HYSBYSIAD CYHOEDDUS

Mae'r Cyngor yn cynnig gwneud Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Terfynau Cyflymder 20 mya, 30 mya, 40 mya a 50 mya a Ffyrdd Heb Gyfyngiad) (Cydgrynhoi) 2014 (Felinfach) (Gorchymyn Diwygio Rhif 26) 2024. Bydd hyn yn ymestyn y terfyn cyflymder 20mya presennol am 11 metr ychwanegol i'r de o'i bwynt terfyn presennol. Gallwch weld y manylion ar-lein ac yn Swyddfa’r Post Felinfach, Felinfach, Llanbedr Pont Steffan. Gallwch anfon gwrthwynebiadau, gan nodi’r rhesymau yn ysgrifenedig, at  clic@ceredigion.gov.uk neu i’r Gwasanaethau Cyfreithiol, drwy law Ystafell y Post, Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE i gyrraedd erbyn 05/06/2024. 

DATGANIAD O’R RHESYMAU

The Ceredigion County Council (20 mph, 30 mph, 40 mph and 50 mph Speed Limits and Derestricted Roads) (Consolidation) Order 2014 (Felinfach) (Amendment Order No. 26) 2024 is being proposed on the grounds of road safety by Aeron Valley school.

DRAFT ORDER

HYSBYSIAD LLEOLIAD

Cynlluniau i’w dirymu
CE75-J12

Cynlluniau i’w mewnosod
CE75-J12

Gorchymyn sy’n cael ei ddiwygio

HYSBYSIAD CYHOEDDUS

Mae'r Cyngor yn cynnig gwneud Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Dadlwytho) 2019 (Felinfach) (Gorchymyn Diwygio Rhif 12) 2024. Bydd hyn yn cyflwyno Gwaharddiad newydd ar Aros ar Unrhyw Adeg ar y naill ochr a’r llall i’r A482 o 1.75 metr i’r gogledd o ffin ddeheuol yr eiddo sy’n dwyn yr enw Henllan, tua’r de hyd at 8 metr i'r de o bwynt terfyn deheuol presennol y terfyn cyflymder o 20mya. Gallwch weld y manylion ar-lein ac yn Swyddfa’r Post Felinfach, Felinfach, Llanbedr Pont Steffan SA48 8AE. Gallwch anfon gwrthwynebiadau, gan nodi’r rhesymau yn ysgrifenedig, at clic@ceredigion.gov.uk neu i’r Gwasanaethau Cyfreithiol, drwy law Ystafell y Post, Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE i gyrraedd erbyn 05/06/2024.

DATGANIAD O’R RHESYMAU

Mae Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Dadlwytho) 2019 (Felinfach) (Gorchymyn Diwygio Rhif 12) 2024 yn cael eu fwriadu ar sail diogelwch ar y ffyrdd ar bwys yr Ysgol newydd Dyffryn Aeron.

GORCHYMYN  DRAFFT

HYSBYSIAD LLEOLIAD

Cynlluniau i’w dirymu
dim

Cynlluniau i’w mewnosod
CE75
CE75-T13
CE75-T14

Gorchymyn sy’n cael ei ddiwygio

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 25/04/24. Ni fyddwn yn derbyn rhagor o ohebiaeth ynghylch y mater hwn.

HYSBYSIAD CYHOEDDUS

Mae'r Cyngor yn cynnig gwneud Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Terfynau Cyflymder 20 mya, 30 mya, 40 mya a 50 mya a Ffyrdd Heb Gyfyngiad) (Cydgrynhoi) 2014 (Comins Coch, Aberystwyth) (Gorchymyn Diwygio Rhif 25) 2024. Bydd hyn yn cyflwyno terfyn cyflymder parhaol o 50mya ar yr C1007 o’r gyffordd â’r A487 tua’r de am 50m, sef y rhan sydd eisoes yn ddarostyngedig i derfyn dros dro o 50mya, ac yn cyflwyno terfyn cyflymder parhaol o 50mya ar yr C1010 o’r gyffordd â’r A487 tua’r gogledd-ddwyrain am 30m, sef y rhan sydd eisoes yn ddarostyngedig i derfyn dros dro o 50mya. Gallwch weld y manylion ar-lein ac yn Llyfrgell Canolfan Alun R. Edwards, Sgwâr y Frenhines, Aberystwyth, SY23 2EB. Gallwch anfon gwrthwynebiadau, gan nodi’r rhesymau yn ysgrifenedig, at y clic@ceredigion.gov.uk neu’r Gwasanaethau Cyfreithiol drwy law Ystafell y Post, Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE fel eu bod yn cyrraedd erbyn 11/04/2024.

DATGANIAD O’R RHESYMAU

Bwriedir gwneud Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Terfynau Cyflymder 20 mya, 30 mya, 40 mya a 50 mya a Ffyrdd Heb Gyfyngiad) (Cydgrynhoi) 2014 (Comins Coch, Aberystwyth) (Gorchymyn Diwygio Rhif 25) 2024 ar sail diogelwch ar y ffyrdd, ac mae'n cyflwyno trefniadau parhaol ar gyfer terfyn cyflymder sy'n cydgysylltu â therfynau cyflymder newydd ar gefnffordd yr A487, lle nad oes lleoliadau addas ar gyfer arwyddion terfyn cyflymder wrth y cyffyrdd eu hunain ar gyfer y ffyrdd ymyl sirol.

GORCHYMYN  DRAFFT

HYSBYSIAD LLEOLIAD

Cynlluniau i’w dirymu
CE36
CE36-H13

Cynlluniau i’w mewnosod
CE36
CE36-F13
CE36-H13

Gorchymyn sy’n cael ei ddiwygio
Copi o’r Gorchymyn i’w dirymu