Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Teithio Llesol yng Ngheredigion – dweud eich dweud

Mae pobl ledled y sir yn cael eu gwahodd i rannu eu barn ar ble y gellir gwneud Teithio Llesol yn fwy diogel ac yn haws i bawb.

O dan ddyletswyddau statudol Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, mae'n ofynnol i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru gyflwyno Mapiau o’r Rhwydwaith Teithio Llesol i Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2026. Mae'r mapiau hyn yn cefnogi’r gwaith o gynllunio, cyflawni ac ariannu cynlluniau teithio llesol, gan helpu i greu rhwydwaith mwy integredig, hygyrch a chynaliadwy ar gyfer teithio trwy gerdded, ar olwynion ac ar feic.

Mae'r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar y prif drefi, sef Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan, sydd wedi'u dethol gan Lywodraeth Cymru fel y lleoliadau Teithio Llesol dynodedig yn y sir.

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg rhwng 09 Chwefror a 22 Mawrth 2026 a gellir dod o hyd i ragor o fanylion ar dudalen Ymgysylltu ac Ymgynghoriadau’r Cyngor: Map o’r Rhwydwaith Teithio Llesol - Cyngor Sir Ceredigion. Bydd y dudalen hon yn helpu i gyfeirio’r cyhoedd at fap rhyngweithiol lle gellir cyflwyno sylwadau ynghylch pa lwybrau yr hoffent eu gweld yn cael eu cyflwyno neu eu gwella. 

Gan gefnogi’r gwaith hwn o ymgysylltu â’r cyhoedd, dywedodd y Cynghorydd Shelley Childs, Aelod Cabinet Ceredigion dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol,  “Mae teithiau llesol yn cynnig ystod eang o fanteision gan gynnwys helpu i leihau carbon, gwella ansawdd yr aer yn lleol, a gwella iechyd a lles pawb. Mae hwn yn gyfle gwych i drigolion Ceredigion ddweud wrthym beth yr hoffent ei weld yn cael ei gynnwys yn ein Map Rhwydwaith Teithio Llesol yn y dyfodol.”

Mae rhagor o fanylion am Deithio Llesol yng Ngheredigion ar gael ar wefan y Cyngor: https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/teithio-ffyrdd-a-pharcio/teithio-llesol/

09/02/2026