Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Teuluoedd yng Ngheredigion i elwa o Gynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru estynedig o fis Tachwedd

O fis Tachwedd, bydd teuluoedd ledled Ceredigion yn elwa o gynnig gofal plant Llywodraeth Cymru estynedig, sy'n cynnig gofal plant am ddim i blant dwy oed cymwys ledled y sir.

Mae'r ehangiad hwn yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu system gofal plant a ariannir, o'r ansawdd gorau, i deuluoedd ledled Cymru ac fe fydd yn sicrhau y gall mwy o blant yn Sir Ceredigion fanteisio ar gyfleoedd dysgu cynnar gwerthfawr agosach at adref.

Bydd y cynnig yn darparu 12.5 awr o ofal plant wedi’i ariannu bob wythnos i blant cymwys, trwy cefnogi eu dysgu, datblygiad a llesiant yn ystod blynyddoedd cynnar hollbwysig eu bywydau.

Bydd y ddarpariaeth ehangach yn cael ei ddarparu trwy rwydwaith gweithwyr gofal plant cofrestredig Ceredigion, gan alluogi teuluoedd i gael mynediad at wasanaethau gofal plant o ansawdd.

Dywedodd Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet Ceredigion dros Lesiant Gydol Oes, Cefnogaeth a Gofal: "Rydym wrth ein bodd, y byddwn o fis Tachwedd 2026 ymlaen, yn gallu cefnogi teuluoedd ledled Ceredigion i elwa ar gynnig gofal plant estynedig Llywodraeth Cymru.

"Bydd y buddsoddiad hwn yn ein plant ieuengaf yn helpu sicrhau bod ganddynt y dechrau gorau posibl yn eu bywydau, tra hefyd yn cynnig cymorth gwerthfawr i rieni a gofalwyr. Drwy estyn y cynnig ar draws y sir, rydym yn creu mwy o gyfleoedd i deuluoedd ac yn sicrhau bod mwy o blant i gael profiadau blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel sy'n cefnogi eu datblygiad a'u llesiant yn y dyfodol."

Mae'r cynnig yn adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i gefnogi plant a theuluoedd trwy ymyrraeth gynnar a rhwystro problemau, gan sicrhau bod gan bob plentyn y cyfle i ffynnu, waeth ble maen nhw'n byw.

Anogir rhieni a gofalwyr i ddysgu mwy am y cymorth sydd ar gael a sut i fanteisio ar y cynnig gofal plant trwy ymweld â gwefan y Cyngor ar Dechrau’n Deg - Cyngor Sir Ceredigion neu trwy gysylltu â thîm Dechrau'n Deg ar dechraundeg@ceredigion.gov.uk neu 01545 570 881.

Mae ehangu gwasanaethau ledled y sir yn gam pwysig arall wrth gryfhau gwasanaethau blynyddoedd cynnar yng Ngheredigion, yn ogystal â pharhau i helpu teuluoedd i gael gofal plant fforddiadwy ac o ansawdd da sy'n rhoi'r dechrau gorau posibl i'r plant.
 

21/09/2026