Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cymunedau am Waith +

Dechreuodd y prosiect ym mis Ebrill 2023. Mae'r tîm yn cynnwys mentoriaid, Swyddog Cyswllt Cyflogwyr a staff cymorth. Maen nhw'n helpu pobl i wella eu sgiliau cyflogadwyedd. Dylai hyn, yn ei dro, eu helpu i gael cyflogaeth.

Employability Support Team

Mae Cymunedau am Waith + yn brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru a gyflenwir gan Gyngor Sir Ceredigion. Mae cymorth Cymunedau am Waith + ar gael i bawb sy'n 20 oed a hŷn sy'n byw yng Nghymru nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, ond canolbwyntir yn bennaf ar gefnogi'r rhai sydd mwyaf mewn perygl o fod dan anfantais.

Mae mentoriaid yn darparu cymorth un-i-un i gyfranogwyr gydag ysgrifennu CV, cynnal ffug gyfweliadau, uwchsgilio ac ariannu amrywiaeth eang o hyfforddiant, gan gynnwys cymorth i ddechrau eu busnes eu hunain. Mae'r tîm yn edrych ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwn ar gyfer y 12 mis nesaf i helpu trigolion Ceredigion i ddod o hyd i waith a lleihau tlodi.

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Dysgu a Dysgu Gydol Oes, "Gall y prosiect helpu i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli, lleoliadau profiad gwaith â thâl, cyfleoedd cyflogaeth ac yn cynnig cysylltiadau da â chyflogwyr lleol. Mae’r prosiect yn cynnig cyfle cadarnhaol I bobl”.

Gyda chymorth y prosiect, mae cyfranogwyr wedi dechrau cyflogaeth ac mae eraill wedi mynd i leoliadau gwirfoddoli, cyfleoedd gwaith â thâl neu hyfforddiant. Mae cyrsiau hyfforddi yn amrywio o gymwysterau cymorth cyntaf, manwerthu neu ofal iechyd, cardiau diogelwch adeiladu a hyd yn oed hyfforddiant gyrwyr HGV.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Dysgu a Dysgu Gydol Oes, "Gall y prosiect helpu i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli, lleoliadau profiad gwaith â thâl, cyfleoedd cyflogaeth ac yn cynnig cysylltiadau da â chyflogwyr lleol".

Os ydych chi'n meddwl y gallai'r prosiect eich helpu chi neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm ar 01970 633 422 neu ebostiwch TCC-EST@ceredigion.gov.uk.

Yn ogystal, cysylltwch â ni os ydych yn gyflogwr ac mae gennych chi unrhyw gyfleoedd i gyfranogwyr wneud profiad gwaith neu gyfleoedd gwaith â thâl (a ariennir gan Cymunedau am Waith +).