Skip to main content

Ceredigion County Council website

Angori ar gyfer Ymwelwyr

Ar hyn o bryd mae dau opsiwn i'r rhai sydd am ymweld ag unrhyw un o'r tri harbwr ac angorfa a reolir yng Ngheredigion ar sail angorfa dros dro i ymwelwyr:

  • Y dydd
  • Yr wythnos (uchafswm arhosiad o bythefnos)

Fe’ch hysbysir mai nifer cyfyngedig o angorfeydd i ymwelwyr sydd ar gael ac nid ydym yn medru gwarantu y bydd safle angora addas ar gael. Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwneud cais am angorfa i ymwelwyr wneud hynny mewn da bryd.

Os hoffech lansio ymweld ag un o’r tri harbwr sydd gennym yng Ngheredigion (Aberaeron, Aberystwyth a Chei Newydd), cwblhewch a dychwelwch y ffurflen gais perthnasol (gweler y ddolen ac isod) a manylion y cyfnod y byddwch yn rhoi cais amdano, ynghyd â chopi o yswiriant eich cwch. Bydd eich cais yna’n cael ei adolygu, a byddwch yn cael gwybod am y canlyniad maes o law (tudalen gyswllt isod).

Os bydd y cais yn cael ei gymeradwyo, bydd cyfarwyddyd talu yn cael ei anfon at eich dull cyswllt dewisol. Ar ôl talu'r ffi ymweld priodol, byddwch yn cael eich clirio i ymweld â’r Harbwr y gwnaed y cais amdano am y cyfnod amser penodedig a rhoddir manylion i chi am yr angorfa/angorfeydd sydd wedi’u dyrannu i chi drwy gydol eich ymweliad.

Mae manylion ffioedd cychod sy’n ymweld i’w gweld yn y ddogfen Ffioedd a Chostau gyfredol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymweld, eisiau gwneud cais, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â'r Tîm Gwasanaethau Harbwr trwy'r tudalen Cysylltwch a ni.

Ni roddir unrhyw hawliau parcio i unrhyw un sy’n lansio cwch na defnyddwyr eraill yr harbwr. Dylai defnyddwyr yr harbwr wneud eu trefniadau parcio eu hunain. Mae'r Cyngor yn darparu meysydd parcio talu ac arddangos cyhoeddus yng nghyffiniau pob un o'r harbyrau, mae'r rhain fel a ganlyn:

  • Aberystwyth: Maes Parcio Promenâd Newydd
  • Aberaeron: Maes Parcio Traeth y De
  • Cei Newydd: Maes Parcio Stryd y Cware a Maes Parcio Ffordd yr Eglwys

I gael gwybodaeth am barcio a meysydd parcio, ewch i tudalen Meysydd Parcio - Ffioedd a Chostau.