Marciau Sicrhau Mynediad (‘H’ Gwyn)
Mae parcio ar hyd unrhyw gwrb isel a ddarperir fel croesfan i gerddwyr neu er mwyn caniatáu mynediad at eiddo yn drosedd, a bydd cerbyd sydd wedi parcio yn y modd hwn yn agored i gael Hysbysiad Tâl Cosb (tocyn parcio). Er nad oes yn rhaid cael Marciau ‘H’ Sicrhau Mynediad er mwyn gorfodi’r drosedd hon, efallai y byddai’n briodol mewn rhai achosion i ddarparu marciau ‘H’ a fydd yn tynnu sylw gyrwyr at y cwrb isel ac a fydd yn eu hannog i beidio â pharcio yno. Fel arfer, gwelir y rhain mewn lleoliadau lle nad yw’r mynediad yn hollol amlwg i ddefnyddwyr y ffordd am ryw reswm.
Mae parcio ar hyd mynediad preifat at briffordd gyhoeddus lle nad oes cwrb isel hefyd yn drosedd, ond dim ond yr heddlu sy’n gallu gorfodi hyn, ac nid staff yr Awdurdod.
Er mwyn i fynediad preifat gael ei ystyried ar gyfer marciau ‘H’ newydd, mae’n rhaid iddi fod yn amlwg ei fod yn cael ei ddefnyddio er mwyn cael mynediad at y briffordd. Dylid darparu tystiolaeth bod y mynediad yn cael ei rwystro’n aml. Codir tâl ar gyfer y marciau hyn, ac mae manylion ar gael ar y dudalen Ffioedd a Chostau ar wefan y Cyngor.
Nodwch efallai y bydd angen caniatâd cynllunio a thrwydded ar gyfer mynediadau sydd newydd eu hadeiladu er mwyn caniatáu i gerbydau groesi’r droetffordd.