Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Gorchmynion Rheoleiddio Traffig arfaethedig a rhai a gyflwynwyd yn ddiweddar/Gorchmynion Traffig Arbrofol cyfredol

Mae'r Cyngor yn bwriadu gwneud Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Dadlwytho) 2019 (Maes Arthur, Aberystwyth) (Gorchymyn Diwygio Rhif 18) 202x. Effaith y Gorchymyn hwn fydd cyflwyno Gwaharddiad newydd ar Aros Ar Unrhyw Adeg o bwynt 76m i'r de-orllewin o'r gyffordd â Boulevard St Brieuc ar ochr ogleddol Maes Arthur, ac o bwynt 81m i'r de orllewin o'r gyffordd â Boulevard St Brieuc ar ochr ddeheuol Maes Arthur, i gyfeiriad de-orllewinol hyd at ddiwedd Maes Arthur.

Gellir gweld y manylion yn Llyfrgell Canolfan Alun R. Edwards, Maes y Frenhines, Aberystwyth, SY23 2EB. Gwrthwynebiadau, gan nodi’r rhesymau yn ysgrifenedig, mynegiadau o gefnogaeth neu sylwadau eraill at clic@ceredigion.gov.uk neu’r Gwasanaethau Cyfreithiol, trwy law Ystafell y Post, Cyngor Sir Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion, SA46 0PA i‘w derbyn erbyn 24/06/2026.

Datganiad o’r Rhesymau

Mae Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Dadlwytho) 2019 (Maes Arthur, Aberystwyth) (Gorchymyn Diwygio Rhif 18) 202x yn cael ei gynnig er mwyn sicrhau bod traffig yn gallu teithio'n ddiogel ac yn hwylus ar hyd Maes Arthur, gan gynnwys mynediad i ddatblygiad o dai newydd.

Hysbysiad Safle

Gorchymyn Drafft

Mapiau i’w mewnosod

CE36 K18

CE36 L18

Gorchymyn i’w ddiwygio

Mapiau i’w dirymu

CE36 K18

CE36 L18

Mae'r Cyngor yn bwriadu gwneud Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Dadlwytho) 2019 (Heol Felin Newydd, Aberteifi) (Gorchymyn Diwygio Rhif 17) 202x, a Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Terfynau Cyflymder 20 mya, 30 mya, 40 mya a 50 mya a Ffyrdd a Ddatgyfyngwyd) (Cydgrynhoi) 2014 (Heol Felin Newydd, Aberteifi) (Gorchymyn Diwygio Rhif 28) 202x.  Bydd y Gorchmynion hyn yn cyflwyno Gwaharddiad Parcio ar Unrhyw Amser newydd ar ochr gogleddol y ffordd o bwynt sydd 104m o’i chyffordd â Ffordd Aberystwyth am bellter o oddeutu 89m i bwynt sydd 193m o’r un gyffordd ac ymestyn y cyfyngiad cyflymder o 20mya ar hyd Heol Felin Newydd o’r chyffordd â Ffordd Aberystwyth i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain i bwynt 210m o’r un gyffordd. . 

Gellir archwilio'r manylion ar-lein ac yn Swyddfeydd y Cyngor yn Stryd Morgan, Aberteifi yn ystod oriau swyddfa arferol. Dylid anfon gwrthwynebiadau, gan nodi rhesymau’n ysgrifenedig, mynegiadau o gefnogaeth neu sylwadau eraill i clic@ceredigion.gov.uk neu'r Gwasanaethau Cyfreithiol, trwy law Ystafell y Post, Cyngor Sir Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion, SA46 0AP i’w cael erbyn 02/06/2026. 

Datganiad o’r Rhesymau

Mae Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Dadlwytho) 2019 (Heol Felin Newydd, Aberteifi) (Gorchymyn Diwygio Rhif 17) 202x a Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Terfynau Cyflymder 20 mya, 30 mya, 40 mya a 50 mya a Ffyrdd a Ddatgyfyngwyd) (Cydgrynhoi) 2014 (Heol Felin Newydd, Aberteifi) (Gorchymyn Diwygio Rhif 28) 202x yn cyflwyno Gwaharddiad Aros Ar Unrhyw Amser newydd ar gyfer mynediad i ddatblygiad newydd fel rhan o amodau cynllunio fydd yn sicrhau gwelededd digonol, gan hefyd ymestyn y cyfyngiad cyflymder cyfredol o 20mya ar Heol Felin Newydd i gynnwys y ffordd fynediad newydd.  Mae’r ddau gynnig ar sail diogelwch y ffyrdd.

Hysbysiad Safle

Terfynau Cyflymder
Gorchymyn Drafft
Mapiau i’w mewnosod - CE81 P08, CE81 Q08
Gorchymyn i’w ddiwygio 
Mapiau i’w dirymu - CE81 P08 stamped, CE81 Q08 stamped

Cyfyngiadau Parcio
Gorchymyn Drafft
Mapiau i’w mewnosod - CE81, CE81 M22
Gorchymyn i’w ddiwygio
Mapiau i’w dirymu - CE81 stamped

Hysbysiad Cyhoeddus

Mae'r Cyngor wedi gwneud Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Dadlwytho) 2019 (Glan Môr Aberystwyth) (Lleoedd Parcio a Thaliadau Parcio) (Gorchymyn Diwygio Rhif 13) 2026, a fydd mewn grym o 30/03/2026, i gyflwyno newidiadau i gyfyngiadau parcio y manylir arnynt isod.

Rhif y lleoliad Lleoliad Disgrifiad
1 Rhodfa Fuddug, ar ochr y môr, o'r gwaharddiad presennol ar aros ar unrhyw adeg yn yr ardal droi, yn gyffredinol tua'r de am bellter o 233m Cilfach Talu ac Arddangos neu Dalu dros y Ffôn Newydd, 8am-8pm, 4 awr dim dychwelyd o fewn 4 awr yn disodli’r Aros Cyfyngedig presennol, Llun – Sad, 8am-6pm, 4 awr, dim dychwelyd o fewn 4 awr.
2 Rhodfa Fuddug, ar ochr y tir, o'r gwaharddiad presennol ar aros ar unrhyw adeg yn yr ardal droi, yn gyffredinol tua'r de am bellter o 168m Gwaharddiad Newydd ar Aros 8am-8pm yn disodli’r Gwaharddiad presennol ar Aros 9am-6pm
3 Rhodfa Fuddug, ar ochr y tir, o ddiwedd y cyfyngiad uchod, yn gyffredinol tua'r de am bellter o 35m Gwaharddiad Newydd ar Aros ar Unrhyw Adeg yn disodli’r Gwaharddiad presennol ar Aros 9am-6pm
4 Ffordd Gorsaf yr Heddlu ar yr ochr ogleddol, o'i chyffordd â Rhodfa Fuddug, yn gyffredinol tua’r dwyrain am bellter o 8m Gwaharddiad Newydd ar Aros ar Unrhyw Adeg yn disodli’r Gwaharddiad presennol ar Aros 9am-6pm
5 Ffordd Gorsaf yr Heddlu ar yr ochr ogleddol, o ddiwedd y cyfyngiad uchod, yn gyffredinol tua’r dwyrain am bellter o 14m Gwaharddiad Newydd ar Aros 8am-8pm (dim cyfyngiad presennol).
6 Ffordd Gorsaf yr Heddlu ar yr ochr ddeheuol, o'i chyffordd â Rhodfa Fuddug, yn gyffredinol tua’r dwyrain am bellter o 15m Gwaharddiad Newydd ar Aros ar Unrhyw Adeg yn disodli’r Gwaharddiad presennol ar Aros 9am-6pm
7 Rhodfa Fuddug, ar ochr y tir, o ddiwedd y Gwaharddiad newydd ar Aros ar Unrhyw Adeg yn Lleoliad 3 uchod, yn gyffredinol tua’r de am bellter o 30m Gwaharddiad Newydd ar Aros 8am-8pm yn disodli’r Gwaharddiad presennol ar Aros 9am-6pm
8 Rhodfa Fuddug, ar ochr y tir, o ddiwedd y cyfyngiad yn Lleoliad 7, yn gyffredinol tua’r de am bellter o 4m Gwaharddiad Newydd ar Aros ar Unrhyw Adeg yn disodli’r Gwaharddiad presennol ar Aros 9am-6pm
9 Maes Albert, ar yr ochr ogleddol, o fan 8m yn gyffredinol tua’r dwyrain o'i gyffordd â Rhodfa Fuddug, yn gyffredinol tua’r dwyrain am bellter o 20m Gwaharddiad Newydd ar Aros ar Unrhyw Adeg yn disodli’r Gwaharddiad presennol ar Aros 9am-6pm
10 Coedlan y Frenhines, ar yr ochr ogleddol, o fan 27m yn gyffredinol tua’r dwyrain o'i chyffordd â Morfa Mawr, yn gyffredinol tua'r dwyrain am bellter o 31m Gwaharddiad Newydd ar Aros ar Unrhyw Adeg yn disodli’r Gwaharddiad presennol ar Aros 9am-6pm
11 Coedlan y Frenhines, ar yr ochr ddeheuol, o 10m yn gyffredinol tua’r dwyrain o'i chyffordd â Morfa Mawr, yn gyffredinol tua'r dwyrain am bellter o 47m Gwaharddiad Newydd ar Aros ar Unrhyw Adeg yn disodli’r Gwaharddiad presennol ar Aros 9am-6pm
12 Glan-y-môr, ar ochr y tir, o’r Gwaharddiad presennol ar Aros o amgylch ei chyffordd â Maes Albert, yn gyffredinol tua’r de am bellter o 5m Gwaharddiad Newydd ar Aros ar Unrhyw Adeg yn disodli’r Gwaharddiad presennol ar Aros 9am-6pm
13 Glan-y-môr, ar ochr y môr, o’r Gwaharddiad presennol ar Aros ar Unrhyw Adeg ger ei chyffordd â Maes Albert, yn gyffredinol tua’r de am bellter o 115m Cilfach Talu ac Arddangos neu Dalu dros y Ffôn Newydd, 8am-8pm, 4 awr dim dychwelyd o fewn 4 awr yn disodli’r Aros Cyfyngedig presennol, Llun – Sad, 8am-6pm, 4 awr, dim dychwelyd o fewn 4 awr
14 Glan-y-môr, ar ochr y môr, o ddiwedd y cyfyngiad yn Lleoliad 13 yn gyffredinol tua’r de am bellter o 3m Gwaharddiad Newydd ar Aros ar Unrhyw Adeg i gwrdd â phen gogleddol y groesfan bresennol i gerddwyr ger y mynediad i doiledau cyhoeddus marciau igam-ogam
15 Glan-y-môr, ar ochr y tir, o’r Gwaharddiad newydd ar Aros ar Unrhyw Adeg yn Lleoliad 12 yn gyffredinol tua’r de am bellter o 118m Gwaharddiad Newydd ar Aros 8am-8pm yn disodli’r Gwaharddiad presennol ar Aros 9am-6pm i gwrdd â phen gogleddol y groesfan bresennol i gerddwyr ger y mynediad i doiledau cyhoeddus marciau igam-ogam
16 Glan-y-môr, ar ochr y môr, o ben deheuol marciau igam-ogam y groesfan bresennol i gerddwyr ger y mynediad i doiledau cyhoeddus (addasiad o 2m) yn gyffredinol tua’r de am bellter o 106m i ben gogleddol y groesfan i gerddwyr ger y gyffordd â Ffordd y Môr marciau igam-ogam Gwaharddiad Newydd ar Aros ar Unrhyw Adeg a Gwaharddiad ar Lwytho 10am-8pm yn disodli’r Gwaharddiad presennol ar Aros a Llwytho 10am-8pm
17 Glan-y-môr, ar ochr y tir, o ben deheuol y groesfan bresennol i gerddwyr ger y gyffordd â marciau igam-ogam Ffordd y Môr, yn gyffredinol tua’r de am bellter o 16m Gwaharddiad Newydd ar Aros 8am-8pm yn disodli’r Gwaharddiad presennol ar Aros 9am-6pm
18 Glan-y-môr, ar ochr y tir, o ddiwedd y cyfyngiad yn Lleoliad 17, yn gyffredinol tua’r de am bellter o 90m Cilfach Talu ac Arddangos neu Dalu dros y Ffôn Newydd, 8am-8pm, 4 awr dim dychwelyd o fewn 4 awr yn disodli’r Aros Cyfyngedig presennol, 1af Mai – 30 Medi, Llun – Sad, 9am-6pm, 2 awr, dim dychwelyd o fewn 2 awr
19 Glan-y-môr, ar ochr y môr, o fan 5m yn gyffredinol tua’r de-orllewin o ganolbwynt ei chyffordd â Ffordd y Môr, yn gyffredinol tua’r de-orllewin am bellter o 28m Cilfach Newydd i Fysiau Twristiaid yn Unig, 8am-8pm, 15 munud, dim dychwelyd o fewn 1 awr yn disodli’r Gilfach bresennol i Fysiau Twristiaid yn Unig, 1af Ebr – 31ain Hyd, 9am – 6pm, 15 munud, dim dychwelyd o fewn 1 awr
20 Glan-y-môr, ar ochr y tir, o ddiwedd y Gwaharddiad presennol ar Aros ar unrhyw Adeg o amgylch ei chyffordd â Ffordd y Môr, yn gyffredinol tua’r de-orllewin am bellter o 53m Cilfach Talu ac Arddangos neu Dalu dros y Ffôn Newydd, 8am-8pm, 4 awr dim dychwelyd o fewn 4 awr yn disodli’r Aros Cyfyngedig, 9am-6pm, 1 awr, dim dychwelyd o fewn 1 awr.
21 Glan-y-môr, ar ochr y môr, o ddiwedd y Gilfach i Fysiau Twristiaid yn Unig yn Lleoliad 19, yn gyffredinol tua’r de-orllewin am bellter o 43m Cilfach Talu ac Arddangos neu Dalu dros y Ffôn Newydd, 8am-8pm, 4 awr dim dychwelyd o fewn 4 awr yn disodli’r Aros Cyfyngedig presennol, Llun-Sad, 8am-6pm, 4 awr, dim dychwelyd o fewn 4 awr
22 Glan-y-môr, ar ochr y môr, o ddiwedd y cyfyngiad yn Lleoliad 21 yn gyffredinol tua’r de-orllewin am bellter o 21m Cilfach Newydd i Ddeiliaid Bathodyn i’r Anabl yn Unig 8am-8pm, 4 awr, dim dychwelyd o fewn 4 awr yn disodli’r gilfach bresennol i Ddeiliaid Bathodyn i’r Anabl yn Unig.
23 Glan-y-môr, ar ochr y môr, o ddiwedd y cyfyngiad yn Lleoliad 22, yn gyffredinol tua’r de-orllewin am bellter o 110m Cilfach Talu ac Arddangos neu Dalu dros y Ffôn Newydd, 8am-8pm, 4 awr dim dychwelyd o fewn 4 awr yn disodli’r Aros Cyfyngedig presennol, Llun-Sad, 8am-6pm, 4 awr, dim dychwelyd o fewn 4 awr
24 Glan-y-môr, ar ochr y tir, o ddiwedd y Gwaharddiad presennol ar Aros ar Unrhyw Adeg ger y ffin rhwng rhifau 8 a 9 Glan-y-môr, yn gyffredinol tua’r de-orllewin am bellter o 50m Cilfach Talu ac Arddangos neu Dalu dros y Ffôn Newydd, 8am-8pm, 4 awr dim dychwelyd o fewn 4 awr yn disodli’r Aros Cyfyngedig presennol, Llun-Sadwrn, 8am-6pm, 1 awr, dim dychwelyd o fewn 1 awr
25 Glan-y-môr, ar ochr y tir, o ddiwedd y cyfyngiad yn Lleoliad 24, yn gyffredinol tua’r de-orllewin i'r Gwaharddiad presennol ar Aros ar Unrhyw Adeg ger y gyffordd â Heol y Wig Gwaharddiad Newydd ar Aros ar Unrhyw Adeg yn disodli’r Aros Cyfyngedig presennol, Llun-Sad, 8am-6pm, 1 awr, dim dychwelyd o fewn 1 awr
26 Maes Lowri, gyferbyn â’r gyffordd â’r Stryd Newydd a ger y mynediad i Eglwys Sant Mihangel a'r Holl Angylion Gwaharddiad Newydd ar Aros ar Unrhyw Adeg, gan ymestyn y Gwaharddiad presennol ar Aros ar Unrhyw Adeg i 6m y naill ochr i'r mynediad i'r Eglwys
27 Stryd y Brenin, ar ochr y tir, o ddiwedd y Gwaharddiad presennol ar Aros ar Unrhyw Adeg ger y gyffordd â Maes Lowri, yn gyffredinol tua’r de-orllewin am bellter o 109m Cilfach Talu ac Arddangos neu Dalu dros y Ffôn Newydd, 8am-8pm, 4 awr dim dychwelyd o fewn 4 awr yn disodli’r Aros Cyfyngedig presennol, Llun-Sad, 8am-6pm, 2 awr, dim dychwelyd o fewn 2 awr...
28 Rhodfa Newydd ar ochr y môr, o fan 69m yn gyffredinol tua’r gorllewin o ganolbwynt ei chyffordd â Heol y Wig, yn gyffredinol tua’r de-orllewin am bellter o 55m Cilfach Talu ac Arddangos neu Dalu dros y Ffôn Newydd, 8am-8pm, 4 awr dim dychwelyd o fewn 4 awr a Gwaharddiad ar Aros am Garafannau a Charafannau Modur 11pm-8am...
29 Rhodfa Newydd, ar ochr y môr, o fan 22m yn gyffredinol tua’r de-orllewin o ddiwedd y cyfyngiad yn Lleoliad 28, yn gyffredinol tua’r de-orllewin am bellter o 90m Cilfach Talu ac Arddangos neu Dalu dros y Ffôn Newydd, 8am-8pm, 4 awr dim dychwelyd o fewn 4 awr a Gwaharddiad ar Aros am Garafannau a Charafanau Modur 11pm-8am...

Gwybodaeth Atodol - Darllenwch Cyn Ymateb

Datganiad o'r Rhesymau

Mae Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Dadlwytho) 2019 (Glan Môr Aberystwyth) (Lleoedd Parcio a Thaliadau) (Gorchymyn Diwygio Rhif 13) 2025 yn cael ei gynnig am y rhesymau canlynol:

  1. Cynyddu trosiant y cerbydau sy’n parcio ar y stryd, ac felly hybu masnachu
  2. Annog pobl i ddefnyddio mwy o drafnidiaeth gyhoeddus ac i fynd o un dull teithio i’r llall
  3. Lleihau tagfeydd traffig a gwella llif y traffig mewn mannau sensitif yn y dref
  4. Hyrwyddo rhagor o deithio llesol

Gorchymyn

Hysbysiad Lleoliad

Mapiau Hysbysiadau Lleoliad

Map Mawr gyda Hysbysiad Lleoliad

Map Rhyngweithiol

Cynlluniau i'w Dirymu

CE36 J15

CE36 J16

CE36 K12

CE36 K13

CE36 K14

CE36 K15

Cynlluniau i'w Mewnosod

CE36 J15

CE36 J16

CE36 K12

CE36 K13

CE36 K14

CE36 K15

Gorchymyn yn cael ei ddiwygio