Skip to main content

Ceredigion County Council website

Arwyddion Cyfeiriad


Yn y DU, dilynir system hierarchaidd ar gyfer arwyddion cyfeiriad:

  • Arwyddion gyda chefndir glas ac ysgrifen wen sydd ar draffyrdd;
  • Arwyddion gyda chefndir gwyrdd ac ysgrifen wen sydd ar y prif lwybrau (ffyrdd deuol a chefnffyrdd) sy’n cysylltu trefi mawr a dinasoedd;
  • Arwyddion gyda chefndir gwyn ac ysgrifen ddu sydd ar bob ffordd arall, gan gynnwys Ffyrdd A nad ydynt yn brif lwybrau;
  • Ar bob math o ffordd, mae gan arwyddion cyfeiriad ar gyfer cyrchfannau i dwristiaid gefndir brown ac ysgrifen wen. Bydd angen i chi gysylltu â Llywodraeth Cymru ynghylch arwyddion i dwristiaid ar gefnffyrdd (yr A487 a’r A44). Cysylltwch â Gwasanaethau Technegol ynghylch arwyddion ar ffyrdd sirol. Nodwch fod disgwyl i’r atyniadau i dwristiaid dalu'r gost lawn ar gyfer yr arwyddion, gan gynnwys eu dylunio a’u gosod, ac mae’n rhaid iddynt fodloni meini prawf penodol i fod yn gymwys. Mae’r costau cyfredol wedi’u rhestru ar wefan y Cyngor ar y dudalen Ffioedd a Chostau.
  • Fel arfer, mae gan arwyddion cyfeiriad dros dro gefndir melyn ac ysgrifen ddu, fodd bynnag efallai y bydd dyluniadau eraill yn cael eu defnyddio. Weithiau, defnyddir arwyddion coch gydag ysgrifen wen i gyfleu gwybodaeth.

Mae’n rhaid i gynllun arwyddion cyfeiriad llwyddiannus fod yn glir ac yn ddealladwy i drigolion lleol yn ogystal ag ymwelwyr Ceredigion. Mae’n bwysig sicrhau nad yw gyrwyr yn derbyn gormodaeth o wybodaeth wrth agosáu at gyffordd, ond eu bod yn derbyn digon o wybodaeth i allu gwneud penderfyniad gwybodus ynglŷn â pha lwybr i’w ddilyn a gyrru yn ddiogel ac yn llwyddiannus.

Nod lleoliad arwydd cyfeiriad sy’n berthnasol i gyffordd yw sicrhau bod yr arwydd yn ddigon gweladwy i’r gyrwyr a bod ganddynt ddigon o amser i brosesu’r wybodaeth sydd arno.

Mae gan y rhan fwyaf o ffyrdd yng Ngheredigion gynllun arwyddion cyfeiriad eisoes ar waith. Dim ond os byddant o fudd i nifer fawr o yrwyr y bydd unrhyw geisiadau am arwyddion newydd yn cael eu hystyried.