Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Yr Urdd yn croesawu cynnig Ceredigion i gynnal Eisteddfod y canmlwyddiant

Mae Urdd Gobaith Cymru yn croesawu’r cyhoeddiad bod Cyngor Sir Ceredigion yn cynnig cartref i Eisteddfod yr Urdd yn 2029, sef blwyddyn dathlu canmlwyddiant yr ŵyl.

Meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru: “Rydym yn falch iawn o glywed bod aelodau Cabinet Cyngor Sir Ceredigion wedi cytuno'n ffurfiol i gynnig cartref i Eisteddfod yr Urdd yn 2029, ar beth fydd blwyddyn arbennig iawn, sef blwyddyn dathlu canmlwyddiant ein prifwyl.

“Llwyddiant yr Eisteddfod yr Urdd gyntaf yng Nghorwen yn 1929 yw’r sylfaen i’r hyn a welwn heddiw, ac edrychwn ymlaen yn eiddgar at ddychwelyd i Geredigion am y tro cyntaf ers 2010. Ein bwriad yw cynnal cyfarfod cyhoeddus ar nos Iau, 18 Mehefin er mwyn dechrau ar y gwaith trefnu ar y cyd â gwirfoddolwyr lleol.”

Y tro diwethaf i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Cheredigion oedd yng Nghiliau Aeron yn 2010, a chyn hynny yn Llanbedr Pont Steffan yn 1999.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae’n achlysur balch iawn i Geredigion gael y cyfle i gynnig cartref i Eisteddfod yr Urdd yn ystod blwyddyn ei chanmlwyddiant, sy'n atgyfnerthu’r gwreiddiau a’r cysylltiadau dwfn sydd gan Ceredigion â'r Urdd. Mae’r ŵyl yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi’r Gymraeg, y celfyddydau a chyfleoedd i blant a phobl ifanc, ac edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda’r Urdd a chymunedau lleol i wireddu Eisteddfod gofiadwy yn 2029.”

Meddai Helen Medi, Cadeirydd Rhanbarth Ceredigion yr Urdd: “Mae pwyllgor rhanbarth Ceredigion yn llawenhau o glywed y newyddion cyffrous fod yr wŷl yn dychwelyd i’r sir yn 2029. Pa le gwell i ddathlu canfed penblwydd yr Eisteddfod nag yng nghwmni'r Cardis! Rydym yn awchu i ddechrau ar y gwaith o gyd-weithio gyda'r holl ran-ddeiliaid er mwyn sicrhau y cyfleodd a'r profiadau gorau i'n plant a'n pobol ifanc.”

Bydd Eisteddfod yr Urdd Bro’r Wenynen, Gwent 2027 yn cael ei chynnal yng Nghasnewydd a hynny 
am y tro cyntaf erioed. Ardal Caernarfon yn rhanbarth Eryri fydd cartref Eisteddfod yr Urdd 2028. 

27/05/2026