Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Rhaglen ymgysylltu ysgolion Rali Ceredigion yn ysbrydoli pobl ifanc ledled y sir

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi croesawu twf parhaus rhaglen ymgysylltu ysgolion Rali Engage, sydd wedi cyrraedd mwy na 4,500 o blant ysgol, myfyrwyr a phobl ifanc ledled y rhanbarth cyn JDS Machinery Rali Ceredigion eleni.

Fel rhan o’r rhaglen, mae gyrwyr a cheir rali wedi ymweld â mwy na 40 o ysgolion cynradd, meithrinfeydd ac unedau cyfeirio disgyblion ledled Ceredigion, gan roi cyfle i ddisgyblion ddysgu am ddiogelwch ar y ffyrdd, gofyn cwestiynau a gweld y ceir yn agos. Cynhaliwyd Diwrnod Profiad Ysgolion newydd hefyd i ddisgyblion uwchradd ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid, lle cafodd 250 o fyfyrwyr gyfle i ddysgu mwy am gyfleoedd addysg a gyrfaoedd sy’n gysylltiedig â chwaraeon moduro a’r gadwyn gyflenwi ehangach.

 

 

 

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae Rali Ceredigion yn ddigwyddiad rhyngwladol mawr, ond mae hefyd wedi’i wreiddio’n gadarn yn ein cymunedau lleol. Mae’n wych gweld y gwaith sy’n digwydd mewn ysgolion ledled Ceredigion i helpu pobl ifanc i ddysgu mwy am ddiogelwch ar y ffyrdd, gyrfaoedd, gwirfoddoli a’r sgiliau sy’n gysylltiedig â chwaraeon moduro. Mae’r ymweliadau hyn yn dangos bod y rali yn fwy na digwyddiad chwaraeon; mae hefyd yn gyfle i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf ac i arddangos y dalent a’r cyfleoedd sydd gennym yma yng Ngheredigion.”

Mae mwy na 20 o yrwyr wedi cefnogi’r ymweliadau ag ysgolion, gan gynnwys cystadleuwyr blaenllaw Pencampwriaeth Rali Prydain a chystadleuwyr lleol, sydd wedi rhoi o’u hamser i gwrdd â disgyblion, siarad am eu profiadau ac ateb cwestiynau am y gamp.

Daeth Diwrnod Profiad Ysgolion â busnesau, prifysgolion, colegau, darparwyr hyfforddiant, gwasanaethau brys a sefydliadau diogelwch ffyrdd ynghyd. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys efelychwyr rali, gwybodaeth am yrfaoedd a chyfweliadau byw gyda phobl ifanc leol sydd wedi datblygu gyrfaoedd mewn chwaraeon moduro ledled y byd.

Mae adborth gan ysgolion wedi bod yn gadarnhaol, gyda disgyblion yn disgrifio’r diwrnod fel profiad ysbrydoledig ac fel cyfle i archwilio amrywiaeth o lwybrau gyrfa sy’n gysylltiedig â pheirianneg, technoleg, y cyfryngau, diogelwch a chynnal digwyddiadau.

Dywedodd David Edwards, Rheolwr Rali Engage Rali Ceredigion: “Mae Diwrnod Profiad Ysgolion a’r ymweliadau ag ysgolion wedi helpu i ddangos yr amrywiaeth eang o gyfleoedd sydd ar gael ym maes chwaraeon moduro a diwydiannau cysylltiedig. Os gallwn ysbrydoli hyd yn oed nifer fach o bobl ifanc i edrych ar y llwybrau gyrfa ac addysg hyn, yna mae’r rhaglen yn werth chweil. Rydym yn ddiolchgar i’r ysgolion, y gyrwyr, y gwirfoddolwyr a’r partneriaid sydd wedi helpu i wneud rhaglen eleni yn gymaint o lwyddiant.”

Bydd JDS Machinery Rali Ceredigion yn dychwelyd ym mis Medi fel rhan o Bencampwriaeth Rali Ewrop yr FIA a Phencampwriaeth Rali Prydain. Bydd y digwyddiad yn dechrau gyda chychwyn seremonïol ar Bromenâd Aberystwyth ddydd Iau 3 Medi, cyn cynnal cymalau ledled Ceredigion a Phowys rhwng 4–6 Medi.

Mae rhagor o wybodaeth am Rali Ceredigion 2026 ar gael ar dudalen benodol y Cyngor: JDS Machinery Rali Ceredigion 2026 - Cyngor Sir Ceredigion

21/07/2026