Rhannwch eich barn ar gynlluniau’r dyfodol ar gyfer dau safle allweddol yn Llandysul
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gwahodd trigolion i gymryd rhan mewn ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol defnydd dau safle pwysig yn Llandysul – cyn gartref gofal Awel Deg a chaeau chwarae’r hen ysgol.
Yn dilyn dyfarnu cyllid drwy Gronfa Bartneriaeth Strategol y DU, mae dau ymgynghorydd allanol wedi’u penodi i ddatblygu cynigion ar gyfer y lleoliadau hyn. Fel rhan o’r gwaith cynnar hwn, mae’r Cyngor yn ceisio mewnwelediad lleol i helpu siapio cyfeiriad y cynlluniau.
Bydd Common Works Architecture ac Initiate Architecture yn cynnal sesiwn ymgynghori agored yn Y Porth Hotel, Llandysul, ar 28 Ionawr, rhwng 14:30–16:00. Anogir trigolion lleol i fod yn bresennol, i weld syniadau cychwynnol ac i rannu eu dyheadau ar gyfer defnydd posibl y safleoedd hyn yn y dyfodol.
Yn ogystal â’r digwyddiad wyneb yn wyneb, mae ffurflen ar-lein ar gael i’r rhai sy’n dymuno cyflwyno eu syniadau’n ddigidol.
Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet dros yr Economi, Adfywio a Rheoli Carbon: “Mae mewnbwn gan y gymuned yn hanfodol wrth i ni archwilio defnyddiau posibl ar gyfer y safleoedd amlwg hyn yn Llandysul. Rydym yn annog trigolion i gymryd rhan a helpu llywio’r cynigion sy’n dod i’r amlwg.”
Gellir dod o hyd i’r ffurflen ar-lein yma: https://roryakavanagh.questionpro.com/a/TakeSurvey?tt=jlt5K16z7PcECHrPeIW9eQ%3D%3D
27/01/2026