Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Tîm Cymorth Cyflogadwyedd yn cefnogi preswylydd lleol ar daith lwyddiannus o’r gwasanaeth prawf i gyflogaeth

Mae Tîm Cymorth Cyflogadwyedd Cyngor Sir Ceredigion yn falch o dynnu sylw at y cynnydd rhyfeddol a wnaed gan Terry (enw wedi’i newid), trigolyn lleol sydd wedi trawsnewid ei fywyd drwy benderfyniad, gweithio mewn partneriaeth a chymorth amlasiantaethol wedi’i dargedu.

Cyfeiriwyd Terry at y Tîm Cymorth Cyflogadwyedd gan dîm Rheoli Troseddwyr Integredig (IOM) Heddlu DyfedPowys ym mis Ionawr 2025, yn dilyn ei ryddhau o’r carchar. O’r cychwyn cyntaf, dangosodd Terry ymrwymiad cryf i newid drwy fynychu apwyntiadau’n gyson, ymgysylltu’n llawn â gwasanaethau cymorth, a mynegi awydd clir i adeiladu dyfodol sefydlog i ffwrdd o’r system cyfiawnder troseddol.

Gan weithio’n agos gyda Heddlu Dyfed‑Powys – IOM, y Gwasanaeth Prawf, a Gwasanaeth Ailsefydlu Troseddwyr Auriol yn Castell Ventures, cefnogodd y Tîm Cymorth Cyflogadwyedd Terry i oresgyn rhwystrau allweddol i gyflogaeth ac i ail‑integreiddio i’r gymuned.

Gyda diddordeb hirsefydlog yn y diwydiant adeiladu, roedd Terry yn awyddus i ddychwelyd i’r sector ond roedd yn wynebu rhwystr sylweddol gan fod ei gerdyn CSCS wedi dod i ben sawl blwyddyn ynghynt. Trefnodd y Tîm Cymorth Cyflogadwyedd yr hyfforddiant a’r asesiadau angenrheidiol, a llwyddodd Terry i basio ei arholiadau Highfield a Pearson y tro cyntaf.

Ar yr un pryd, cefnogodd asiantaethau partner Terry i ymgartrefu mewn cartref newydd gyda’i bartner, lle maent ers hynny wedi croesawu eu plentyn cyntaf. Gyda mwy o sefydlogrwydd yn ei le, dechreuodd y Tîm Cymorth Cyflogadwyedd archwilio cyfleoedd cyflogaeth addas oedd yn cydfynd â nodau ac uchelgeisiau Terry.

Yn dilyn trafodaethau gyda Shaun, goruchwyliwr yn LJV Construction Ltd, cafodd Terry gyfle i gael cyfweliad am rôl llafurio. Roedd Shaun wedi’i hysbysu’n llawn am gefndir Terry a’i statws prawf, ac roedd yn awyddus i gefnogi rhywun oedd yn amlwg yn gymhellol i ailadeiladu ei fywyd.

Ar ôl cyfweliad llwyddiannus, dechreuodd Terry weithio gyda LJV Construction ym mis Awst 2025. Mabwysiadodd ddisgwyliadau’r rôl yn llawn, gan gynnwys profion alcohol a sylweddau ar hap, a buan y profodd ei hun yn aelod dibynadwy a brwdfrydig o’r tîm. Mae ei ymrwymiad a’i foes gwaith gadarn eisoes wedi arwain at gyfleoedd i ddysgu gosod brics ochr yn ochr â chrefftwyr profiadol.

Er mwyn helpu Terry i ddechrau gweithio heb straen ariannol, darparodd y Tîm Cymorth Cyflogadwyedd gyfarpar diogelu personol (PPE) hanfodol a dillad gwaith, gan nad oedd yn gallu fforddio’r eitemau hyn tra’n ymdopi â chostau byw bob dydd. Mae’r tîm yn parhau i gadw mewn cysylltiad rheolaidd â Terry a LJV Construction, gan dderbyn adborth cadarnhaol gyson. Yn ddiweddar, mae Terry hefyd wedi gwneud cais am gymorth ychwanegol i gael offer i’w helpu i symud ymlaen ymhellach yn ei hyfforddiant gosod brics.

Dywedodd Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Mae’r canlyniad hwn yn adlewyrchu ymrwymiad ac ymagwedd gydweithredol y Tîm Cymorth Cyflogadwyedd a’n hasiantaethau partner, sy’n gweithio’n ddiflino i gefnogi unigolion ag anghenion cymhleth. Drwy feithrin perthnasoedd cryf â gwasanaethau fel Heddlu DyfedPowys, y Gwasanaeth Prawf, partneriaid y trydydd sector a chyflogwyr lleol, mae’r tîm yn gallu darparu cymorth wedi’i deilwra ac ymarferol sy’n dileu rhwystrau ac yn agor cyfleoedd go iawn. Mae straeon fel hyn yn dangos pam mae gweithio mewn partneriaeth mor bwysig – nid yn unig mae’n helpu unigolion i symud i mewn i gyflogaeth gynaliadwy, ond mae hefyd yn cefnogi teuluoedd cryfach, cymunedau mwy diogel a newid cadarnhaol hirdymor.”

Mae taith Terry yn tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol gall gweithio ar y cyd ei chael pan fo asiantaethau’n dod at ei gilydd gyda ymrwymiad ar y cyd i gefnogi unigolion. Drwy ymdrechion ar y cyd rhwng Tîm Cymorth Cyflogadwyedd Cyngor Sir Ceredigion, Heddlu DyfedPowys – IOM, y Gwasanaeth Prawf, Gwasanaeth Ailsefydlu Troseddwyr Auriol yn Castell Ventures, a LJV Construction Ltd, mae Terry wedi symud tuag at hunaniaeth gymdeithasol gadarnhaol, llwybr rhydd o droseddu, a dyfodol mwy sicr iddo ef a’i deulu.

Mae’r Tîm Cymorth Cyflogadwyedd yn parhau i fod yn ymrwymedig i helpu unigolion i oresgyn rhwystrau, cael mynediad at gyflogaeth ystyrlon, ac adeiladu dyfodol mwy disglair.

Am ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael gan y Tîm Cymorth Cyflogadwyedd, anfonwch e‑bost at tcc-est@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01545 570881.

23/01/2026