Skip to main content

Ceredigion County Council website

Hysbysiadau Lleol i Forwyr a Threfniadau Awdurdod Goleudy Lleol

Mae Hysbysiadau i Forwyr yn cael eu hysbysu er mwyn cynghori ynghylch gwybodaeth diogelwch llywio hanfodol. Mae hysbysiadau i Forwyr wedi’u cyhoeddi isod ac yn cael eu diweddaru pan fo rhai newydd yn cael eu cyflwyno. Mae hysbysiadau i Forwyr hefyd yn cael eu danfon trwy e-bost i randdeiliaid perthnasol, a’r rheiny sydd wedi gofyn i gael eu cynnwys yn rhestr bostio Hysbysiadau i Forwyr. Os hoffech gael eich cynnwys i restr bostio Hysbysiadau Lleol i Forwyr, cysylltwch â’r Tîm Gwasanaethau Harbyrau gan ddefnyddio’r manylion ar y tudalen Cysylltwch â ni.

Dylai holl forwyr a defnyddwyr yr harbyrau lywio yn ofalus gan ddefnyddio’r holl ddulliau priodol , a dylid sicrhau bod yr holl offer llywio a chyhoeddiadau yn cael eu cynnal mewn cyflwr gwaith da ac yn parhau i fod yn gyfredol.

Hysbysiadau a gyhoeddwyd gan Gyngor Sir Ceredigion i Forwyr:

AE Rhif 10.24 Aberaeron - cyhoeddwyd 23/10/2024

AE Rhif 09.24 Aberaeron - cyhoeddwyd 16/10/2024

AE Rhif 05.24 Cei Newydd - cyhoeddwyd 12/09/2024

AE Rhif 08.24 Abeaeron - cyhoeddwyd 15/08/2024

AE Rhif 07.24 Abeaeron - cyhoeddwyd 19/07/2024

NQ Rhif 04.24 Cei Newydd - cyhoeddwyd 09/07/2024

AE Rhif 06.24 Abeaeron - cyhoeddwyd 05/07/2024

AT Rhif 01.24 Afon Teifi - cyhoeddwyd 03/07/2024

AE Rhif 05.24 Aberaeron - cyhoeddwyd 26/06/2024

AB Rhif 02.24 Clarach - cyhoeddwyd 20/06/2024

AE Rhif 01.24 Aberystwyth - cyhoeddwyd 14/06/2024

AE Rhif 04.24 Aberaeron - cyhoeddwyd 30/04/2024

AE Rhif 03.24 Aberaeron - cyhoeddwyd 17/04/2024

AE Rhif 02.24 Aberaeron - cyhoeddwyd 13/03/2024

CN Rhif 03.24 Cei Newydd - cyhoeddwyd 06/03/2024

CN Rhif 02.24 Cei Newydd - cyhoeddwyd 06/03/2024

CN Rhif 01.24 Cei Newydd - cyhoeddwyd 04/03/2024

AE Rhif 01.24 Aberaeron - cyhoeddwyd 19/01/24

AE Rhif 02.23 Aberaeron - cyhoeddwyd 27/11/2023

AB (DD) Rhif 07.22 Aberystwyth - cyhoeddwyd 04/10/2022

Wrth lywio o fewn neu ger Bae Ceredigion, rhaid bod yn ymwybodol o Hysbysiadau Lleol i Forwyr wrth holl Awdurdodau Goleudai a Harbyrau Lleol a rhanddeiliaid perthnasol. Gellir dod o hyd i hysbysiadau a gyhoeddir gan yr Awdurdod Goleudy Lleol a rhanddeiliaid sy’n cyhoeddi Hysbysiadau Lleol i Forwyr a gwybodaeth i forwyr isod:

Trefniadau Awdurdod Goleudai Lleol

Cyngor Sir Ceredigion yw’r Awdurdod Goleudai Lleol ar gyfer yr arfordir rhwng Ynyslas a Gwbert. Mae hyn yn cynnwys cyfrifoldeb dros Gymorth i Lywio (golau llywio, marciau llywio a bwoi) yn Harbyrau Aberystwyth, Aberaeron a Chei Newydd. Mae’r Tîm Gwasanaethau Harbyrau yn rheoli, archwilio a chynnal y Cymorth i Lywio yn yr harbyrau hynny y maent y gyfrifol amdanynt, yn unol â gofynion Côd Diogelwch Porthladd Morol, Trinity House a gofynion IALA.

Gofynnir i ddefnyddwyr yr harbwr a'r rhai sy'n llywio ar hyd yr arfordir i roi gwybod i'r Tîm Gwasanaethau Harbwr os byddant yn dod yn ymwybodol o ddiffygion i unrhyw eitem Cymorth i Lywio, neu unrhyw beth a allai effeithio ar ddiogelwch mordwyo. Gall hyn gynnwys:

  • Golau wedi’i ddiffodd
  • Marc/arwydd ar goll o’r orsaf
  • Marc uchaf (top mark) coll
  • Marc heb ei gofnodi
  • Perygl neu ddrylliad llywio heb ei farcio
  • Man bas neu dir gwag heb ei gofnodi
  • Unrhyw beth arall sydd yn eich barn chi yn effeithio ar ddiogelwch llywio

Gellir dod o hyd i wybodaeth gyswllt ar y tudalen Cysylltwch â ni.