Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Rhieni Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn annog rhagor o deuluoedd i ystyried mabwysiadu

Mae Rhieni Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru sydd wedi creu eu teuluoedd drwy fabwysiadu yn annog eraill i ystyried darparu cartref mabwysiadol sefydlog a diogel i blentyn mewn gofal yng Nghymru.

Yn ystod Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu (19-25 Hydref 2026), mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yn gofyn i ragor o bobl ledled Cymru ystyried mabwysiadu wrth gynllunio eu teuluoedd. Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yn dathlu ail flwyddyn ei ymgyrch Mae Nawr yn Amser Da, ac yn ysbrydoliaeth y mae storïau am yr eiliad dyngedfennol pryd penderfynodd rhieni ddechrau'r broses fabwysiadu.

Ar draws Cymru, mae ymholiadau cychwynnol ynghylch mabwysiadu wedi cynyddu 10% dros y flwyddyn ddiwethaf, sy'n newid cadarnhaol yn dilyn gostwng am sawl blwyddyn. Fodd bynnag, mae'r angen am deuluoedd mabwysiadol hefyd wedi tyfu. Cynyddodd nifer y plant sy'n aros i gael eu mabwysiadu 11%, gyda 310 o blant yn aros ar hyn o bryd.

Un rhiant sy'n gobeithio annog eraill i ystyried mabwysiadu yw Carys o Geredigion, a wnaeth fabwysiadu drwy Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Ychydig cyn priodi ei gŵr, Aled, dywedwyd wrth Carys na fyddai'n gallu cael plant yn naturiol heb driniaeth ffrwythlondeb. Ar ôl ystyried eu dewisiadau, penderfynodd y cwpwl ddilyn trywydd mabwysiadu a dechrau cynyddu eu teulu mewn ffordd wahanol.

Cewch weld y fideo yma: Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu 2026 National Adoption Week 2026 | Videos & Movies on Vimeo

Dywedodd Carys, rhiant mabwysiadol gyda Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru: "Pan ma'r plentyn 'na'n dod adre i dy ddwylo di, mae popeth werth e. 'Sdim byth amser perffeth. Yr amser perffeth yw pan ma' nhw getre."

Ychwanegodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet Ceredigion sy'n gyfrifol am Llesiant Gydol Oes: "Mae mabwysiadu yn cynnig cyfle i blant dyfu i fyny mewn amgylchedd diogel, sefydlog a chariadus. Mae teuluoedd mabwysiadol yn gwneud gwahaniaeth parhaol i fywydau plant a phobl ifanc ar draws Ceredigion a'r rhanbarth ehangach. Yn ystod Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu, hoffwn annog unrhyw un sydd wedi ystyried mabwysiadu i ddysgu mwy am y broses a'r cymorth sydd ar gael drwy Fabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru."

Dywedodd Eifion Burke, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru: "Mae Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu yn gyfle gwych i rannu a dathlu'r llawenydd sydd wedi dod i ran cynifer o deuluoedd yng Nghymru drwy fabwysiadu. Wrth i fi ddechrau fy nhaith fel Cyfarwyddwr, rwy' am achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r holl deuluoedd sydd wedi agor eu cartrefi, ac annog rhagor i ddod ymlaen."

Er bod heriau unigryw yn perthyn i fabwysiadu, gall hefyd fod yn siwrnai sy'n rhoi boddhad rhyfeddol. Rydyn ni am i bobol wybod nad oes neb sy'n mabwysiadu ar ben ei hun. Mae ystod eang o gymorth ar gael i blant a theuluoedd mabwysiadol ledled Cymru, gan gynnwys gwasanaethau therapiwtig, rhwydweithiau cyfoedion a chymorth cymunedol, gan helpu teuluoedd i feithrin perthnasoedd cryf, cadarnhaol a pharhaol."

Mabwysiadu yw un o'r ffyrdd mwyaf pwerus y gallwn ni newid dyfodol plentyn. Fy ngweledigaeth i yw bod Cymru yn parhau i arwain y ffordd o ran darparu gwasanaethau mabwysiadu o safon, gan sicrhau bod pob plentyn, teulu mabwysiadol, a theulu geni yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw nid yn unig i oresgyn heriau, ond i ffynnu a chyrraedd eu potensial llawn."

I gael rhagor o wybodaeth am fabwysiadu yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, ewch i wefan Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru.

20/10/2026