Cwrdd â'r Tîm
Rhian Owen
Rheolwr Tîm
Fi yw Rheolwr Tîm y Tîm Cymorth Cyflogadwyedd yng Ngheredigion. Mae'r Tîm Cymorth Cyflogadwyedd yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru i gyflawni'r prosiect Cymunedau am Waith a Mwy. O fewn fy rôl rwy'n gweithio'n agos gyda fy nhîm a phartneriaid eraill i sicrhau ein bod yn cynnig pecyn cymorth pwrpasol i drigolion Ceredigion sydd am ailymuno â'r farchnad lafur.
Bues i'n gweithio am sawl blwyddyn i'r Adran Gwaith a Phensiynau cyn dychwelyd i addysg uwch a chael gradd mewn Addysg. Ar ôl graddio, cefais swydd fel Cydlynydd NEET ar gyfer Ceredigion lle roeddwn i'n canolbwyntio ar helpu pobl ifanc gydag addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.
Er bod fy swydd wedi symud ymlaen o weithio'n uniongyrchol gyda'n cyfranogwyr, rwy'n dal i deimlo'n falch iawn ohonyn nhw i gyd pan fyddan nhw'n cyflawni ac yn cynnal cyflogaeth.
Emma Daniel
Cydlynydd - Cyflogaeth a Hyfforddiant
Yn fy rôl fel Cydlynydd rwy'n darparu cymorth i'r rheolwr tîm a phartneriaid rhanbarthol gan gefnogi'r gwaith o baratoi, datblygu, monitro a gwerthuso'r prosiectau cyflogadwyedd yng Ngheredigion. Rwy'n gweithio'n agos gyda'r tîm cyfan hefyd i fonitro perfformiad y prosiectau a sicrhau bod yr holl weithdrefnau ansawdd yn cael eu dilyn wrth gyflawni'r cymorth.
Mae fy nghefndir addysgol ym maes troseddeg, ynghyd â'm profiad o weithio'n uniongyrchol gydag unigolion agored i niwed, wedi rhoi mewnwelediad gwerthfawr i mi o'r effaith gadarnhaol y gall nodau gyrfa a chyflogaeth gynaliadwy ei chael ar lesiant a rhagolygon bywyd unigolyn.
Gyda'r profiadau a'r ddealltwriaeth hyn, fy nod yw bod yn eiriolwr dros arferion gorau a darparu'r gwasanaethau gorau posibl i drigolion Ceredigion.
Tiffany Davies
Swyddog Cymorth Cyflogadwyedd, Ymgysylltu a Dylyniant
tiffany.davies@ceredigion.gov.uk
07966312098
Rwyf wedi gweithio yng Nghyngor Sir Ceredigion ers mis Ebrill 2016 ac wedi gweithio mewn rolau amrywiol yn cefnogi pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial ac i ddod yn aelodau cyfrannol gweithredol mewn cymdeithas. Cefais fy mhenodi’n Swyddog Cymorth Cyflogadwyedd, Ymgysylltu a Datblygu ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed fel rhan o Gymunedau am Waith+ o fewn y Tîm Cymorth Cyflogaeth ym mis Rhagfyr 2022 ac o fewn fy rôl rwy’n mwynhau gweithio gydag unigolion, rhanddeiliaid a phartneriaid amrywiol i wella canlyniadau cyflogaeth i bobl ifanc yng Ngheredigion.
Rwyf wedi gweithio o’r blaen ar brosiect a ariannwyd gan yr UE, a oedd yn cefnogi pobl ifanc gyda phecyn dysgu pwrpasol, a ddarparwyd yn allanol o ysgolion ar gyfer unigolion iau na 16 oed ac a oedd yn eu galluogi i ennill cymhwyster i’w cefnogi i gael cyflogaeth ôl-16. Rwyf hefyd yn gweithio ar hyn o bryd o fewn gwasanaeth arall gyda phobl ifanc sy’n aelodau o ‘Llysgenhadon Aberystwyth’ ac yn eu grymuso i arwain ar brosiectau o fewn y gymuned.
Catrin Davies
Swyddog Cyswllt Cyflogwyr/Lleoliad Gwaith
catrin.davies@ceredigion.gov.uk
07977509703
Rwy'n gweithio'n agos ac yn cysylltu â chyflogwyr lleol yng Ngheredigion gan ddarparu cymorth recriwtio yn ogystal â thrafod telerau a sicrhau cyfleoedd gwirfoddol neu gyflogaeth ar draws ystod eang o feysydd galwedigaethol. Rwy'n cynnig cymorth a chymhelliant i gyfranogwyr wrth iddynt chwilio am waith gan eu helpu i wneud cais am swyddi a mynychu cyfweliadau. Mae gen i dros 8 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y sector cyflogadwyedd. Fy hoff beth am fy rôl yw cwrdd â phobl newydd a'u helpu i gael cyflogaeth gynaliadwy.
Catherine Crees
Swyddog Datblygu Cyflogaeth
catherine.crees3@ceredigion.gov.uk
07581049644
Fy rôl yn y tîm yw sicrhau profiad gwaith â thâl, treialon gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli a hyrwyddo cyfranogwyr cefnogi Cyflogadwyedd i gyflogwyr i sicrhau cyflogaeth gynaliadwy.
Fy Nghefndir yw 26 mlynedd yn y diwydiant trin gwallt. Ymunais â Chyngor Sir Ceredigion yn y tîm cyllid a chaffael cyn symud i’r tîm cymorth Cyflogaeth.
Rhan orau'r rôl yw pan welwch ein cyfranogwr yn llwyddo mewn hyfforddiant ac o ganlyniad yn sicrhau cyflogaeth gynaliadwy, dyma hanfod ein gwasanaeth.
Delor Evans
Mentor Cyflogaeth Gymunedol - Cymunedau am Waith a Mwy
07977514896
Rydw i wedi gweithio fel mentor i'r prosiect Cymunedau am Waith a Mwy am y pum mlynedd diwethaf. Mae gen i radd mewn Cynhwysiant Cymdeithasol, rhywbeth rwy'n troi ati'n ddyddiol yn fy rôl fel mentor cyflogaeth gymunedol. Rwy'n cael boddhad mawr o weld y bobl rwy'n eu cefnogi yn cael swydd, yn enwedig pobl sydd heb weithio erioed yn eu bywydau. Yn fy ngwaith bob dydd rwy'n mynd allan i gwrdd â chyfranogwyr newydd a'u helpu i mewn i waith trwy eu cynorthwyo gyda'u CV, ceisiadau am swyddi a chyfweliadau ffug. Mae pob diwrnod yn wahanol!
Misha Homayoun-Fekri
Mentor Cyflogaeth Gymunedol - Cymunedau am Waith a Mwy
misha.homayoun-fekri@ceredigion.gov.uk
07812487763
Mae fy rôl fel Mentor Cyflogaeth yn golygu gweithio'n agos gyda chi i'ch helpu i wireddu eich nodau, boed hynny'n gweithio ym maes manwerthu, neu gael lle ar gwrs a fydd yn eich galluogi i weithio yn y maes o'ch dewis. Byddwn yn mabwysiadu dull gweithio cam wrth gam a gallwch gysylltu â mi unrhyw bryd. Does byth cwestiwn gwirion!
Fy nghefndir yw gweithio un-i-un gyda phobl sy'n wynebu heriau wrth geisio cael hyd i waith. Gall yr heriau hyn fod yn unrhyw beth o rwystrau ariannol i anawsterau dysgu. Mae fy null gweithio fel mentor yn hamddenol ond gyda nodau realistig i'w cyrraedd gyda fy nghymorth i.
Fy hoff beth am fy swydd yw helpu rhywun i gael gwaith a mynd i mewn 6 mis yn ddiweddarach i'w gweld nhw yno yn hapus. Mae'n rhoi teimlad mawr o lwyddiant i mi weld fy nghyfranogwyr yn magu hyder!
Jasmin Bottone
Swyddog Cymorth Cyflogadwyedd
jasmin.bottone@ceredigion.gov.uk
07971952143
Mae bod yn Fentor Cymunedol yn rhoi cymaint i unigolion ac yn lleihau’r rhwystrau y gall unigolion eu hwynebu o ddydd i ddydd, h.y. gofal plant, teithio sy’n eu rhwystro rhag cyrraedd eu llawn botensial a dod o hyd i waith sy’n talu’n well. Rydym yn gweithio'n agos ochr yn ochr â nhw, ac yn cefnogi eu hanghenion unigol fesul achos.
Gyda chefndir yn y GIG mae gennyf brofiad o weithio gydag unigolion ifanc, a theuluoedd, a'u cefnogi yn eu llwybr gofal iechyd. Mae’r profiad hwn yn fuddiol i’r rôl Mentor Cymunedol gan ein bod yn gweithio'n agos gydag unigolion i sicrhau bod eu nodau yn cael eu cyflawni.
Rwy'n mwynhau cyfarfod ag unigolion newydd, a gwrando ar eu hanes, a'u cefndiroedd. Wrth oresgyn eu heriau a’u pryderon eu hunain, mae’n fuddiol tu hwnt allu dod o hyd i waith iddynt y byddant yn hapus ynddo.
Megan Isaac-Richards
Mentor Cyflogaeth Gymunedol Cymunedau am Waith a Mwy
megan.isaac-richards@ceredigion.gov.uk
Rwy'n helpu pobl ifanc ac oedolion agored i niwed i gael hyfforddiant, cymwysterau, gwirfoddoli a chyflogaeth o fewn diwydiannau sy'n darparu dyfodol gwell i bawb. Gan weithio'n bennaf gyda chyfranogwyr ag anghenion cymhleth neu euogfarnau troseddol, rwy'n gweithio'n galed i'w helpu i ddechrau pennod newydd yn eu bywydau. Rwy'n darparu cefnogaeth a sefydlogrwydd wrth iddynt ddod o hyd i'w nodau newydd a chreu perthnasoedd effeithiol i arwain a mentora pob unigolyn, gan ganolbwyntio ar fewnbwn aml-asiantaeth a chwalu'r rhwystrau i ddod o hyd i gyflogaeth ystyrlon.
Mae fy nghefndir mewn gweithio gyda throseddwyr ifanc ac ym maes addysg y celfyddydau yn fy ngalluogi i feddwl yn greadigol a mabwysiadu dull gweithio aml-asiantaeth i gael canlyniadau sy'n para ac o fudd i'r bobl rwy'n gweithio gyda nhw, nid un dull sy'n addas i bawb.
Fy hoff beth am fy swydd yw gweld unigolion sydd wedi anobeithio a cholli chymhelliant a bron â chael eu diystyru'n llwyr gan gymdeithas yn ailgydio yn eu hyder ac yn gweithio tuag at ddechrau o'r newydd.
Rachel Tuck
Mentor Cyflogaeth Gymunedol - Cymunedau am Waith a Mwy
Rwy'n gweithio gyda Chymunedau am Waith a Mwy ac yn ceisio darparu rhaglen bwrpasol o gymorth i helpu i chwalu unrhyw rwystrau i gyflogaeth y gall pobl eu hwynebu. Mae fy nghefndir mewn Addysg a Gweinyddiaeth yn bennaf. Rydw i wedi gweithio gyda phobl ifanc rhwng 11-18 oed am y 13 mlynedd a mwy diwethaf ond roeddwn i'n barod am her newydd. Rwy'n mwynhau fy rôl newydd yn helpu yn y gymuned gyda phobl o bob oed. Fy hoff beth am y rôl hon yw bod pob diwrnod yn wahanol ac rwy'n cael cwrdd â chymaint o bobl newydd o gefndiroedd amrywiol.