Sesiwn Siarad Yr Hen Lew Du yn lansio yn Aberystwyth i gefnogi dysgwyr Cymraeg
Mae Cered: Menter Iaith Ceredigion yn lansio gweithgaredd newydd yn nhafarn Cymraeg enwog Yr Hen Lew Du, Aberystwyth ar gyfer helpu meithrin hyder dysgwyr Cymraeg i ddefnyddio’r iaith yn y gymuned.
Fe fydd ‘Sesiwn Siarad Yr Hen Lew Du’ yn cychwyn ar nos Fawrth Mehefin yr 2il am 7 o’r gloch yr hwyr ac yn agored i ddysgwyr Cymraeg o bob lefel yn ogystal â siaradwyr rhugl. Nod y Sesiwn yw i dynnu siaradwyr Cymraeg ynghyd i sgwrsio, cymdeithasu a chael hwyl yn y Gymraeg mewn awyrgylch gyfeillgar.
Mae’r Sesiwn yn ymateb i’r prinder o gyfleoedd sydd gan ddysgwyr Cymraeg i ymarfer gyda’r hwyr. Tra fod nifer o foreau coffi yn ystod yr wythnos i ddysgwyr yn ardal Aberystwyth gall fynychu rhain fod yn anodd neu yn amhosib i’r rheiny sydd yn gweithio.
Dywedodd Elin Mai Williams, Swyddog Datblygu Cered a threfnydd y Sesiwn: "Mae Cered yn awyddus i sicrhau cyfleoedd hygyrch i ddysgwyr ledled y sir ac er mwyn gwneud hynny mae trefnu gweithgareddau gyda’r hwyr fel yr un yma yn bwysig hefyd.”
Dywedodd Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Mae cefnogi siaradwyr newydd i ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus ymhob man yn y Sir yn waith pwysig a hynod bleserus. Mae mentrau fel Sesiwn Siarad Yr Hen Lew Du yn ffordd wych o ddod â phobl ynghyd mewn awyrgylch gyfeillgar, a rwy’n gobeithio y bydd yn ysgogi mentrau tebyg ar hyd Ceredigion.”
Yn dilyn y Sesiwn gyntaf fe fydd Sesiwn Siarad Yr Hen Lew Du yn cwrdd yn fisol ar nos Fawrth gyntaf pob mis.
Mae Cered hefyd yn cydlynu rhaglen o weithgareddau i ddysgwyr o gwmpas Ceredigion gan gynnwys sesiynau sgwrsio a theithiau cerdded. I ddarganfod y gweithgareddau yma dilynwch Cered ar Facebook ac Instagram neu e-bostiwch cered@ceredigion.gov.uk
01/06/2026