Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Rhannwch eich barn ar y Polisi Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol a Lleihau Arferion Cyfyngol newydd

Gwahoddir cydweithwyr, partneriaid a defnyddwyr gwasanaeth i rannu eu barn ar ei ddrafft Polisi Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol (PBS) a Lleihau Arferion Cyfyngol (RRP).

Datblygwyd y polisi er mwyn lleihau’r defnydd o arferion cyfyngol, megis atal corfforol, ac i gefnogi ymddygiad cadarnhaol ar draws gwasanaethau gofal cymdeithasol ac addysg. Nod y polisi yw diogelu hawliau a llesiant y rhai sy’n derbyn cymorth, gan gynnwys plant, pobl ifanc, pobl hŷn a phobl anabl, gan gydnabod y gall arferion cyfyngol achosi niwed os cânt eu defnyddio’n ddiangen neu’n amhriodol.

Drwy hyrwyddo cymorth ymddygiad cadarnhaol a dulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, mae’r Cyngor yn ceisio creu amgylcheddau mwy diogel, cryfhau ymddiriedaeth a sicrhau safonau gofal cyson ac uchel ar draws ei wasanaethau. Mae’r polisi’n nodi ymrwymiad clir i urddas a pharch, gyda ffocws ar gymorth cynnar, ataliol ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

Mae’r Cyngor wedi paratoi polisi drafft ac mae bellach yn ceisio adborth i lywio’r fersiwn derfynol.

Bydd eich barn yn helpu’r Cyngor i sicrhau bod y polisi’n glir, yn ymarferol ac yn adlewyrchu anghenion y rhai sy’n gweithio o fewn, ac yn cael eu cefnogi gan, wasanaethau gofal cymdeithasol ac addysg.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet ar gyfer Llesiant Gydol Oes: “Mae lleihau'r defnydd o ataliad corfforol drwy gefnogi ymddygiad cadarnhaol yn hanfodol er mwyn darparu gofal diogel, tosturiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Rydym yn ymgynghori er mwyn sicrhau bod y polisi newydd yn adlewyrchu profiadau'r rhai sy'n darparu ac yn derbyn gwasanaethau.”

Mae’r dudalen ymgynghori yn darparu rhagor o wybodaeth am y polisi, ynghyd â dogfennau ategol gan gynnwys yr Asesiad Effaith Integredig a manylion ar sut i gymryd rhan.

Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 24 Awst 2026.

Gellir gweld manylion pellach a’r ymgynghoriad ar wefan y Cyngor: Polisi Drafft Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol - Cyngor Sir Ceredigion

09/06/2026