felinfach A482 wrth yr ysgol newydd
- Llandre B4353
- Llandyfriog A475
- Llanfarian A485
- Llangorwen B4572 & C1049
- Llangwyryfon B4576 a ffyrdd ymyl
- Llanilar A485 & B4575
- Llechryd A484
- Llechryd Adam Street
- Lledrod A485 & C1089
- Penrhyncoch all roads
- Penuwch B4577 & C1104
- Pontgarreg C1012
- Pontrhydfendigaid pob ffordd
- Rhydlewis B4334
- Rhydowen B4459
- Ynyslas B4353 a C1172
Bydd canlyniadau’r gwaith adolygu ar gyfer y lleoliadau uchod yn cael eu hychwanegu at y dudalen We hon unwaith y bydd y gwaith hwnnw wedi’i gwblhau.
Sylwch na all y Cyngor weithredu ar sylwadau a dderbyniwyd sy’n ymwneud â’r polisi yn gyffredinol (boed yn ei gefnogi neu yn ei erbyn) – gan fod y rhain yn faterion polisi cenedlaethol Llywodraeth Cymru.