Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Rhannwch eich barn ar gynlluniau’r dyfodol ar gyfer Pont Rhiwarthen, Capel Bangor

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gwahodd trigolion, busnesau a defnyddwyr y ffordd i rannu eu barn ar y gwaith gwella arfaethedig i Bont Rhiwarthen yng Nghapel Bangor.

Mae Pont Rhiwarthen yn groesfan boblogaidd sy’n cefnogi teithiau bob dydd i’r gymuned leol, cerbydau amaethyddol, busnesau ac ymwelwyr. Mae asesiadau strwythurol wedi nodi’r angen am welliannau sylweddol er mwyn sicrhau bod y bont yn ddiogel, yn ddibynadwy ac yn addas i’w diben yn y tymor hir. Mae’r Cyngor wedi paratoi cynigion cychwynnol ar gyfer cynllun newydd ac mae bellach yn ceisio adborth i helpu llunio’r dyluniad terfynol.

Mae’r cynllun arfaethedig yn amlinellu atebion tymor hir i fynd i’r afael â chyflwr y strwythur presennol, gwella diogelwch, a chynnal mynediad hanfodol i drigolion, gwasanaethau brys, gweithrediadau ffermio a busnesau lleol. Mae’r dudalen ymgynghori yn darparu gwybodaeth gefndir, opsiynau dan ystyriaeth a manylion dylunio cynnar ar gyfer y gwaith adnewyddu neu wella.

Bydd eich barn yn helpu’r Cyngor i ddeall yn well sut y gall y cynllun ddiwallu anghenion y gymuned a lleihau tarfu yn ystod y gwaith adeiladu.

Dywedodd y Cynghorydd Shelley Childs, Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol:

“Mae Pont Rhiwarthen yn chwarae rôl bwysig wrth gadw cymunedau o amgylch Capel Bangor yn gysylltiedig, ac mae’n hanfodol i unrhyw ateb tymor hir adlewyrchu anghenion a phrofiadau’r bobl sy’n dibynnu arni bob dydd.

Rydym am glywed gan drigolion, busnesau ac unrhyw un sy’n defnyddio’r bont fel y gall eu lleisiau ddylanwadu ar y dyluniad terfynol. Rwy’n annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn a helpu i lunio dyfodol y groesfan bwysig hon.”

Bydd yr ymgynghoriad ar agor am chwe wythnos o 16 Chwefror 2026.

Gellir gweld manylion pellach am y cynigion a’r ymgynghoriad ar wefan y Cyngor:
Pont Rhiwarthen, Capel Bangor - Ceredigion County Council

17/02/2026