Skip to main content

Ceredigion County Council website

Lansio Cychod Ymwelwyr

Ar hyn o bryd mae tri opsiwn ar gyfer gyrru cwch i’r dŵr yn Harbyrau Ceredigion, ar y sail isod.

  • Y dydd
  • Yr wythnos
  • Blynyddol (01/04 - 31/03)

Os hoffech lansio eich cwch yn un o’r tri harbwr sydd gennym yng Ngheredigion (Aberaeron, Aberystwyth a Chei Newydd), cwblhewch a dychwelwch y ffurflen gais lansio a manylion y cyfnod lansio y byddwch yn rhoi cais amdani, ynghyd â chopi o drwydded eich cwch. Bydd eich cais yna’n cael ei adolygu, a byddwch yn cael gwybod am y canlyniad maes o law (tudalen gyswllt isod).

Os bydd y cais yn cael ei gymeradwyo, bydd cyfarwyddyd talu yn cael ei anfon at eich dull cyswllt dewisol. Ar ôl talu'r ffi lansio briodol, byddwch yn cael eich clirio i'w lansio mewn unrhyw dri o Harbyrau Ceredigion am y cyfnod y gwneir cais amdano.

Mae'r ffioedd lansio wedi'u nodi yn y ddogfen Cyllid a Ffioedd gyfredol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn lansio, eisiau gwneud cais, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â'r Tîm Gwasanaethau Harbwr trwy'r tudalen Cysylltwch â ni.

Cofiwch nad oes unrhyw hawliau parcio yn cael eu rhoi i unrhyw ddeiliaid angorfa hirdymor neu ddefnyddwyr eraill yr harbwr. Mae'n ofynnol i ddefnyddwyr yr harbwr wneud eu trefniadau parcio eu hunain. Mae meysydd parcio talu ac arddangos cyhoeddus yng nghyffiniau pob un o'r harbyrau, gan gynnwys meysydd parcio talu ac arddangos canlynol a reolir gan y Cyngor:

  • Aberystwyth: Maes Parcio Promenâd Newydd
  • Aberaeron: Maes Parcio Traeth y De
  • Cei Newydd: Maes Parcio Stryd y Cware a Maes Parcio Ffordd yr Eglwys

I gael gwybodaeth am barcio a meysydd parcio Talu ac Arddangos y Cyngor, ewch i tudalen Parcio a Gorfodi Parcio Sifil.